16 Maw 2023
Mae bysiau trydan newydd sbon wedi cael eu dadorchuddio heddiw ar gyfer llwybr T1 TrawsCymru rhwng Caerfyrddin ac Aberystwyth gan Lee Waters, y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd.
Bydd y bysiau modern iawn hyn yn dechrau gwasanaethu ar 26 Mawrth ac yn cael eu lleoli mewn depo gwefru newydd yng Nghaerfyrddin.
Wrth siarad yn y digwyddiad, dywedodd Lee Waters, y Dirprwy Weinidog, sydd â chyfrifoldeb dros drafnidiaeth:
“Mae bysiau yn chwarae rhan hanfodol yn cadw ein cymunedau yn gysylltiedig ac yn cynnig dewis trafnidiaeth cynaliadwy i bobl yn hytrach na'r car.
“Bydd cyflwyno bysiau trydan newydd sbon yn rhoi hwb mawr i wasanaeth TrawsCymru ac mae’n gam pwysig arall ymlaen i gyflawni ein huchelgais ar gyfer rhwydwaith trafnidiaeth gyhoeddus amlfodd, integredig a charbon isel o ansawdd uchel ledled Cymru.”
Ymunodd swyddogion o Trafnidiaeth Cymru (TrC), Cyngor Sir Caerfyrddin, gweithredwr llwybrau First Cymru a’r cyflenwr bysiau Pelican â Lee Waters AS mewn digwyddiad yng Nghaerfyrddin heddiw cyn mynd ar daith ar un o’r bysiau newydd i agor yn swyddogol y depo a'r man gwefru newydd sydd wedi'i adeiladu'n arbennig yn Nant-y-Ci.
Y tendr T1 a ddyfarnwyd i First Cymru yw’r contract TrawsCymru cyntaf i gael ei reoli gan TrC.
Dywedodd Marie Daly, Prif Swyddog Cwsmeriaid a Diwylliant TrC: “Mae llawer iawn o waith caled wedi’i wneud y tu ôl i’r llenni er mwyn gwneud lansiad y gwasanaeth gwell hwn yn bosibl, gan ddod ag arbenigwyr yn ein tîm bysiau ynghyd – pawb o weithredwyr bysiau masnachol, cynllunio trafnidiaeth a datblygu rhwydwaith.
“Mae Trafnidiaeth Cymru wedi ymrwymo i fod yn sefydliad gwirioneddol o ran cynnig sawl dull o deithio’n gynaliadwy, gan wella cysylltiadau rhwng bysiau a threnau drwy amserlenni cydgysylltiedig, tocynnau a thechnoleg i greu rhwydwaith sy’n gweithio i bawb.
“Mae’r bysiau newydd sbon hyn yn gosod safonau newydd ar gyfer profiad a chysur cwsmeriaid.”
Dywedodd y Cyng Edward Thomas, Aelod Cabinet dros Drafnidiaeth, Gwastraff a Gwasanaethau Isadeiledd Cyngor Sir Caerfyrddin: “Rwy’n croesawu cyflwyno’r fflyd hon o fysiau trydan newydd sbon a fydd yn darparu gwasanaethau trafnidiaeth gyhoeddus modern carbon isel hanfodol i bobl Sir Gaerfyrddin a Cheredigion. Mae Cyngor Sir Caerfyrddin yn falch iawn o fod wedi gweithio ochr yn ochr â Llywodraeth Cymru a Thrafnidiaeth Cymru i gyflawni’r prosiect hwn, a oedd yn cynnwys caffael y fflyd bysiau a dylunio ac adeiladu’r depo gwefru newydd yn Nant y Ci, Caerfyrddin.”
Dywedodd y Cynghorydd Aled Vaughan Owen, Aelod Cabinet dros Newid Hinsawdd, Datgarboneiddio a Chynaliadwyedd Cyngor Sir Caerfyrddin: “Mae’n wych gweld gwasanaeth bws T1, rhwng Caerfyrddin ac Aberystwyth, yn cael ei uwchraddio i gynnwys fflyd o gerbydau allyriadau isel, cynaliadwy.
