Skip to main content

26 Tach 2018

Mae yna fideo treigl amser NEWYDD wedi’i gyhoeddi sy’n dangos sut mae Gwasanaethau Rheilffyrdd Trafnidiaeth Cymru yn trawsnewid ymddangosiad trenau yn eu fflyd gyfredol gan ddefnyddio proses arloesol sy’n canolbwyntio ar gynaliadwyedd.

Gallwch lawrlwytho’r fideo llawn yma.

Mae’r amlapiau cynaliadwy eisoes wedi dechrau gorchuddio trenau ar ôl i Wasanaethau Rheilffyrdd Trafnidiaeth Cymru bartneru â’r cwmnïau technoleg a seilir ar wyddoniaeth, 3M ac Aura Graphics.

Caiff yr amlapiau llwyr ddwyieithog eu hargraffu’n ddigidol yn lliwiau arian a choch Trafnidiaeth Cymru, gyda laminiad ychwanegol i wrthsefyll graffiti, ac maent eisoes yn creu cyffro ymysg teithwyr rheilffyrdd. 

A hwythau wedi cymryd yr awenau gyda gwasanaeth rheilffyrdd Cymru a’r Gororau ym mis Hydref, mae Gwasanaethau Rheilffyrdd Trafnidiaeth Cymru yn dechrau ar daith 15 mlynedd gyffrous fydd yn gweld £5 biliwn yn cael ei fuddsoddi i wella gwasanaethau.  Bydd hyn yn cynnwys buddsoddi £800 miliwn mewn cerbydau trên newydd, y bydd 50% ohonynt yn cael eu cydosod yng Nghymru.

Un o’r camau cyntaf yw buddsoddiad gwerth £40 miliwn yn y fflyd gyfredol o drenau a etifeddwyd ar y 14eg o Hydref, 2018.

Bydd hi’n cymryd 12 mis i amlapio’r fflyd gyfan o 127 o drenau, i sicrhau nad oes yna darfu ar gwsmeriaid.  Bydd y gwaith hefyd yn cynnwys adnewyddu’r tu mewn i’r trenau.  Defnyddir y fflyd gyfredol o drenau tan y caiff trenau newydd eu cyflwyno yn 2023.  Mae Trafnidiaeth Cymru yn buddsoddi £800 miliwn mewn cerbydau trên newydd, ac fe fydd y tu mewn a’r tu allan i’r trenau newydd hyn wedi’u brandio â lifrai llawn Trafnidiaeth Cymru. 

Dywedodd Colin Lea, Cyfarwyddwr Profiad Cwsmeriaid Trafnidiaeth Cymru: "Rydym wrth ein bodd gyda sut mae’r trenau’n edrych, ac rydym eisoes wedi cael dwsinau o gwsmeriaid yn dweud wrthym mor ddeniadol y maent yn edrych.

"Roeddem yn credu yr hoffai cwsmeriaid wirioneddol weld y tu ôl i’r llenni sut rydych yn trawsnewid fflyd o drenau.

"Er y byddwn yn cyflwyno trenau newydd yn y blynyddoedd i ddod, fe gydnabyddwn mor bwysig yw rhoi’r profiad gorau i gwsmeriaid cyn gynted â phosibl, a dyma pam rydym yn buddsoddi £40 miliwn yn y fflyd gyfredol, gan eu trawsnewid y tu mewn a’r tu allan. 

"Mae gwella ymddangosiad y trenau’n un o nifer o welliannau y bydd cwsmeriaid yn sylwi arnynt yn o fuan, o ganlyniad i’r buddsoddiad hwn.  Bydd hefyd yn cyllido gwelliannau i brofiad a hygyrchedd cwsmeriaid a gwasanaethau ychwanegol. 

“Mae cynaliadwyedd yn egwyddor sy’n arwain Trafnidiaeth Cymru, ac felly fe wnaethom gymryd y cyfle i ddewis ffilm a chanddi’r fath rinweddau trawiadol i ddiweddaru graffeg ein fflyd ac i leihau’n hôl troed carbon."

Caiff y gwaith ei wneud yn nepo trenau Alstom yng Nghaer heb orfod trefnu i symud y trenau i gyfleuster arbennig. 

Roedd y prosiect yn golygu diosg yr arwyddion presennol, paratoi’r arwynebau gwaelodol yn llawn, gwneud triniaethau rhag cyrydu, ac ailbeintio, cyn gosod Envision Print Wrap LX480mC a argraffwyd yn ddigidol o 3M, ac yn olaf gosod labeli dwyieithog ar ochrau allanol y cerbydau.   

Cafodd y gwaith ei gydgysylltu yn unol â’r weithdrefn gynnal a chadw arferol ar gyfer y trenau, a drefnwyd fel sifftiau dydd a nos parhaus dros un penwythnos ar gyfer pob trên er mwyn sicrhau nad oedd dim tarfu o gwbl ar wasanaethau i deithwyr.

I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch, os gwelwch yn dda, â james.nicholas@tfwrail.wales neu ffoniwch 03303211180.

 

Nodiadau i Olygyddion

Mae Trafnidiaeth Cymru yn buddsoddi £40 miliwn yn y cerbydau trên presennol i wella’r profiad a’r hygyrchedd i gwsmeriaid. 

Buddsoddir £800 miliwn mewn cerbydau trên newydd.

Erbyn 2023, fe gaiff 95% o’r holl deithiau eu gwneud ar drenau newydd eu hadeiladu.

Bydd 50% o’r holl drenau newydd eu hadeiladu wedi’u cydosod yng Nghymru.

Ynglŷn â 3M

Yn 3M, rydym yn cymhwyso gwyddoniaeth mewn ffyrdd cydweithredol i wella bywydau’n ddyddiol.  Gyda $31.7 biliwn mewn gwerthiant, mae ein 91,500 o weithwyr yn cysylltu â chwsmeriaid drwy’r byd i gyd.

Mae’r Deyrnas Unedig ac Iwerddon yn gartref i un o’r is-gwmnïau mwyaf sydd gan 3M y tu allan i’r UDA, gan gyflogi 2,900 o bobl ledled 20 o leoliadau, yn cynnwys naw o safleoedd gweithgynhyrchu.

Mae cynnyrch a weithgynhyrchir yn y Deyrnas Unedig yn cynnwys sgraffinyddion haenog, cyfarpar diogelwch personol, tapiau adlynol, cynnyrch microbioleg diwydiannol a systemau cyflenwi cyffuriau.

Dowch i ddysgu mwy am ddatrysiadau creadigol 3M i broblemau’r byd yn www.3M.co.uk neu dilynwch @3M_UK ar Twitter.