Skip to main content

TfW receives Employer Recognition Scheme Gold Award

12 Gor 2023

Mae Trafnidiaeth Cymru (TrC) yn un o bron i 200 o sefydliadau i gael eu cydnabod gan Lywodraeth y DU am gefnogi cymuned y Lluoedd Arfog, y nifer uchaf erioed ers lansio'r Cynllun Cydnabod Cyflogwyr y Weinyddiaeth Amddiffyn yn 2013.

Mae Gwobr Aur y Cynllun Cydnabod Cyflogwyr Amddiffyn, sef y bathodyn anrhydedd uchaf, yn cydnabod y rôl gadarnhaol y mae cyflogwyr yn ei chwarae o ran cefnogi cymuned y Lluoedd Arfog. 

Dywedodd Karl Gilmore, Cyfarwyddwr Seilwaith Rheilffyrdd a Hyrwyddwr y Lluoedd Arfog yn Trafnidiaeth Cymru: “Yn Trafnidiaeth Cymru rydym yn parhau i gefnogi ein Cymuned Lluoedd Arfog ac rydym yn falch o fod wedi llwyddo i ennill statws Aur y Cynllun Cydnabod Cyflogwyr.  Drwy lofnodi Cyfamod y Lluoedd Arfog, rydym yn cydnabod, yn deall ac yn cefnogi'r rhai sydd wedi gwasanaethu yn y Lluoedd Arfog neu sy'n parhau i wneud hynny yn rhinwedd eu swydd fel Milwyr wrth Gefn.  Dylai eu teuluoedd neu'r rhai sy'n Wirfoddolwyr yn y Lluoedd Arfog gael eu trin â thegwch a pharch yn y gymuned, y gymdeithas a'r gweithle.

“Mae TrC yn gwerthfawrogi gweithlu amrywiol; mae'n ein gwneud yn gryfach, yn ein helpu i ddeall ein cwsmeriaid yn well, yn ein helpu i wneud penderfyniadau gwell a bod yn fwy arloesol.  Mae pawb yn wahanol ac mae ganddynt eu persbectif eu hunain felly rydym yn adeiladu tîm amrywiol sy'n adlewyrchu'r cymunedau rydym yn eu gwasanaethu.  Drwy hyn, rydym yn benderfynol o fod yn un o brif gyflogwyr cynhwysol Cymru ac edrychwn ymlaen at barhau i gefnogi Cymuned y Lluoedd Arfog."

Eleni, mae sefydliadau ar draws amrywiaeth o sectorau gan gynnwys trafnidiaeth, addysg, cyllid a gofal iechyd wedi cael eu cydnabod yn y gwobrau. O blith enillwyr y Gwobrau Aur, mae 28% ohonynt naill ai’n sefydliadau micro neu fach, ac mae 47% ohonynt yn sefydliadau mawr gyda dros 500 o weithwyr. Mae hyn yn dangos pwysigrwydd y Cyfamod, yn ogystal â'r sgiliau a’r manteision y gall cyn-aelodau’r lluoedd arfog eu cynnig i fusnesau.

Dywedodd Dr Andrew Murrison, y Gweinidog dros Bobl Amddiffyn, Cyn-filwyr a Theuluoedd y Lluoedd Arfog: “Hoffwn ddiolch i’r holl sefydliadau sydd wedi cael eu cydnabod yn y gwobrau eleni. Rwy’n falch iawn ein bod wedi gweld cynifer o fudiadau’n cael eu cydnabod gyda gwobr aur. Mae eu cefnogaeth barhaus yn dangos y manteision a’r cryfderau unigryw y gall cymuned y Lluoedd Arfog eu cynnig i’r gweithle.”

Mae gan y Cynllun Cydnabod Cyflogwyr Amddiffyn, sy’n cael ei ddarparu gan y tîm Rheoli Cysylltiadau Amddiffyn, gyfanswm o 641 o ddeiliaid ar hyn o bryd. Rhaid i sefydliadau ailymgeisio bob pum mlynedd i gadw eu statws Gwobr Aur.

I ennill Gwobr Aur gan y Weinyddiaeth Amddiffyn, rhaid i sefydliadau ddarparu 10 diwrnod ychwanegol o wyliau â thâl i filwyr wrth gefn, a sicrhau bod ganddynt bolisïau Adnoddau Dynol cefnogol ar waith ar gyfer milwyr wrth gefn, cyn-filwyr, gwirfoddolwyr sy’n oedolion y Llu Cadetiaid, a gwŷr a gwragedd a phartneriaid y rheini sy’n gwasanaethu yn y Lluoedd Arfog.

Rhaid iddynt hefyd hyrwyddo manteision cefnogi’r rheini sydd yng nghymuned y Lluoedd Arfog, drwy annog sefydliadau eraill i lofnodi Cyfamod y Lluoedd Arfog ac ymgysylltu â’r Cynllun Cydnabod Cyflogwyr.

Eleni, mae Marks and Spencer Plc, Motorola Solutions UK Ltd, Hilton a Toyota Manufacturing UK ymysg yr enwau adnabyddus sydd wedi cael eu cydnabod, ochr yn ochr â llawer o fudiadau bach gan gynnwys Siambr Fasnach Swydd Henffordd a Swydd Gaerwrangon.

Nodiadau i olygyddion


  • Lansiwyd y Cynllun Cydnabod Cyflogwyr Amddiffyn (ERS) yn 2013 gan y Prif Weinidog ar y pryd, David Cameron, i gydnabod cefnogaeth cyflogwyr i egwyddorion ehangach Cyfamod y Lluoedd Arfog a sbectrwm llawn y personél Amddiffyn. Mae hyn yn cynnwys milwyr wrth gefn, y rheini sy’n gadael y lluoedd arfog, cadetiaid, gwŷr a gwragedd, a phobl sydd wedi’u clwyfo, wedi’u hanafu ac sy’n sâl.
  • Mae rhestr lawn o enillwyr gwobrau Aur, Arian ac Efydd y Cynllun Cydnabod Cyflogwyr ar gael yma.
  • Mae Cyfamod y Lluoedd Arfog yn addewid gan y genedl i sicrhau bod y rheini sydd, neu sydd wedi, gwasanaethu yn y Lluoedd Arfog a’u teuluoedd, yn cael eu trin yn deg. Mae rhagor o wybodaeth am Gyfamod y Lluoedd Arfog a sut mae cymryd rhan ar gael yma.
  • Mae’r gwasanaeth Rheoli Cysylltiadau Amddiffyn (DRM) yn gweithio mewn partneriaeth â sefydliadau ledled y DU, gan eu helpu i ddeall gwerth llofnodi Cyfamod y Lluoedd Arfog a meithrin partneriaethau ag Amddiffyn sydd o fudd i’r naill ochr a’r llall. Mae’n darparu cymorth ar gyflogi milwyr wrth gefn, cyn-filwyr, gwirfoddolwyr sy’n oedolion y Llu Cadetiaid a gwŷr/gwragedd aelodau’r fyddin, ac yn gwella tegwch i gymuned y Lluoedd Arfog yn y farchnad defnyddwyr.