07 Meh 2018
Mae Ken Skates, Gweinidog yr Economi wedi croesawu'r newyddion y bydd gwasanaeth rheilffyrdd newydd Cymru a'r Gororau a Metro De Cymru yn golygu agor dau bencadlys newydd yng Nghymru gan greu oddeutu 130 o swyddi o safon uchel yng Nghymru.
Yn dilyn dyfarnu'r contract ar gyfer gwasanaeth rheilffyrdd Cymru a'r Gororau a Metro De Cymru i KeolisAmey, mae Keolis UK wedi cyhoeddi y bydd yn symud ei bencadlys o Lundain i swyddfa newydd yng Nghymru erbyn 2019 ac y bydd yn ail-leoli ei his-adran rheilffyrdd byd-eang o Baris i Gymru erbyn 2020.
Yn y cyfamser bydd Amey yn agor canolfan ddylunio newydd yng Nghymru, ble y bydd yn cynnig gwasanaethau ymgynghori a bydd rhagor o swyddi yn cael eu creu pan fydd y cwmnïau yn agor canolfan cydwasanaethau a chyswllt cwsmeriaid gan ddarparu gwasanaethau i'r ddau fusnes.
Mae'r swyddi hyn yn ychwanegol i'r 600 o swyddi a'r 30 o brentisiaethau y flwyddyn a gyhoeddwyd yn gynharach yr wythnos hon.
Cyn y cyfarfod gydag Alistair Gordon a Nicola Hindle o Keolis ac Amey, dywedodd Ken Skates Gweinidog yr Economi:
"Yn unol â'n Contract Economaidd, mae buddsoddiad cyhoeddus gyda phwrpas cymdeithasol yn ganolog i'n dull newydd o fynd i'r afael â rheilffyrdd, ac rwy'n falch y bydd y contract rheilffyrdd newydd yn cynnig manteision gwirioneddol a sylweddol i Gymru.
"Mae'r penderfyniad gan y cwmnïau rhyngwladol Keolis ac Amey i leoli dau bencadlys a dwy swyddfa newydd rhyngddynt yng Nghymru yn newyddion gwych, ac yn rhywbeth rydym yn rhagweld fydd yn rhoi hwb economaidd sylweddol, gan ddechrau gyda creu 130 yn rhagor o swyddi o safon uchel. Mae'r rhain yn ychwanegol i'r 600 o swyddi a gyhoeddwyd yn gynharach yn yr wythnos.
"Mae KeolisAmey hefyd wedi ymrwymo i ddod yn gyflogwr Cyflog Byw erbyn 2021 a byddant yn sicrhau bod y Cyflog Byw Gwirioneddol yn cael ei ddefnyddio drwy y gadwyn gyflenwi sylweddol.
"Yn ogystal â'r newyddion yn gynharach eleni y bydd mwyafrif y trenau newydd yn cael eu gosod at ei gilydd yng Nghasnewydd gan y cwmni o Sbaen, CAF, fydd yn dod â'u canolfan gweithgynhyrchu newydd i Gymru, does dim amheuaeth y bydd y contract rheilffyrdd newydd yn darparu nid yn unig wasanaethau rheilffyrdd gwell ond hefyd fanteision economaidd sylweddol i Gymru.
Meddai Alistair Gordon, Prif Swyddog Gweithredol Keolis UK:
"Mae cael eich dewis fel partner Trafnidiaeth Cymru am y 15 mlynedd nesaf yn golygu y byddwn yn rhan o drefniadau Cymru am bron i genhedlaeth.Mae symud ein pencadlys yma yn pwysleisio ein hymrwymiad ac yn ein cynnwys ni o fewn y cymunedau y byddwn yn eu gwasanaethu.
"Mae Cymru yn lle gwych i bencadlys unrhyw gwmni. Fel rhan o'r broses gaffael, daeth KeolisAmey i gysylltiad â busnesau a bywyd yng Nghymru a gwnaeth yr ymrwymiad, y sgiliau ac ansawdd bywyd yng Nghymru argraff arnynt. Roedd hyn, yn ogystal â natur eang ac arloesol uchelgeisiau Trafnidiaeth Cymru, yn golygu bod Cymru yn lleoliad amlwg inni."
Cafwyd cadarnhad hefyd gan Mr Gordon y daw Pencadlys newydd Keolis yn ganolfan ragoriaeth, gan gydweithio'n agos â'r ganolfan cydwasanaethau i ddod yn ganolfan wybodaeth y gall holl is-gwmnïau Keolis ei defnyddio.
Bydd hefyd yn cefnogi datblygiad pellach busnesau Keolis yn y DU gyda datblygiadau newydd ar gyfer parcio, beicio, bysiau a thechnoleg yn cael eu harwain o Gymru.
Meddai Nicola Hindle, Rheolwr Gyfarwyddwr Ymgynghori a Rheilffyrdd yn Amey:
"Fel rhan o'n hymrwymiad hirdymor i Gymru, gan adeiladu ar ein presenoldeb presennol gyda dros 300 o weithwyr yn cynnig gwasanaethau ar gyfer pobl Cymru, byddwn yn buddsoddi mewn canolfan ddylunio Ymgynghori Amey yng Nghymru.
"Bydd y swyddfa hon yn ychwanegiad gwych i'n rhwydwaith strategol o ganolfannau ymgynghori ledled y DU yn Birmingham, Manceinion, Sheffield, Motherwell, Caeredin, Belfast a Crawley."