26 Awst 2020
Mae Trafnidiaeth Cymru wedi lansio ail gam ei raglen arloesi a sbarduno, ac yn gweithio gyda rhai o’r cwmnïau arloesi newydd gorau i sicrhau buddion go iawn i gwsmeriaid.
Bydd Trafnidiaeth Cymru a’i bartner, Alt Labs, yn gweithio dros y we ag 11 o gwmnïau dros 10 wythnos er mwyn defnyddio syniadau'r cwmnïau i ddatblygu prawf o gysyniad neu gynnyrch ymarferol sylfaenol i’w gyflwyno i randdeiliaid TrC.
Roedd dros 100 o gwmnïau – rhai o Gymru, a rhai o bob cwr o’r Deyrnas Unedig – wedi gwneud cais i fod yn rhan o Garfan 2 i ymuno â “Labordy Trafnidiaeth Cymru”, felly roedd hi’n anodd penderfynu ar yr 11 o ymgeiswyr terfynol i fod ar y rhestr fer.
Dyma rai o’r syniadau a gafwyd: defnyddio synwyryddion camera i roi data ar y pryd am nifer y cwsmeriaid, ‘cynorthwyydd teithio’ yn y cwmwl i sefydliadau sydd angen rheoli llif pobl a gofynion teithio ynghyd â chynnig profiadau o’r radd flaenaf i ymwelwyr, ac ap ar gyfer dyfeisiau symudol i geisio gwella profiadau cwsmeriaid drwy rannu straeon gwych â theithwyr – yn ôl lleoliad – am yr hyn sydd i’w weld drwy’r ffenest.
Er gwaethaf heriau Covid-19, mae Trafnidiaeth Cymru wedi ymrwymo i gynnal y garfan nesaf dros y we, ac i roi’r un profiad ymroddgar i gwmnïau.
Dechreuodd Carfan 2 ar 26 Awst, a bydd yn para am 10 wythnos. Ar ôl hynny, bydd cwmnïau’n cyflwyno eu syniadau, gyda Trafnidiaeth Cymru yn penderfynu pa rai i’w datblygu ymhellach.
Dywedodd Michael Davies, rheolwr Argraffiadau ac Arloesi TrC: “Rydyn ni’n hapus iawn â safon uchel y syniadau sydd wedi cael eu cyflwyno i ni yn ystod y rhaglen hyd yma. Felly mae hi wedi bod yn anodd iawn dewis y cwmnïau newydd gorau ar gyfer carfan 2.
“Mae TrC yn rhoi cyfle i gwmnïau lleol yng Nghymru a thu hwnt i dyfu, datblygu a sbarduno eu busnes. Mae hefyd yn rhoi cyfle i ddatblygu a chyflymu unrhyw syniadau newydd sy’n gallu gwneud gwahaniaeth ystyrlon i brofiadau teithwyr ar draws ein rhwydwaith. Mae hynny’n bwysig iawn.”
Cafodd Labordy Trafnidiaeth Cymru ei sefydlu yn 2019 yng Nghasnewydd, er mwyn sicrhau bod arloesi’n rhan flaenllaw o waith cynllunio dros y 15 mlynedd nesaf.
Bu’r garfan gyntaf yn cyflwyno eu syniadau ym mis Gorffennaf, gyda Clever Citi, Brite Yellow a Passageway yn cael cyfran o £30,000 a’r cyfle i fwrw ymlaen â’u syniadau gyda TrC. Mae dau gwmni arall yn parhau i ddatblygu eu syniadau gyda TrC.
Ychwanegodd Adam Forster o Alt Labs: “Rydyn ni’n gyffrous iawn yn dilyn carfan 1 rhaglen sbarduno Labordy Trafnidiaeth Cymru. Rydyn ni wedi gweld â’n llygaid ein hunain beth sy’n bosib o ran datrys problemau a datblygu atebion ar gyfer Trafnidiaeth Cymru, a sut mae busnesau newydd yn manteisio i’r eithaf ar y cyfle sydd ar gael gyda’r Labordy.
“Mae’r bartneriaeth arloesi rhwng Trafnidiaeth Cymru ac Alt Labs, sy’n darparu'r rhaglen Labordy Trafnidiaeth Cymru, wedi dangos canlyniadau cadarnhaol ar gyfer carfan 1. Felly rydyn ni’n manteisio ar y cyffro hwnnw yng ngharfan 2, gan fod bron i ddwywaith gymaint o fusnesau newydd wedi gwneud cais am ein rhaglen gweithio o bell na’r hyn a oedd gennym yng ngharfan 1.”
I gael rhagor o fanylion am Garfan 2, cliciwch YMA