25 Gor 2024
Mae gwasanaethau bws pellter hirach TrawsCymru yn rhan bwysig o'r rhwydwaith trafnidiaeth gyhoeddus integredig yng Nghymru.
Dros yr wythnosau diwethaf mae tîm TrawsCymru Trafnidiaeth Cymru wedi bod allan i ymweld â chymunedau ar hyd llwybr T5, gan gynnwys Hwlffordd, Aberteifi ac Aberystwyth.
Dywedodd llefarydd ar ran Trafnidiaeth Cymru: "Cymerodd llawer o bobl yr amser i ddod i'r sesiynau galw heibio a dweud wrthym beth yr hoffent ei weld ar y llwybr pan gaiff ei ail-dendro yn ddiweddarach eleni.
"Cawsom ddigon o sgyrsiau cadarnhaol gyda theithwyr a rannodd eu profiadau teithio gyda ni a’u rhesymau dros ddefnyddio'r bws, ond clywsom hefyd am rai o'r rhwystredigaethau y mae pobl wedi'u hwynebu gyda'r gwasanaeth.
"Rydym wedi ystyried eu sylwadau, eu hawgrymiadau a'u blaenoriaethau a bydd y rhain yn ein helpu i lunio'r gwasanaeth yn y dyfodol."
Os nad oeddech yn gallu mynychu unrhyw un o'r sesiynau galw heibio, peidiwch â cholli'ch cyfle i ddweud eich dweud – cwblhewch arolwg ar-lein TrC sydd ar agor tan 5 Awst 2024.Traws Cymru T5 Service Feedback (smartsurvey.co.uk) (English)
Gwasanaeth T5: Holiadur am y Gwasanaeth (smartsurvey.co.uk)
Wedi'u hariannu gan Lywodraeth Cymru, mae bysiau TrawsCymru yn darparu cysylltiadau trafnidiaeth gyhoeddus hanfodol i lawer o gymunedau ledled Cymru, gan integreiddio â theithiau trên a hefyd rhoi opsiwn hygyrch, fforddiadwy ac ecogyfeillgar i ymwelwyr allu archwilio harddwch naturiol golygfeydd ein gwlad.
Lawrlwythwch ein ap i gynllunio'ch taith, prynu eich tocynnau, olrhain eich bws a darganfod faint o CO2 y byddech yn ei arbed.