Skip to main content

Sign Language app launched across Transport for Wales

07 Chw 2020

MAE ap newydd i helpu cwsmeriaid o’r gymuned fyddar i gyfathrebu wedi cael ei lansio ar rwydwaith Trafnidiaeth Cymru yr wythnos yma

Mae’r ap, sef "Interpreter Now", yn defnyddio system math fideoalwad i sicrhau ei bod hi hyd yn oed yn haws i weithwyr rheilffordd a chwsmeriaid byddar gyfathrebu â’i gilydd.

Gall cwsmeriaid lwytho’r ap i lawr am ddim ac arwyddo gyda dehonglwyr drwy alwad fideo ar yr ap, a bydd y dehonglydd yn cyfleu ymholiad y cwsmer i aelod o staff TrC.

Wedyn, bydd y dehonglydd yn gallu cyfleu'r ateb i’r cwsmer drwy arwyddo.

Mae’r ap eisoes yn llwyddiannus ar rwydwaith Scot Rail, ond Trafnidiaeth Cymru yw’r gweithredwr trafnidiaeth cyntaf i gyflwyno’r math yma o dechnoleg yng Nghymru.

Dywedodd Dr Robert Gravelle, Rheolwr Hygyrchedd a Chynhwysiant Trafnidiaeth Cymru: “Rydyn ni’n falch iawn mai ni yw’r darparwr trafnidiaeth cyntaf yng Nghymru i ddarparu cymorth o’r fath i'r gymuned fyddar sy’n defnyddio BSL.

"Mae pob cwsmer ar ein rhwydwaith yn bwysig, ac os oes technoleg yn bodoli i wneud eu bywydau’n haws, y peth amlwg i’w wneud yw defnyddio’r dechnoleg honno.

“Rydw i’n edrych ymlaen at weld yr ap newydd yma’n mynd â ni gam yn nes at ddarparu teithiau cwbl hygyrch i’n holl gwsmeriaid.”

Yr wythnos hon, lansiwyd yr ap yn swyddogol mewn partneriaeth â Chanolfan Caerdydd i Bobl Fyddar, a gwahoddwyd yr aelodau i’w roi ar brawf ar daith fer.

Ac roedd yr ap wedi plesio’r aelodau yn fawr.

Edward Jenkins BEM a Is-Ganghellor Cymuned Fyddar Caerdydd siarad:

"Bydd y dyfais yma, sy’n cynorthwyo cyfathrebu a gall ddefnyddiwr gael fynediad hawdd iddo yn  anghygoel i aelod o’r gymuned fuddarol ac yn agor drysau ni fyddai o fewn cyrraedd fel arall.

"Mae’r gallu i gyrraedd yr orsaf a siarad gyda pherson, y gallu i ofyn yn union am yr hyn sydd angen, mewn ffordd syml ac effeithiol, yn anghygoel .

Datblygwyd yr ap gan Interpreter Now, ac mae Trafnidiaeth Cymru yn falch o fod yn gweithio mewn partneriaeth â nhw ar y prosiect hwn."

Jonathan Bowman, aelod o’r gymuned fyddar a dreialodd yr ap yn orsaf Caerdydd Canolog:

"Mae’n anhygoel peidio gorfod ysgrifennu manylion i lawr o hyd, sy’n broses llafarus fel arfer. Mae’r broses o fynd i’r swyddfa docynnau wedi bod yn anodd i mi, oherwydd yr elfen cyfathrebu, ac oherwydd yr ap, mi fydd hi’n broses llawer haws.

"Rwy’n edrych ymlaen at ymgyfarwyddo a’r ap a’i ddefnyddio yn y dyfodol."

Ychwanegodd Jonathan Colligan, Datblygwr Busnes InterpreterNow:  “Mae’r ffaith bod Trafnidiaeth Cymru wedi cydnabod pwysigrwydd cynhwysiant yn y modd mae’n gweithredu yn dangos bod Cymru’n wlad sydd â diwylliant gwych a chymuned agored.”

 Gall cwsmeriaid lwytho ap Interpreter Now i lawr am ddim ar Android neu Ios drwy chwilio am Interpreter Now

Pic3

Llwytho i Lawr