Skip to main content

Lab by Transport for Wales sees second cohort bring further innovation and new ideas to enhance the railway customer experience in Wales

20 Tach 2020

Daeth ail griw’r rhaglen arloesi fwyaf blaenllaw yng Nghymru ar gyfer y rheilffyrdd i ben yr wythnos diwethaf, wrth gyhoeddi Spatial Cortex yn enillwyr yn dilyn diwrnod arddangos rhithiol llwyddiannus.

Cynhaliwyd y diwrnod arddangos ddydd Gwener 13 Tachwedd, a’i nod oedd ysbrydoli arloesedd mewn busnesau a chynnig cipolwg ar rai o’r datblygiadau arloesol sy'n dod i rwydwaith rheilffyrdd Cymru a’r Gororau.

Roedd pob un o’r 11 o fusnesau newydd yn y cohort - sef rhai o’r doniau technolegol mwyaf creadigol ac uchelgeisiol yng Nghymru a’r DU - wedi cyflwyno eu syniadau i’r swyddogion blaenllaw sy'n gwneud penderfyniadau yn Nhrafnidiaeth Cymru mewn ymgais i sicrhau cyllid ychwanegol i ddatblygu eu cynnyrch ymhellach a helpu i lunio'r profiad i gwsmeriaid ar y rheilffyrdd yng Nghymru.

Mae’r cohort wedi bod yn gweithio’n agos gyda TrC dros y 12 wythnos diwethaf, ac wedi bod yn cael eu mentora gan arbenigwyr busnes i ddatblygu eu cynnyrch, eu syniadau a’u dyfeisiadau yn ystod y rhaglen cyflymu.

Bwriad y cynllun arloesol yw ysgogi twf yng Nghymru drwy gynnig cyfle cyffrous i arloeswyr busnesau feddwl am syniadau sy'n gwella’r profiad i gwsmeriaid ar y rheilffyrdd.

Roedd y diwrnod arddangos yn cynnwys cyflwyniadau fideo gan bob un o’r busnesau newydd, yn ogystal â chyfle i’r mynychwyr ofyn cwestiynau a rhwydweithio gyda nhw yn ystod ystafelloedd ymneilltuo rhithiol Microsoft Teams.

Yn anffodus, oherwydd cyfyngiadau COVID-19, nid yw cohort 2 o'r rhaglen wedi gallu cael ei gynnal yng nghyfleuster labordy modern newydd TrC yng Nghasnewydd, a bu'n rhaid i’r busnesau newydd weithio o bell.

Ar ôl diwrnod o gyflwyniadau, dewiswyd Spatial Cortex yn enillwyr a byddant yn cael 25,000 i ddatblygu eu cynnyrch ymhellach.

Mae’r cynnyrch arfaethedig, sef MOVA, yn dechnoleg chwyldroadol y mae modd i staff y rheilffyrdd ei gwisgo i helpu i leihau anafiadau wrth godi a chario pan fyddant yn ymgymryd â thasgau fel codi, cario a symud deunyddiau, boed hynny wrth ymyl y cledrau, yn y depos neu wrth wneud gwaith cynnal a chadw. Maen nhw’n credu y bydd y dechnoleg yn galluogi asesiadau meintiol ac yn rhoi cipolwg mwy manwl ar sut mae atal anafiadau codi a chario yn ogystal â mynd i’r afael ag anfanteision yr arferion presennol sy’n gysylltiedig ag asesu risg.

Yn siarad ar ôl eu cyhoeddi yn enillwyr, dywedodd Kailash Manoharaselvan, Cyd-sylfaenydd a Chyfarwyddwr Spatial Cortex:

“O ystyried ein bod yn fusnes newydd cam cynnar ar hyn o bryd, mae ennill y wobr yn hollbwysig a bydd yn gwneud gwahaniaeth go iawn i ni.

“Bydd yn cyflymu ac yn rhoi hwb i ni ar ein taith drwy roi mwy o adnoddau ac amser i ni gyflawni’r camau nesaf gyda Thrafnidiaeth Cymru”.

Soniodd Barry Lloyd, Pennaeth Profiad Cwsmeriaid ac Arloesi yng Ngwasanaethau Rheilffyrdd Trafnidiaeth Cymru am y cyffro o gael gweithio gyda Spatial Cortex, a dywedodd:

“Roedd y diwrnod yn gyfle gwych i arddangos y cwmnïau talentog rydyn ni wedi bod yn gweithio gyda nhw dros y 12 wythnos diwethaf. Roedd beirniadu pob un o’r 11 yn dasg anodd ond roeddem yn teimlo bod gan Spatial Cortex y potensial i arloesi yn y rheilffyrdd a chael effaith enfawr, nid yn unig i ni, ond i’r diwydiant cyfan.

“Mae Emu Analytics a Route Konnect hefyd yn haeddu canmoliaeth uchel am eu holl waith caled yn datblygu atebion gwych i ni.

“Rydym hefyd yn edrych ar yr opsiwn o weithio gyda rhai o’r cohort na chawsant gymeradwyaeth, sy’n brawf o safon yr 2il gohort hwn”.

Cyfeiriodd Michael Davies, Rheolwr Arloesi a Syniadau Trafnidiaeth Cymru, hefyd at ei edmygedd o’r cohort, a datgelodd fod y camau nesaf ar gyfer y rhaglen eisoes ar waith:

“Roedd rhedeg cohort yn erbyn cefndir COVID-19 yn her enfawr, ond roedd y tîm yn Alt Labs, pob un o’r busnesau newydd a fu'n rhan o hyn, a phawb yn Nhrafnidiaeth Cymru wedi gwneud ymdrechion sylweddol i sicrhau ei lwyddiant. Hoffwn ddiolch i bawb sy’n rhan o’r prosiect am eu gwaith caled dros y 12 wythnos diwethaf.

“Mae’r broses recriwtio bellach wedi dechrau ar gyfer ein cohort nesaf, a'r bwriad yw ei lansio ddechrau’r flwyddyn nesaf, felly cofiwch gysylltu â ni os oes gennych chi syniad gwych rydych chi’n credu all gael effaith gadarnhaol ar ddiwydiant y rheilffyrdd”.

Gallwch wylio recordiad o’r 11 o fusnesau newydd wrth iddynt gyflwyno eu cynnyrch yn ystod y diwrnod arddangos yma.

Llwytho i Lawr