Skip to main content

Lab by Transport for Wales: innovation as a driver for the transformation of Wales' rail network

13 Ion 2020

Flwyddyn ar ôl cymryd drosodd gwaith gweithredu a chynnal a chadw’r rhwydwaith rheilffyrdd yng Nghymru ar ran Trafnidiaeth Cymru (TrC), sefydlodd Gwasanaethau Rheilffyrdd TrC Labordy Trafnidiaeth Cymru. Cynllun arloesi agored er budd teithwyr yng Nghymru.

Agorodd “Labordy Trafnidiaeth Cymru” ei drysau mis yma (9 Ionawr). Gwasanaethau Rheilffyrdd TrC, mewn partneriaeth ag Alt Labs sy’n arwain y prosiect hwn, ac mae’n cael ei ariannu’n llawn gan yr awdurdod trafnidiaeth gyhoeddus (TrC).

Bydd wyth busnes newydd yn cael cyngor ac arweiniad pwrpasol i ddatblygu eu cynnyrch neu wasanaeth dros gyfnod o 12 wythnos, diolch i’r prosiect hwn yng Nghasnewydd.  Yna, byddant yn cyflwyno eu cynnyrch neu wasanaeth i banel a fydd yn cynnwys cynrychiolwyr o’r awdurdod trafnidiaeth gyhoeddus a Gwasanaethau Rheilffyrdd TrC.

Yn y lle cyntaf, bydd y busnesau newydd yn canolbwyntio ar brofiad y cwsmer - thema a ddewiswyd gan Drafnidiaeth Cymru a Gwasanaethau Rheilffyrdd TrC.

Mae profiad y cwsmer yn elfen allweddol wrth drawsnewid rhwydwaith Cymru, sy’n ymestyn dros 1623 km, yn y 14 mlynedd nesaf.

Y llynedd, cyhoeddodd Trafnidiaeth Cymru Brosiect Gwella Gorsafoedd gwerth £194 miliwn, sydd ar y gweill ar hyn o bryd. Yn ogystal â hyn, mae cynnydd da’n cael ei wneud gydag archeb gwerth £800 miliwn ar gyfer trenau newydd a datblygu Metro De Cymru cwbl hygyrch lle gallwch gyrraedd a theithio.

Dywedodd Barry Lloyd, Pennaeth Profiad Cwsmeriaid ac Arloesi: “Mae gan bobl gymaint o syniadau gwych - a allai drawsnewid sut rydyn ni’n gwneud pethau ar ein rheilffyrdd, dim ond iddyn nhw gael eu datblygu yn y ffordd iawn.

“Mae ein prosiect, Labordy, yn denu doniau lleol ac o bell yma i Gasnewydd.

“Rydyn ni’n teimlo’n gyffrous iawn o gael gweithio gyda’r bobl wych a thalentog hyn, ac rydyn ni’n ffyddiog y bydd y prosiect hwn yn helpu i sefydlu Cymru fel canolfan ragoriaeth ym maes rheilffyrdd a thechnoleg.”

Mae’r busnesau newydd yn Labordy Trafnidiaeth Cymru yn cynnwys cwmnïau o Gaerffili, Cernyw a hyd yn oed yr Almaen. Bydd partneriaid fel dinasoedd Caerdydd a Chasnewydd, Prifysgol Caerdydd, Banc Datblygu Cymru neu asiantaeth datblygu busnes Llywodraeth Cymru, Busnes Cymru, yn cefnogi’r busnesau newydd hyn drwy gydol y rhaglen. Mae nifer o brosiectau arloesi addawol ymhlith y deg cwmni sy’n cael ei hybu.

Mae rhai busnesau sy’n cael eu sefydlu yn cynnig atebion sy’n amrywio o gynllunio teithiau, fel prosiect Big Lemon, sy’n caniatáu i deithwyr trên gymharu eu hôl troed carbon â dulliau eraill o deithio, i ddefnyddio synwyryddion i fesur nifer y teithwyr a statws trenau, fel sy’n cael ei gynnig gan UtterBerry a defnyddio Uwch-realiti a Rhithwirionedd i greu mannau deallus.

Bydd cwmnïau buddugol y rhaglen yn rhannu £25,000 ac yn cael cynnig cyfle i gydweithio â KeolisAmey.

