Skip to main content

Eisteddfod Welsh food menu launched on trains in Wales

17 Gor 2024

Mae Trafnidiaeth Cymru wedi lansio bwydlen Gymreig arbennig ar eu trenau i ddathlu’r Eisteddfod Genedlaethol.  

Caiff gwsmeriaid brofiad bwyta unigryw sy'n cynnwys y gorau o gynnyrch Cymru gan gynnwys cig moch gyda baralawr, cyw iâr 'supreme' Caerffili, bara brith gyda sglein a llawer mwy.  

Mae'r bwyty unigryw hwn ar gael ar rai o’n gwasanaethau sy'n teithio rhwng gogledd a de Cymru.  Caiff yr holl brydau eu coginio gan gogyddion ar fwrdd y trên.

Bydd bwydlen hefyd ar gael i deithwyr yn y dosbarth safonol gan roi cyfle i gwsmeriaid flasu ‘Byrger yr Eisteddfod’ a detholiad o ddiodydd a gynhyrchir yng Nghymru. 

Dywedodd Piers Croft, Cyfarwyddwr Ar Fwrdd Trenau Trafnidiaeth Cymru: 

"Mae bwydlen yr Eisteddfod yn mynd y tu hwnt i flas yn unig. Mae'n cynnig cyfle i'n teithwyr brofi blas yr Eisteddfod ei hun. Mae'r cyfle unigryw hwn yn dathlu popeth sydd gan Gymru i'w gynnig wrth fwynhau pryd o fwyd blasus a rhagorol." 

Ychwanegodd Lowri Joyce, Arweinydd Strategol y Gymraeg yn TrC :

"Rydym yn edrych ymlaen yn fawr at lansio'r fwydlen Gymreig arbennig hon ar ein trenau i ddathlu'r Eisteddfod Genedlaethol. 

"Fel brand cwbl ddwyieithog, mae TrC eisiau dathlu ein hiaith, diwylliant a phopeth mae'n ei olygu i fod yn Gymraeg. Rydym yn bartner allweddol yn y digwyddiad eleni a byddwn yn annog y rhai sy'n teithio i'r Maes i chwilio am opsiynau teithio cynaliadwy ac os cewch gyfle, rhoi cynnig ar ein bwydlen arbennig."

Nodiadau i olygyddion


Mae ein gwasanaeth dosbarth cyntaf gyda chegin ar gael ar ein trenau Dosbarth IV (Mark IV) rhwng Abertawe - Manceinion a Chaerdydd - Caergybi. 

I weld pa wasanaethau sydd â bwytai, ewch i'n Cynlluniwr Teithiau a chwilio am drenau gyda thocynnau Dosbarth Cyntaf. 

Yr unig beth sy'n rhaid i gwsmeriaid sy'n teithio ar y trên ei wneud yw sganio cod QR o'u sedd, dewis o'r fwydlen a bydd y gwesteiwr cwsmeriaid yn gofalu am bob dim arall.

Mae bwydlen yr Eisteddfod ar gael tan 10 Awst felly eisteddwch yn ôl a mwynhewch bryd o fwyd rhagorol wrth deithio i'r Eisteddfod.