Skip to main content

Lab by Transport for Wales partner with Media Cymru on Accelerator Programme to Drive Innovation in the Transport Sector

14 Maw 2025

Mae Trafnidiaeth Cymru (TrC) a Media Cymru wedi llunio partneriaeth er mwyn rhoi rhaglen gyflymu newydd cyffrous ar waith. Bwriad y rhaglen hon yw helpu busnesau ac entrepreneuriaid yng Nghymru i ddatblygu syniadau sy'n torri tir newydd yn y sector trafnidiaeth.

A'r rhaglen 10 wythnos bellach ar agor, bydd yn darparu hyfforddiant gan arbenigwyr, dan arweiniad tîm Lab TrC ynghyd â PDR - cwmni ymgynghori ar ddylunio a chyfleuster ymchwil cymhwysol ar lefel byd eang ac yn helpu busnesau newydd i droi syniadau’n atebion, syniadau sydd â'r potensial i fynd o nerth i nerth ac yn barod ar gyfer y farchnad. Yn dilyn y lab ymchwil a datblygu, bydd cyfle i wneud cais am gyllid o hyd at £30,000 gan TrC a hyd at £50,000 gan Media Cymru.

Mae TrC yn awyddus i wella profiad, effeithlonrwydd a chynaliadwyedd cwsmeriaid ar draws ei rwydwaith trafnidiaeth trwy’r gwasanaethau arloesi pwrpasol y mae Lab tîm TrC yn ei gynnig.

Mae'r rhaglen hon yn bartneriaeth rhwng Media Cymru – consortiwm arloesi sydd wedi’i ffurfio o 22 partner sy’n arbenigo mewn arloesi yn y sector cyfryngau a ariennir gan UKRI. Ei genhadaeth yw sbarduno arloesedd trawsnewidiol yn sector cyfryngau Prifddinas-Ranbarth Caerdydd, gan ganolbwyntio ar dwf economaidd sy’n deg, yn wyrdd ac yn fyd-eang.

Am beth mae Trafnidiaeth Cymru a Media Cymru yn chwilio amdano?

Yn ogystal â phartneriaeth weithio newydd gyda Media Cymru, maent yn chwilio am unigolion all fynd i'r afael â'r meysydd canlynol:

Heriau Penodol i'r Cyfryngau fel yr amlinellwyd gan Media Cymru (rhaid eu bod wedi'i lleoli yng Nghymru ar gyfer y cynnig hwn):

  • Cefnogi twristiaeth drwy'r rhwydwaith trafnidiaeth.
  • Cynyddu'r defnydd o Gymraeg ar draws y rhwydwaith.
  • Creu profiadau cyfrwng cymysg i wella teithiau cymudwyr.
  • Hyrwyddo brand a/neu gynnig gan ddefnyddio cyfryngau newydd
  • Defnyddio cyfryngau newydd i ddenu pobl i ddefnyddio'r rhwydwaith

Dywedodd Gavin Johnson, Cynhyrchydd Ymchwil a Datblygu Media Cymru:

"Pleser yw cyhoeddi ein partneriaeth newydd uchelgeisiol gyda Trafnidiaeth Cymru. Ar y cyd â’r Lab gan TrC, rydym yn dod ag arloeswyr creadigol ynghyd i ddyfeisio a thrin a thrafod profiadau a chynhyrchion newydd, hygyrch i bobl sy'n teithio ar amrywiaeth o lwybrau rhwydwaith TrC.

“Nid yn unig fydd proses arloesi y Lab gan TrC yn sbarduno amrywiaeth o syniadau sy'n barod ar gyfer y farchnad ond hefyd yn paratoi'r ffordd ar gyfer syniadau newydd ar gyfer dyfodol teithio llesol a thwristiaeth yng Nghymru.

Mae'r cydweithio hwn yn golygu gwneud newidiadau mawr, creu arferion newydd a chyflwyno cyfleoedd newydd, arloesol i'r rhwydwaith rheilffyrdd."

Heriau penodol ym maes Trafnidiaeth fel yr amlinellwyd gan Trafnidiaeth Cymru:

  • Cynhyrchu Refeniw ac Effeithlonrwydd Cost

- Dod o hyd i gyfleoedd newydd i greu refeniw

- Dylunio atebion cost-effeithiol

- Defnyddio AI i wella gweithrediadau

  • Newid ac Ymgysylltu Dulliau Teithio

- Annog mwy o bobl i ddefnyddio trafnidiaeth gynaliadwy

- Datblygu system drafnidiaeth integredig a chynaliadwy

  • Rhagoriaeth Weithredol

- Gwella perfformiad trenau a bysiau

- Gwella diogelwch teithwyr a staff

- Cryfhau cydnerthedd hinsawdd

Pam cymryd rhan?

Dyma fanteision cymryd rhan:

  • Mynediad at hyd at £30,000 o gyllid (TrC ) a £50,000 o gyllid (Media Cymru)
  • Hyfforddiant Ymchwil a Datblygu Arbenigol i fireinio a datblygu syniadau
  • Cymorth mentora arbenigol a chymorth i'r diwydiant
  • Y cyfle i ddefnyddio eu harloesedd gyda Trafnidiaeth Cymru

Dywedodd Barry Lloyd, Pennaeth Arloesi a Datblygu Cynnyrch Newydd:

"Rwy'n edrych ymlaen at lansio carfan 6 Cyflymu Arloesedd Lab TrC, menter drawsnewidiol a gynlluniwyd i danio creadigrwydd a sbarduno syniadau arloesol ar gyfer sector trafnidiaeth a chyfryngau Cymru.

Mae'r rhaglen hon wedi'i theilwra i rymuso gweledigaeth, gan feithrin amgylchedd lle gall cysyniadau arloesol ffynnu a datblygu i fod yn atebion effeithiol.

Rwy'n edrych ymlaen at groesawu ymgeiswyr llwyddiannus i'n man cyfarfod pwrpasol ym Mhencadlys TrC, y man y cynhelir y rhaglen.”

Sut i Ymgeisio

Ceisiadau ar agor NAWR! Gall busnesau ac unigolion sydd â diddordeb ddarllen mwy am y rhaglen ac ymgeisio yma https://tfw.wales/lab/accelerator.

Hygyrchedd

Os oes gennych chi ofynion penodol a fyddai’n gwneud y broses ymgeisio’n fwy hygyrch (fel cyngor, cyfarwyddiadau neu gymorth darllen), neu os hoffech chi drafod fformatau eraill (fideo neu sain, naratif llais, ffont mawr, testun plaen neu iaith arall), anfonwch e-bost at media.cymru@caerdydd.ac.uk neu ffonio 02922 511 434.

Ymunwch â ni i wneud dyfodol trafnidiaeth Cymru yn un arloesol! i ddysgu mwy am Media Cymru, ewch i’w gwefan - https://media.cymru