Skip to main content

Labs by Transport for Wales and Media Cymru names Inclutech as winner of accelerator programme

30 Gor 2025

Mae Labs gan Trafnidiaeth Cymru wedi cyhoeddi mai Inclutech, platfform riportio digwyddiadau hygyrch, yw enillydd cyffredinol ei chweched raglen cyflymu. Bydd y cwmni nawr yn dechrau ar gontract i ddatblygu ei dechnoleg ymhellach ar gyfer rhwydwaith trafnidiaeth Cymru.

Gwnaed y cyhoeddiad wrth ddod â Diwrnod Arddangos a gynhaliwyd yn Techniquest ddydd Mawrth 15 Gorffennaf i’w derfyn. Yno, cafodd 9 busnes newydd arloesol gyfle i arddangos eu syniadau. Roedd y digwyddiad, a gynhaliwyd ar y cyd â Media Cymru, yn benllanw rhaglen 10 wythnos drylwyr lle datblygodd arloeswyr atebion i heriau allweddol ym maes trafnidiaeth a'r cyfryngau, popeth o ddiogelwch gyda chymorth Deallusrwydd Artiffisial (AI) i deithio rhanbarthol heb allyriadau. Gyda dros 50 o arweinwyr diwydiant, buddsoddwyr a llunwyr polisi yn y gynulleidfa, cyflwynodd pob cwmni Gynnyrch Sylfaenol Hyfyw (MVP) yr oeddent wedi'i ddyfeisio.

“Mae Carfan 6 yn profi y gall arloesi yng Nghymru ddatrys heriau trafnidiaeth ar lefel fyd-eang,” meddai Barry Lloyd, Pennaeth Arloesi Trafnidiaeth Cymru. “Mae safon y syniadau rydyn ni wedi'u gweld yn ymwneud â Deallusrwydd Artiffisial (AI), dylunio cynhwysol a hedfan heb allyriadau. Mae hyn yn profi bod gan system drafnidiaeth Cymru ddyfodol disglair.”

Roedd gan Gavin Johnson, Cynhyrchydd Ymchwil a Datblygu hyn i'w ddweud am y bartneriaeth: “Mae Media Cymru yn falch iawn o fod yn bartner gyda Trafnidiaeth Cymru i ddarparu cefnogaeth i sbarduno ymchwil a datblygu arloesedd (Ymchwil a Datblygu) ar gyfer y sector trafnidiaeth. Mae cydweithredu yn allweddol i ddatgloi atebion doethach, mwy cynaliadwy, ac mae'r bartneriaeth hon yn adlewyrchu ein hymrwymiad ar y cyd ar gyfer arloesi, nid yn unig yn y sector cyfryngau, ond ar draws ystod ehangach o sectorau hefyd.

Cyflwynwyd tair gwobr i gydnabod cyflawniadau rhagorol:

· Enillydd Carfan 6: Inclutech - Enillodd sylfaenydd y cwmni, Becca Hume, y brif wobr am ei phlatfform riportio digwyddiadau di-eiriau. Mae’n grymuso teithwyr agored i niwed i nodi pryderon diogelwch yn synhwyrol ac mewn amser real, gan greu amgylchedd trafnidiaeth gyhoeddus mwy diogel a mwy cynhwysol.

· Y Cyflwyniad Gorau: Barcud – Cydnabuwyd Dr Ben Gwalchmai am ei gyflwyniad rhagorol ar gyfer y cysyniad awyren fôr drydan heb allyriadau a ddyluniwyd i gwtogi amser teithio rhwng Caergybi a Chaerdydd i lai na dwy awr.

· Ysbryd y Rhaglen: Cavefish AI – Derbyniodd Steve Williams y wobr hon am ei waith ar blatfform EchoDepthAI. Peiriant deallusrwydd artiffisial deallusrwydd emosiynol ydyw all ddehongli 52 emosiwn gwahanol gyda mynegiant wyneb, llais a thestun i helpu i bersonoli cynnwys a phrofiadau teithwyr.

Bydd y contract buddugol yn rhoi cyfle i Inclutech ddatblygu prawf cysyniad i TrC, gan symud ei blatfform o syniad addawol i ateb y gellir ei roi ar waith ar gyfer pobl Cymru.

Mewn ymateb i'r fuddugoliaeth, dywedodd Becca Hume, Sylfaenydd a Phrif Swyddog Gweithredol Inclutech: “Rydym ar ben ein digon ein bod wedi ennill y categori cyffredinol. Mae gweithio ochr yn ochr â Thrafnidiaeth Cymru dros y 10 wythnos diwethaf wedi bod yn brofiad amhrisiadwy — mae wedi ein helpu i lunio dyfodol mwy diogel a chynhwysol i deithwyr a staff. Mae'r gydnabyddiaeth hon yn tynnu sylw at y ffaith bod angen brys am offer riportio mwy hygyrch a symlach ar draws y rhwydwaith rheilffyrdd. Rydym yn edrych ymlaen yn fawr at symud ymlaen â'r prosiect hwn gyda'n gilydd."

