08 Ebr 2024
Gwelliannau wedi'u targedu i reilffordd yng Ngogledd Cymru wedi arwain at well gwasanaeth i gwsmeriaid.
Ers cyflwyno amserlen newydd ym mis Rhagfyr, mae lein Wrecsam i Bidston wedi gweld mwy o drenau dyddiol yn gwasanaethu ar ei hyd nag erioed o'r blaen.
Ac yn ystod 12 wythnos gyntaf 2024, mae mwy nag 80% o drenau wedi cyrraedd naill ai ar amser neu o fewn tri munud o'u hamser cyrraedd disgwyliedig, gwelliant enfawr o 2023. Bryd hynny, roedd y rhan fwyaf o’r misoedd yn gweld llai na 50% o’r trenau yn cyrraedd o fewn tri munud o’u hamser disgwyliedig.
“Mae'n newyddion gwych bod y newidiadau wedi'u targedu hyn yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i daith ein cwsmeriaid,” meddai Colin Lea, Cyfarwyddwr Cynllunio a Pherfformiad Trafnidiaeth Cymru.
"Roedd ein cwsmeriaid a'n rhanddeiliaid yn glir ynghylch eu dymuniadau: gwasanaeth rheolaidd a dibynadwy sy'n gweithio iddyn nhw.
“Yn syml iawn, nid oedd yr hyn yr oeddem yn ei gyflawni'r llynedd yn ddigon da. Felly, gwnaethom benodi swyddog llwybr pwrpasol ar gyfer y lein i fynd i’r afael â’r anawsterau yr oeddem yn eu hwynebu.”
Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Drafnidiaeth a Gogledd Cymru, Ken Skates: “Mae hyn yn newyddion gwych. Rydym yn gwerthfawrogi bod hyn wedi bod yn rhwystredig i deithwyr, ond rwy’n falch, ar ôl yr holl waith caled, ein bod yn gweld gwelliannau sylweddol i’r gwasanaeth pwysig hwn.”
Hefyd yn cael ei hadnabod fel Lein y Gororau, mae lein Wrecsam i Bidston yn 27 milltir o hyd gyda 15 gorsaf ar hyd y lein rhwng Wrecsam Canolog a Bidston yn y Wirral. Gall cwsmeriaid sy'n defnyddio'r lein gysylltu â gwasanaethau eraill yn Wrecsam Cyffredinol, Shotton a Bidston, yn ogystal â gwasanaethau bysiau lleol.
Yn yr amserlen newydd, newidiwyd o un trên yr awr yn gwasanaethu i un bob 45 munud. Roedd hyn yn golygu 8 trên ychwanegol y dydd – 4 i'r ddau gyfeiriad.
Roedd hyn yn caniatáu mwy o amser adfer yn ystod y daith, ac amseroedd hirach yn troi yn ôl ar ben pob taith, gan olygu mwy o gydnerthedd a llai o wasanaethau yn cael eu canslo.
Roedd rhai o broblemau'r llynedd yn canolbwyntio ar ddibynadwyedd y trenau Dosbarth 230 newydd sy'n gweithredu ar y lein. Mae peirianwyr wedi bod yn gweithio'n galed i fynd i'r afael â'r materion dibynadwyedd hyn, ac mae cynllun wedi'i ariannu ar waith i wneud newidiadau i wella dibynadwyedd ymhellach yn ddiweddarach eleni. Rydym hefyd wedi gallu rhoi'r trenau Dosbarth 197 newydd ar waith ar y lein i weithio ochr yn ochr â'r trenau Dosbarth 230 er mwyn lleddfu pwysau.
“Mae wedi bod yn dri mis cyntaf calonogol iawn,” ychwanegodd Mr Lea.
“Byddwn yn parhau i weithio'n agos gyda'n partneriaid i gadw llygad barcud ar berfformiad, fel y gallwn wella’r gwasanaeth i'n cwsmeriaid wrth i'r buddsoddiadau mewn trenau newydd ddod i rym.”