Skip to main content

TfW launch partnership with Stonewall Cymru on IDAHOBIT

17 Mai 2021

Rydyn ni’n falch o gyhoeddi bod ein partneriaeth newydd, gyda Stonewall Cymru sy’n dechrau heddiw, 17 Mai. Mae hyn yn amserol iawn oherwydd mae heddiw yn Ddiwrnod Rhyngwladol yn erbyn Homoffobia, Biffobia a Thrawsffobia (IDAHOBIT), sy’n dathlu amrywiaeth ac yn codi ymwybyddiaeth o hawliau dynol pobl lesbiaidd, hoyw, deurywiol, trawsryweddol a rhyngrywiol. 

Mae rhagor o wybodaeth am IDAHOBIT yma.

I’r rheini sydd ddim yn gwybod, Stonewall yw’r elusen hawliau LHDTC+ fwyaf yn Ewrop. Mae’n ymgyrchu dros gydraddoldeb i bobl lesbiaidd, hoyw, deurywiol a thrawsryweddol ledled Prydain. Ei nod yw sicrhau bod pob unigolyn LHDTC+ yn cael ei dderbyn yn ddieithriad.  

Dywedodd Ffion Grundy, Pennaeth Rhaglenni Stonewall Cymru: “Rydyn ni wrth ein bodd bod Trafnidiaeth Cymru wedi ymuno â’r rhaglen Hyrwyddwyr Amrywiaeth Cymru. Drwy’r rhaglen, bydd Trafnidiaeth Cymru yn cael cymorth wedi’i deilwra a fframwaith i helpu i greu gweithle sy’n fwy cynhwysol lle gall staff LHDTC+ ffynnu.  Rydyn ni’n gobeithio y bydd hyn hefyd yn cael effaith gadarnhaol ar eu cwsmeriaid ledled Cymru hefyd.”  

StoneWall Cymru-2

Dywedodd Emma Eccles, ein Pennaeth Trawsnewid AD, “Rwyf wrth fy modd ein bod bellach yn gweithio mewn partneriaeth â Stonewall. Rydyn ni’n credu y dylai ein holl weithwyr allu dod â nhw eu hunain i gyd i’r gwaith a bydd y bartneriaeth hon yn ein helpu i sicrhau bod gennym ni’r polisïau a’r arferion cywir ar waith.

"Bydd hyn, ynghyd â’r gwaith rydyn ni’n yn ei wneud gyda’r rhaglen Cyflogwr Chwarae Teg, yn sbarduno ein huchelgais i fod yn un o gyflogwyr mwyaf cynhwysol Cymru.” 

Bydd gweithio mewn partneriaeth gydag arbenigwyr yn y diwydiant, sy’n gallu rhannu eu gwybodaeth a’u harferion gorau â ni, yn ein helpu i gyflawni ein Hamcanion Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant. Bydd yn ein helpu i sicrhau bod ein gweithle’n gynhwysol a bod ein cydweithwyr a’n cwsmeriaid LHDTC+ yn teimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi am bwy ydyn nhw. Mae hefyd yn caniatáu i ni arwain mentrau sy’n codi ymwybyddiaeth, yn hyrwyddo agweddau cadarnhaol ac yn gwella dealltwriaeth o faterion LHDTC+ yn ein gweithle a hyrwyddo hawliau ein cydweithwyr LHDTC+.  

Wrth sôn am y bartneriaeth gyda Stonewall Cymru, dywedodd Neil James ein Pennaeth Brand ac aelod o’n Grŵp Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant: “Mae creu partneriaeth gyda Stonewall yn un o nifer o ffyrdd pwysig i TrC ddangos ei ymrwymiad i gydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant yn fewnol ac yn allanol. Rydyn ni’n datblygu tîm amrywiol sy’n adlewyrchu’r cymunedau rydyn ni’n eu gwasanaethu” 

Rydyn ni’n credu bod amrywiaeth yn ein gwneud yn gryfach ac yn ein helpu i ddeall ein cwsmeriaid yn well, i wneud penderfyniadau deallus a bod yn fwy arloesol. Rydyn ni’n datblygu tîm amrywiol sy’n adlewyrchu’r cymunedau rydyn ni’n eu gwasanaethu. Byddwn yn gweithio gyda Stonewall i ennill statws ar Fynegai Cydraddoldeb yn y Gweithle y DU, yr adnodd meincnodi awdurdodol ar gyfer cyflogwyr i fesur eu cynnydd ar gynhwysiant pobl lesbiaidd, hoyw, deurywiol a thrawsryweddol yn y gweithle.  

Dywedodd ein Rheolwr Rhanddeiliaid ac aelod o’n Grŵp Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant, Arron Bevan-John: “Mae llofnodi’r cytundeb partneriaeth hwn gyda Stonewall Cymru yn torri tir newydd ac yn dangos ein hymrwymiad i roi cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant ar frig yr agenda. Mae hyn yn golygu mwy nag ymarfer ticio blychau i ni, rydyn ni’n gweithio i addysgu ein cydweithwyr ac i fod yn esiampl o newid i’n cwsmeriaid ac i’n partneriaid.” 

I gael gwybod rhagor neu i gymryd rhan, cliciwch yma.