Skip to main content

22 New Railway Station Walks Launched

18 Mai 2023

Mae Trafnidiaeth Cymru wedi ymuno ag elusen gerdded flaenllaw Cymru, Ramblers Cymru, i lansio 22 o deithiau cerdded newydd o orsafoedd rheilffordd ledled Cymru. 

Mae'r teithiau cerdded cyfeillgar i deuluoedd neu ddechreuwyr (i gyd ddim hirach na 5km) yn deithiau cerdded cymharol hawdd gyda'r nod o annog pobl leol ac ymwelwyr i fod yn fwy egnïol a defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus i gyrraedd ac archwilio cymunedau lleol a lleoedd llai adnabyddus. 

Mae'r holl deithiau cerdded yn dechrau ac yn gorffen o wahanol orsafoedd rheilffordd ar draws rhwydwaith Cymru a'r Gororau ac mae mapiau ar gael ar gyfer pob taith gerdded ar wefan TrC:

Mae'r saith lleoliad yn ne Cymru yn cynnwys Merthyr i Pentrebach, Bae Caerdydd, Aberdâr, Y Mynydd Bychan (Caerdydd) ac Ynys y Barri.  Mae llwybrau llinellol ychwanegol ar gyfer ardal y de yn cynnwys Llandeilo i Barc Dinefwr, Trehafod i Bontypridd neu Gaerdydd i Benarth.

Mae'r 15 llwybr yng ngogledd Cymru yn cynnwys Gwersyllt (Wrecsam), Y Fflint, Y Bermo, Caergwrle, Prestatyn, Rhosneigr, Penrhyndeudraeth, Y Drenewydd, Aberystwyth, Penarlâg, Llanrwst, Blaenau Ffestiniog, Pwllheli, Porthmadog a Chricieth.  Gallai teithiau cerdded llinellol gynnwys Bae Colwyn, Bangor a Rhosneigr.

Ychwanegodd Lee Waters, y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd, sydd â chyfrifoldeb dros drafnidiaeth:

“Os hoffech ymweld a chyrchfan newydd, beth allai fod yn haws na neidio ar drên ac ymweld â rhai o'r perlau gwych sydd gan Gymru i'w cynnig.   Mae'r fenter hon yn gyfle gwych i annog pobl i gadw'n heini, teithio'n gynaliadwy a rhoi hwb i gymunedau lleol hefyd."

Dywedodd Melanie Lawton, Arweinydd Strategaeth Rheilffyrdd Cymunedol TrC:

“Rydym yn edrych ymlaen yn fawr at lansio'r teithiau byr hyn o orsafoedd rheilffordd ledled Cymru.  Maent yn cynnig cyfle i bobl deithio ar drên, gyda theulu a ffrindiau, ymweld ag ardal newydd, mynd ar daith gerdded fer yn y gymuned leol a mwynhau amser llesol yn yr awyr agored.”

“Yn TrC rydym am annog mwy o bobl i deithio'n gynaliadwy, ac mae'r teithiau cerdded hyn yn wych i deuluoedd neu'r rhai sydd eisiau ymweld â chyrchfan newydd.”

“Rydym eisoes wedi darparu 6 taith dywys o'n gorsafoedd ac rydym yn gobeithio y bydd y rhain yr un mor boblogaidd.”

Dywedodd Angela Charlton, cyfarwyddwr Ramblers Cymru:

“Rydym yn falch iawn o weithio mewn partneriaeth â Thrafnidiaeth Cymru ar y prosiect hwn i ddatblygu teithiau cerdded.  Mae Ramblers Cymru eisiau gweld cerdded wrth galon cymunedau ac awyr agored sy'n fwy hygyrch i fwy o bobl.

“Gobeithiwn y gall y llwybrau sy'n addas i deuluoedd ddangos rhai o'r trysorau cudd ar draws y rhwydwaith trenau gan annog pobl i archwilio mwy o Gymru, gwario arian a chreu manteision economaidd wrth ddod ar draws pobl a chymunedau ar hyd y daith.”

Mae'r bartneriaeth yn cyd-fynd â thema Croeso Cymru, Blwyddyn y Llwybrau, sy'n ymwneud â dod o hyd i drysorau bythgofiadwy, manteisio ar deithiau i'r synhwyrau a chreu atgofion ar hyd llwybrau o amgylch atyniadau, gweithgareddau, tirweddau ac arfordiroedd.

Nodiadau i olygyddion


Mae Ramblers Cymru, prif elusen gerdded Cymru, wedi ymrwymo i greu ffordd i bawb fwynhau pleserau cerdded. Rydyn ni'n cymryd safiad dros ddiogelu natur a mannau gwyrdd rydyn ni oll wrth ein boddau yn crwydro yn eu mysg.  Trwy ymladd dros y pethau sydd bwysicaf i gerddwyr, rydym wedi ymrwymo i gadw ein cefn gwlad ar agor i bawb –   ramblers.org.uk/wales