Roedd y garfan hefyd yn cynnwys ystod amrywiol o atebion arloesol eraill, gan dynnu sylw at ehangder y dalent yn y rhaglen:

· Dadorchuddiodd Bays Consulting a Createc CrowdGuardian, model AI newydd sy'n trosoli technoleg synhwyro amser real i nodi ymddygiadau a allai o bosibl droi yn dreisgar neu'n beryglus, gan ganolbwyntio ar Drais yn erbyn Menywod a Merched (VAWG).

· Cyflwynodd 1 Timetable blatfform cydweithredol a gynlluniwyd i helpu'r diwydiant rheilffyrdd i gyflawni yn erbyn amcanion yr amserlen, gan roi data cerbydau, criw ac amserlen wrth wraidd ei feddalwedd.

· Arddangosodd Proaptus system sy'n cael eu gyrru gan AI sy'n defnyddio Synhwyrydd Dosbarthu Acwstig | Distributed Acoustic Sensing (DAS) i drawsnewid seilwaith presennol yn rhwydweithio deallus, gan wella diogelwch ac effeithlonrwydd.

· Dangosodd AfroSheep Animations gynnwys deniadol wedi'i animeiddio gyda chyfryngau rhyngweithiol y maent wedi’i gynllunio i greu profiadau addysgol llawn cymhelliant ar gyfer amgueddfeydd ac atyniadau i dwristiaid.

· Roedd Crash Productions yn defnyddio cynnwys digidol ac ymgyrchoedd cymdeithasol effeithiol i ganolbwyntio ar ieuenctid mewn partneriaeth â dylanwadwyr a darlledwyr cymdeithasol mawr.

Roedd y digwyddiad yn Techniquest yn gyfle i rwydweithio a darganfod, gan atgyfnerthu ymrwymiad Labs gan TrC i feithrin ecosystem ffyniannus ar gyfer technoleg yng Nghymru a chyflawni gweledigaeth Llywodraeth Cymru o rwydwaith trafnidiaeth fodern, integredig a chynaliadwy.

Nodiadau i olygyddion


Ynglŷn â Labs gan Trafnidiaeth Cymru

Labs gan Trafnidiaeth Cymru yw cyflymydd arloesi Trafnidiaeth Cymru. Yn ystod y rhaglen tri mis, mae busnesau technoleg newydd yn cymryd rhan mewn gweithdai, sesiynau mentora a data byw i ddatblygu a dilysu MVP. Mae’r cyfranogwyr yn cyflwyno eu syniadau i’r rheini sy’n gwneud penderfyniadau yn Trafnidiaeth Cymru er mwyn ceisio am gyfle i ennill contract a defnyddio eu syniad yn helaeth, gan wella teithiau i filiynau a sbarduno twf cynhwysol, cynaliadwy ledled Cymru.

Trafnidiaeth Cymru Trafnidiaeth Cymru yw'r cwmni nid-er-elw sy'n gyrru gweledigaeth Llywodraeth Cymru o rwydwaith trafnidiaeth o ansawdd uchel, diogel, integredig, fforddiadwy a hygyrch y mae pobl Cymru yn falch ohono. Trwy fuddsoddi mewn seilwaith a phartneru ag arloeswyr, mae TrC wedi ymrwymo i adeiladu system drafnidiaeth gynaliadwy a modern ar gyfer y dyfodol.

Media Cymru

Mae Media Cymru yn gydweithrediad sydd â'r nod o droi sector cyfryngau Caerdydd a'r ddinas-ranbarth gyfagos yn ganolbwynt byd-eang ar gyfer arloesi yn y cyfryngau gan ganolbwyntio ar dwf economaidd gwyrdd a theg. 

Dan fantell Prifysgol Caerdydd, daw'r rhaglen fuddsoddi strategol hon â phartneriaid o feysydd fel cynhyrchwyr cyfryngau, darlledu, technoleg, prifysgol ac arweinyddiaeth leol ynghyd am y tro cyntaf i ragori ar arloesedd yn y cyfryngau. 

Ariennir Media Cymru gan £22m o gronfa flaenllaw Cryfder mewn Lleoedd Ymchwil ac Arloesedd y DU (UKRI), £3m gan Brifddinas-Ranbarth Caerdydd, £1m gan Lywodraeth Cymru, drwy Gymru Greadigol, a £23m o gyllid cyfatebol gan bartneriaid yn y diwydiant a'r brifysgol.