Cyflwynwyd y Labordy yn y cais ar gyfer Cymru a’r Gororau, ac mae’n enghraifft ysbrydoledig o reoli arloesi. O ran busnesau sy’n cychwyn yn lleol, mae’r busnesau sy’n cael eu hybu yng Nghasnewydd yn cyfrannu at ddatblygiad economaidd rhanbarth ôl-ddiwydiannol sy’n gobeithio trawsnewid. O ran KeolisAmey, mae’r Labordy yn gyfle i arwain y gwaith o ddatblygu atebion arloesol sy’n bodloni heriau’r rhwydwaith a meithrin perthynas ar sail ymddiriedaeth a thryloywder â TrC. Bydd busnesau newydd a fydd yn cael eu hybu yn y Labordy yn y dyfodol yn edrych ar weithgareddau eraill, fel cynnal a chadw neu weithrediadau. Hefyd, bydd busnesau newydd yn elwa o gael cefnogaeth sylweddol a maes arbrofi maint go iawn i ddatblygu eu hatebion. Yn olaf, bydd teithwyr yn cael gwasanaethau newydd i wella eu profiad o rwydwaith rheilffyrdd Cymru.

Nod “Labordy Trafnidiaeth Cymru” yw bod yn esiampl o arloesi i reilffyrdd y Deyrnas Unedig; mae’n gosod Gwasanaethau Rheilffyrdd TrC ar wahân ac yn cadarnhau awydd KeolisAmey i ysgogi’r ecosystem arloesi yng Nghymru.

 

Nodiadau i olygyddion


Mae’r busnesau newydd yn cynnwys:

Cleverciti -  sy’n gweithgynhyrchu synwyryddion parcio clyfar uwchben. Mae Cleverciti yn dod â phob agwedd ar dechnoleg rheoli parcio clyfar ynghyd mewn un system integredig – o synwyryddion uwchben i apiau symudol integredig, meddalwedd rheoli a dadansoddeg. 

Big Lemon - sy’n bwriadu adeiladu a defnyddio llwyfan i ddefnyddwyr o'r dechrau i’r diwedd, sy’n symleiddio ac yn rhoi gwybodaeth i deithwyr am eu profiadau ar reilffyrdd yn llawn.  

Smart Bench -  sy’n bwriadu gweithredu meinciau clyfar i'r cyhoedd ar y rhwydwaith rheilffyrdd, gan wella’r amgylchedd mewn gorsafoedd a depos o ganlyniad i hynny. Mae’r prosiect yn ceisio gwella profiad cwsmeriaid a staff drwy ddarparu gwasanaethau, gan gynnwys gwefru dyfeisiau a ffonau clyfar, Wi-Fi, gwybodaeth ar ffurf LCD a gwybodaeth synwyryddion. 

UtterBerry - gall synwyryddion UtterBerry fonitro nifer o newidiadau strwythurol gan gynnwys dadleoli a gogwyddo.

Maent yn defnyddio synwyryddion bychan i allu darganfod llawer iawn o wybodaeth wahanol, gan gynnwys nifer y teithwyr a statws trenau, ac unrhyw waith atgyweirio hanfodol a’r hyn a achosodd y difrod. Maent hefyd yn gallu canfod beth yw’r ffactorau amgylcheddol, fel tymheredd a lleithder.

Brite Yellow Limited - sy’n darparu atebion mapio dan do, canfod y ffordd a rheoli asedau i weithredwyr trafnidiaeth sy’n dymuno creu mannau deallus i wella profiad defnyddwyr a rhyddhau refeniw newydd drwy Uwch-realiti a Rhithwirionedd. 

Realtime Knowledge - llwyfan digidol, arloesol sy’n cynnwys adnoddau rheoli llif gwaith a chipio data sy’n canolbwyntio ar ddiogelwch gweithredol a gwiriadau ac archwiliadau diogelwch. Hefyd, mae llwyfan Realtimeknowledge.com  yn cynnig set arloesol o adnoddau adborth cwsmeriaid.

Hiperview - sy’n dadansoddi adborth cwsmeriaid ar unwaith drwy arolygon digidol ac yn caniatáu i ni fapio taith yn ogystal â nodi lle mae problemau.

PassageWay - sy’n trawsnewid totemau, ciosgau a sgriniau cysylltiedig yn arwyddion canfod y ffordd digidol a thrafnidiaeth amser real. Mae arwyddion PassageWay yn dangos gwybodaeth symudedd aml-ddull yn lleol ac yn rhoi diweddariadau amser real, sy’n golygu bod gweithredwyr yn gallu estyn allan a rhoi gwybodaeth i gwsmeriaid newydd posib.

Llwytho i Lawr