21 Tach 2023
Rydyn ni’n falch iawn o rannu’r newyddion bod Jamilla Fletcher, un o’n Gyrwyr cymwys sydd wedi cwblhau ein rhaglen prentisiaeth gyrru trenau yn ddiweddar, wedi ennill gwobr Prentis y Flwyddyn yng Ngwobrau Academi Sgiliau Cymru eleni.
Cynhaliwyd y seremoni wobrwyo ar 7 Tachwedd 2023, ar Gampws Academi Sgiliau Cymru yng Nghastell-nedd Port Talbot. Bob blwyddyn, mae’r digwyddiad yn gyfle i anrhydeddu a chydnabod unigolion a busnesau eithriadol o bob cwr o Gymru.
Mae’r gwobrau wedi ymrwymo i ddathlu llwyddiannau gwych y rhai sydd wedi cymryd rhan yn rhaglenni dysgu seiliedig ar waith Academi Sgiliau Cymru yn 2022/2023
Llongyfarchiadau mawr i Jamilla ar ei buddugoliaeth haeddiannol am ei holl waith caled eleni.
Dywedodd Adam Bagwell, Rheolwr Hyfforddiant Gweithrediadau (a welir yn y llun gyda Jamilla isod):
“Hoffwn longyfarch Jamilla, ac rydw i wrth fy modd ei bod wedi ennill y wobr hon.
“Mae ei gwaith caled a’i hymroddiad i ddysgu drwy gydol ei hyfforddiant a’r tu hwnt wedi bod yn rhagorol, a gwnaeth y cyfan gyda gwên enfawr ar ei hwyneb.
“Rwy’n siŵr y bydd hi’n parhau i fod yn ysbrydoliaeth i hyfforddeion eraill sydd ar fin cychwyn ar eu taith ddysgu.”
Dyma’r fideo a ddangoswyd pan dderbyniodd Jamilla ei gwobr: