27 Maw 2026
Mae Trafnidiaeth Cymru yn cynyddu gwasanaethau TrawsCymru yr haf hwn ar ddau lwybr allweddol ar draws Cymru i ddiwallu'r galw cynyddol.
O ddydd Sul 28 Mawrth ymlaen, bydd teithwyr sy'n teithio ar lwybrau T4 a T10 TrawsCymru yn elwa o wasanaethau amlach yn ystod misoedd yr haf, gyda theithiau ychwanegol yn cael eu hychwanegu ar benwythnosau, gwyliau banc ac yn ystod gwyliau ysgol.
Gyda'r haf yn agosáu, mae mwy o bobl yn manteisio ar y cyfle i archwilio tirweddau prydferth a chyrchfannau poblogaidd Cymru.
Mae'r newidiadau i'r amserlen ar gyfer y llwybrau hyn yn cynnwys:
- T10 (Bangor – Betws-y-coed – Corwen)
Bydd gwasanaethau bob awr yn rhedeg rhwng Betws-y-coed a Bangor ar benwythnosau ac ar ddiwrnodau'r wythnos yn ystod gwyliau ysgol.
- T4 (Merthyr Tudful – Aberhonddu – Y Drenewydd)
Caiff amlder yr amserlen ei gynyddu i un gwasanaeth bob awr rhwng Aberhonddu a Merthyr Tudful ar ddydd Sul a Gwyliau Banc
O 13 Ebrill ymlaen bydd mân newidiadau ychwanegol i amserlen y T4 er mwyn gwella prydlondeb a dibynadwyedd.
Dywedodd Mark Jacobs, Uwch Reolwr Cynllunio a Datblygu TrawsCymru: “Wrth i fisoedd yr haf nesáu, bydd y gwelliannau hyn yn ei gwneud hi hyd yn oed yn haws i bobl archwilio mannau gorau Cymru.
“Rydym am wneud teithio ar y bws yn haws a thrwy gynyddu amlder y ddau lwybr poblogaidd hyn, rydym yn gobeithio gweld hyd yn oed mwy o deithwyr ar ein gwasanaethau yr haf hwn.”
Mae amserlenni wedi'u diweddaru ar gyfer y ddau lwybr ar gael yma Llwybrau a Mapiau - TrawsCymru