Skip to main content

Lab by Transport for Wales begins recruitment for third cohort of tech innovators

05 Chw 2021

Mae'r broses recriwtio ar waith ar gyfer trydedd ran rhaglen arloesi flaenllaw Cymru yn ymwneud â'r rheilffyrdd, sef Lab gan Trafnidiaeth Cymru.

Nod y cynllun sbarduno 12 wythnos arloesol yw ysgogi twf yng Nghymru, gan gynnig cyfle cyffrous i arloeswyr busnes ddatblygu syniadau sy'n ceisio gwella’r profiad ar y rheilffyrdd i gwsmeriaid.

Ar ôl cwblhau dwy garfan lwyddiannus eisoes, mae'r broses recriwtio wedi dechrau ar gyfer trydedd garfan o fusnesau technoleg uchelgeisiol a chreadigol newydd o bob rhan o Gymru a'r DU.

Unwaith y bydd y broses recriwtio wedi'i chwblhau, bydd y busnesau newydd yn gweithio'n agos gyda Trafnidiaeth Cymru i dderbyn cymorth mentora pwrpasol gan arbenigwyr busnes er mwyn datblygu eu cynnyrch a'u syniadau arloesol yn ystod y rhaglen 12 wythnos, gan baratoi ar gyfer diwrnod arddangos terfynol lle byddant yn cyflwyno eu syniadau i benderfynwyr blaenllaw Trafnidiaeth Cymru.

Bydd yr enillwyr yn ennill arian i ddatblygu eu cynnyrch ymhellach a helpu i ddarparu gwasanaethau rheilffordd y dyfodol.

Oherwydd COVID-19, bydd y rhaglen yn cael ei chyflwyno o bell yn yr un fformat â'r ail garfan, gan ganiatáu i fusnesau newydd weithio'n ddiogel a chymryd rhan gartref.

Wrth i'r paratoadau barhau ar gyfer y drydedd garfan, mae Trafnidiaeth Cymru eisoes wedi cynorthwyo 19 darpar fusnes newydd i ddatblygu eu syniadau drwy ddwy garfan gyntaf y rhaglen, ac mae 13 ohonynt wedi cyrraedd y cam adolygiad achos busnes.

Er nad yw Trafnidiaeth Cymru yn gallu datblygu syniadau arloesol pob cwmni newydd, mae cyngor, arweiniad a chymorth tîm Alt Labs ac arbenigwyr busnes wedi bod yn allweddol i'r cwmnïau hyn wrth ddatblygu eu cynnyrch. Er na chawsant eu dewis ar gyfer y diwrnod arddangos, mae cyfleoedd wedi codi i gydweithio â'r busnesau hyn ar adegau.

Er nad oedd cwmni Wordnerds yn fuddugol yn yr ail garfan, fe lwyddodd y busnes technoleg galed ym maes data a Deallusrwydd Artiffisial i ennill contract ar sail ei gynnyrch, ac mae'n parhau i weithio'n agos gyda Trafnidiaeth Cymru.

Wrth siarad am y profiad o gymryd rhan yn y rhaglen a'r hyn y mae wedi'i olygu i’r busnes ers hynny, dywedodd Helen Precious, Ymgynghorydd Data Mawr Wordnerds:

“Roedd ein profiad drwy gydol y Lab yn ardderchog. Fe wnaeth y broses 12 wythnos ein hannog ni i adolygu ac ail-werthuso ein dull gweithredu, gan ein helpu i ymchwilio'n fanylach i'r problemau sy'n wynebu cwsmeriaid a nodi'r anghenion busnes craidd.

“Yn y pen draw, arweiniodd hyn at greu ateb gwerth uchel ar gyfer y tîm syniadau. Roedd y cymorth a gawsom gan dîm Trafnidiaeth Cymru o'r wythnos gyntaf yn anhygoel. Roeddynt yn gefnogol, yn sylwgar ac yn rhoi o'u hamser yn hael iawn gan ddarparu adborth defnyddiol.

