13 Medi 2021
Mae'r cwmni coffi annibynnol o Gymru, Handlebar Barista, bellach yn gwasanaethu yng ngorsaf reilffordd y Barri wedi i Drafnidiaeth Cymru adnewyddu adeiladau'r orsaf.
Fel rhan o gynllun TrC i roi bywyd newydd i leoedd mewn gorsafoedd nad ydyn nhw'n cael eu defnyddio'n ddigonol neu ddim o gwbl at ddibenion cymdeithasol a masnachol, mae un o'r prif adeiladau ar blatfform 1 wedi'i ailddatblygu i'w ddefnyddio fel caffi, ynghyd â chegin newydd.
Mae cwmni coffi ac arlwyo symudol Handlebar Barista wedi symud i'r adeilad, eu hadeilad parhaol cyntaf, ac mae ganddyn nhw gynlluniau uchelgeisiol ar gyfer yr adeilad.
Eglura Chris Garrett, perchennog Handlebar Barista: “Mae wedi cymryd cryn amser oherwydd y pandemig ond rydyn ni’n falch ein bod bellach wedi symud i mewn. Mae gennym hats (hatch) yn y gegin y gallwn ddefnyddio i weini bwyd a diod i bobl y tu allan i'r orsaf ac ardal braf y tu mewn.
“Yn ogystal a choffi, byddwn yn gwerthu diodydd oer, byrbrydau a bwydydd wedi’u pobi.
“Dyma ein lleoliad parhaol cyntaf ac mae'n braf peidio â gorfod beicio o un lle i'r llall! Mae'n wych cael lle y gallwn alw’n gartref a bod yn greadigol ag ef.
“Rydyn yn awyddus i gynnwys y gymuned ac efallai cael rhai artistiaid lleol i ddangos eu gwaith yn y caffi.
“Gobeithio y bydd niferoedd y pobl yn dychwelyd i'r lefelau yr oedden nhw cyn y pandemig ac mae'n bwysig ein bod ni yma i fanteisio i’r eithaf ar y cyfle.”
Mae Handlebar Barista bob amser wedi bod yn gysylltiedig â gorsafoedd rheilffordd, ar ôl dechrau gydag un treic yn gwerthu coffi y tu allan i Ganol Caerdydd nôl yn 2015. Maent hefyd wedi trawsnewid hen fwth tocynnau yng ngorsaf Ffynnon Taf yn fan gweini ac yn gobeithio ei ailagor eleni.
Dywedodd James Timber, Rheolwr Datblygu Masnachol Cymdeithasol TrC: “Rydyn ni'n falch iawn o bod tîm Handlebar Barista yng ngorsaf y Barri wedi cyrraedd i wasanaethu'r gymuned leol ac rydyn ni'n edrych ymlaen yn fawr at weld sut y byddan nhw'n datblygu'r adeilad.
“Mae hyn yn rhan o'n cynllun datblygu cymdeithasol a masnachol ehangach lle mae adeiladau mewn gorsafoedd ledled Cymru yn cael eu trawsnewid er budd y gymuned leol.
“Mae buddsoddi a rhoi bywyd newydd i leoliadau segur mewn gorsafoedd at ddefnydd y gymuned neu ddefnydd masnachol yn rhan allweddol o'n strategaeth. Mae hyn gan ein bod yn gwybod bod gorsafoedd yn fwy na rhywle rydych chi'n dal eich trên, maen nhw'n ganolfannau cymunedol.”
Dywed Chris, perchennog Handlebar Barista, y byddai'n argymell busnesau lleol eraill i weithio gyda TrC ar brosiectau fel gorsaf y Barri.
“Mae Trafnidiaeth Cymru wedi gwneud llwyth o waith a’i ddatblygu’n adeilad braf iawn i ni,” ychwanegodd Chris. “Mae'n teimlo fel amser hir ers i ni ddechrau'r prosiect hwn ond mae TrC bob amser wedi bod wrth law i'n helpu.
“Yn rhy aml, rydych yn gweld cadwyni mawr yn manteisio ar y lleoedd mewn gorsafoedd ond mae'n wych mai bryd TrC oedd gweithio gyda busnes fel ein un ni.”
I gael rhagor o wybodaeth am Handlebar Barista ewch i'w gwefan yma .