“Trwy symud oddi wrth tanwydd ffosil i bweru bysiau, mae opsiwn gwasanaeth trafnidiaeth gyhoeddus sy’n fwy ecogyfeillgar yn cael ei ddarparu. Bydd y bysiau trydan hyn yn gwneud cyfraniad pwysig at ddatgarboneiddio gwasanaethau trafnidiaeth gyhoeddus er mwyn mynd i’r afael â’n hymrwymiad lleol, cenedlaethol a byd-eang i garbon sero-net.”
Mae nifer o ddigwyddiadau hyrwyddo wedi cael eu cynnal yn ddiweddar yng Nghaerfyrddin, Aberystwyth a Llanbedr Pont Steffan, ac mae'r adborth a gafwyd gan deithwyr am y bysiau newydd wedi bod yn gadarnhaol iawn.
Mae'r bysiau'n cynnig nifer o nodweddion modern gan gynnwys goleuadau darllen, byrddau, gwefru diwifr a socedi USB, breichiau cadair, sgriniau gwybodaeth a system puro aer.
“Mae gan fysiau rôl bwysig a chyffrous i'w chwarae yn symudiad parhaus Cymru tuag at deithio mwy cynaliadwy,” meddai Chris Hanson, Rheolwr Cyffredinol First Cymru.
“Rydym yn falch iawn o gael y cyfle hwn i redeg llwybr T1 a’r fflyd drydan syfrdanol hon. Mae pobl yn defnyddio trafnidiaeth First Cymru bob dydd i deithio ar draws trefi a siroedd De Cymru. Ond rydyn ni’n gwybod y bydd llawer mwy yn gwneud yr un peth wrth i fysiau esblygu i gynnig holl fanteision trydan i gwsmeriaid a’u cymunedau.”
Amcangyfrifir y byddai taith y bws T1 o Gaerfyrddin i Aberystwyth yn arbed 14804g o CO2 o'i gymharu â defnyddio'r car – byddai hyn yn gyfwerth a chadw bwlb golau ymlaen am 4174 awr (174 diwrnod).
Dywedodd Ian Downie, Pennaeth YUTONG UK, Pelican Bus and Coach: “Rydym wedi gweithio gyda Chyngor Sir Caerfyrddin a TrC i ddatblygu manyleb bwrpasol ar gyfer y gwasanaeth hwn. Mae'r tîm cyfunol wedi cynhyrchu manyleb sy'n canolbwyntio ar y cwsmer, gyda seddi tebyg i'r rhai mewn coets a fydd yn ychwanegiad at wneud y daith yn un esmwyth a chysurus.
“Gellir gwefru'r cerbydau hyn yn eithriadol o gyflym - a hynny dros nos, a gellir eu gwefru mewn llai na 1.5 awr. Rydym yn falch iawn o'r canlyniad hwn, a bydd y cerbydau hyn yn rhoi rheswm eithriadol o dda i deithwyr deithio ar gerbydau allyriadau sero. Gall un cerbyd gymryd lle 14 o geir gyda 5 o bobl y tu mewn i bob un. Gall hyn wneud cyfraniad sylweddol at leihau allyriadau carbon.”
Mae gwybodaeth am y gwasanaeth T1 newydd ar gael yn www.traws.cymru a chyda'r ap newydd, gallwch brynu tocynnau, tracio'r bws a gweld faint o garbon y gallwch ei arbed o deithio ar y bws.
Nodiadau i olygyddion
- Tocynnau sengl yn dechrau o £1.25 am daith o 5km, bydd hyn yn annog newid o ddefnyddio car ar gyfer teithiau byr.
- Mae prisiau yn seiliedig ar bellter ac mae’r rhain yn addasu bob 5km i uchafswm tocyn sengl o £3.50 ar gyfer y llwybr cyfan.
- Tocyn diwrnod ar gyfer T1 yn unig am £7.00 am y llwybr cyfan.
- Opsiwn newydd - tocyn diwrnod am £5.25 a thocynnau wythnosol am £20 rhwng Llanbedr Pont Steffan a Chaerfyrddin a Llanbedr Pont Steffan ac Aberystwyth.
- Bwndel o 10 tocyn sengl newydd ar gael ar yr ap i deithio rhwng Aberaeron ac Aberystwyth am £20.00 a bwndel o 10 trip rhwng Caerfyrddin a Llanbedr Pont Steffan ac Aberystwyth a Llanbedr Pont Steffan am £22.00.