“Mae'r cyfan wedi arwain at gynnyrch ymarferol rhagorol a pherthynas gref iawn, ac rydym yn hynod gyffrous i weld cynnydd y tu hwnt i raglen arloesi lab”.

Meddai Samantha Bott, Arbenigwr Syniadau Cysylltiadau Cwsmeriaid Trafnidiaeth Cymru:

“Rydym wedi bod yn ddigon ffodus i lofnodi cytundeb gyda chwmni Wordnerds ers cynnal y garfan, a buom yn gweithio'n agos gyda'r tîm i gyflwyno system adrodd sydd wedi galluogi dangosyddion perfformiad allweddol ar gyfer y busnes.

“Mae'r adroddiadau hyn wedi bod yn hanfodol i nodi tueddiadau a mynd i'r afael â phroblemau sy'n codi mewn amser real, gan ein helpu i gydweithio â'n partneriaid yn y diwydiant”.

Ar ddiwedd yr ail garfan, yr enillwyr oedd cwmni Spacial Cortex, sy'n creu technoleg chwyldroadol y gellir ei gwisgo i helpu i leihau anafiadau codi a chario. Dyfarnwyd swm o £25,000 i'r busnes i ddatblygu ei gynnyrch er mwyn gwella profiad cwsmeriaid ar y rheilffyrdd.

Wrth siarad ar ôl y cyhoeddiad bod y busnes wedi ennill, meddai Kailash Manoharaselvan, Cyd-sylfaenydd a Chyfarwyddwr Spatial Cortex:

“O ystyried ein bod yn dal i fod yn fusnes newydd cymharol ifanc, mae'r profiad o gymryd rhan yn y rhaglen ac ennill y wobr wedi trawsnewid popeth ac wedi gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i ni. Mae wedi rhoi momentwm hollbwysig i ni ar ein taith i gychwyn busnes.

“Mae Trafnidiaeth Cymru yn hynod flaengar ac yn barod iawn i groesawu datblygiadau arloesol a fydd yn helpu i wella profiad eu cwsmeriaid a diogelu iechyd a llesiant ei staff.

“Mae rhaglen arloesi lab yn fenter wych sy'n hwyluso hyn drwy roi cyfle i fusnesau newydd addawol gyflwyno eu hatebion i banel o randdeiliaid allweddol. Byddem yn annog unrhyw fusnes newydd sydd eisoes yn gweithredu yn y diwydiant Rheilffyrdd neu unrhyw un sy'n ystyried troi at y diwydiant rheilffyrdd i wneud cais i'r rhaglen hon”.

Mae recordiad o gyflwyniadau'r ail garfan wrth iddynt ddangos eu cynnyrch ar y diwrnod arddangos olaf ar gael i'w wylio yma.

Wrth edrych ymlaen tuag at y drydedd garfan, meddai Michael Davies, Rheolwr Syniadau ac Arloesi Trafnidiaeth Cymru:

“Mae wedi bod yn wych gallu parhau i weithio gyda nifer o'r cwmnïau talentog o'r ddwy garfan sydd wedi'u cynnal hyd yma.

“Ar gyfer ein trydedd garfan, rydym yn awyddus i weithio gyda mwy o gwmnïau arloesol ac ehangu'r cyfle i fynd i'r afael â rhai o'r meysydd eraill sy'n cynnig her yn ein barn ni.

“Bydd rhai o'r meysydd hyn yn cynnwys seilwaith, diogelwch eiddo a diogelwch personol, yn ogystal ag edrych ar ddulliau newydd o fynd i'r afael ag un o'r heriau mwyaf y mae trafnidiaeth gyhoeddus wedi'i hwynebu yn ddiweddar; sut rydym yn annog pobl i ddewis trafnidiaeth gyhoeddus yn y dyfodol. Rydym yn edrych ymlaen at fwrw iddi”.

Os hoffech wneud cais i fod yn rhan o drydedd garfan y rhaglen arloesi, gallwch wneud hynny yma: https://www.f6s.com/labbytransportforwalescohort3.

Llwytho i Lawr