06 Meh 2025
Mae gyrwyr trenau wedi’u lleoli yn y Barri unwaith eto am y tro cyntaf ers y 1990au ar ôl i waith yn y depo gael ei gwblhau yno.
Mae’r symudiad wedi arwain at nifer yr aelodau staff yn cynyddu i 58, sy’n arwydd o welliant enfawr yn yr economi leol.
Gwnaethom gymryd cyfrifoldeb o’r depo trenau yno yn 2022 ac rydym wedi parhau i’w ddatblygu ochr yn ochr â’n partneriaid yn Network Rail.
Yn dilyn y newid i amserlen fis Mai ar 18 Mai, bydd 39 o yrwyr wedi’u lleoli yno ynghyd â chydweithwyr y depo, glanhawyr, a rheolwyr criwiau trenau.
Bydd y rhan fwyaf o’r fflyd Dosbarth 756 a Dosbarth 231 wedi’u lleoli yno er mwyn gwasanaethu’r llinellau rhwng Rhymni ac Ynys y Barri, yn ogystal â llinellau Treherbert, Merthyr ac Aberdâr (nes i fflyd Dosbarth 398 ddechrau gwasanaeth).
Bydd gwaith cynnal a chadw trwm yn ogystal â rhoi tanwydd yn parhau yn Nepo Treganna yng Nghaerdydd.
Dywedodd Rheolwr y depo, Alun Davies: “Mae hyn yn drawsnewidiol i’r bobl ac i’r ardal ac mae’n tystio i’r gwaith caled y mae cymaint o bobl wedi’i wneud er mwyn cyflawni hyn.
“Mae’n anhygoel gweld gyrwyr yn dychwelyd yma.”
“Pan wnaethom gymryd rheolaeth o’r depo, roedd angen llawer iawn o waith arno. Gwnaethom gydweithio’n frwd arno gan roi diogelwch a chynaliadwyedd ar flaen y gad, yn ogystal ag edrych i’r dyfodol a chynllunio ar ei gyfer.”
Fel rhan o’r gwaith, mae llwybr diogel wedi cael ei osod rhwng gorsaf drenau’r Barri yn y dref a’r depo. Mae gardd gynaliadwy ar gyfer llesiant hefyd wedi cael ei chreu ar gyfer staff ac ymwelwyr, sydd hefyd yn helpu i gefnogi bioamrywiaeth o amgylch y depo.
Adeiladwyd depo’r Barri yn y 1890au fel rhan o ddatblygiadau’r dociau a’r rheilffordd. Dechreuodd ei weithrediadau leihau yn y 1990au er i Reilffyrdd Lloegr, Cymru a’r Alban gael gyrwyr yno tan 1999. Cyn i TrC gymryd cyfrifoldeb ohono, roedd John Buxton, Cyfarwyddwr Cambrian Transport, yn gweithredu o’r safle o’r flwyddyn 2009.
Agorwyd y depo, gardd a chroesfan i yrwyr yn swyddogol mewn digwyddiad arbennig ddydd Gwener 16 Mai lle tywyswyd Jane Hutt AS, Arweinydd Cyngor Bro Morgannwg, Lis Burnett a sawl rhanddeiliaid lleol allweddol arall o amgylch y depo.