Skip to main content

Lifetime Achievement Award for Transport for Wales Advisor

27 Chw 2020

Cyflwynwyd ‘Gwobr Cyflawniad Oes’ i Chris Gibb, Cynghorydd Strategol gyda Trafnidiaeth Cymru, yng Ngwobrau Chwiban Aur 2020 Sefydliad y Gweithredwyr Rheilffyrdd.

Mae’r gwobrau mawreddog hyn, a gynhaliwyd ar 24 Ionawr 2020 yng Ngwesty Marriott Llundain, yn dathlu’r diwydiant rheilffyrdd, gan gydnabod perfformiad unigolion a thimau.  Maen nhw’n cydnabod y rhai sydd wedi mynd y tu hwnt i’r hyn sy’n ddisgwyliedig er mwyn sicrhau perfformiad rhagorol. 

Roedd Chris, sydd wedi gweithio ar y rheilffyrdd ers 38 o flynyddoedd, yn Rheolwr Gyfarwyddwr gyda Wales and West Trains ac yn Rheolwr Gyfarwyddwr gyda Wales & Borders Trains tan 2003. Wedyn, ymunodd â Threnau Virgin a bu yno am dros ddeng mlynedd, gan orffen fel y Prif Swyddog Gweithredol. 

Ers hynny, mae wedi dal swyddi ar lefel Bwrdd, yn cynnwys swydd Cadeirydd Bwrdd Gwella Perfformiad Southern Rail Network a swydd Cyfarwyddwr Anweithredol gyda Network Rail.

Mae’r ‘Wobr Cyflawniad Oes’ a gyflwynwyd iddo yn cydnabod oes o ymroddiad i’r diwydiant a’i gyfoeth o wybodaeth a phrofiad.

Dywedodd Scott Waddington, Cadeirydd Trafnidiaeth Cymru:

“Hoffwn longyfarch Chris ar ennill y ‘Wobr Cyflawniad Oes’ yng Ngwobrau Chwiban Aur 2020.  Mae hon yn wobr uchel iawn ei pharch ac yn dangos ei ymroddiad a’i ymrwymiad i’r diwydiant rheilffyrdd mewn gyrfa sy’n rhychwantu bron i ddeugain mlynedd.

“Yn Trafnidiaeth Cymru rydyn ni ar siwrnai i drawsnewid trafnidiaeth ac mae'r ffaith fod Chris efo ni fel Cynghorydd Strategol yn rhoi inni gyfoeth o wybodaeth am y diwydiant ac yn sicrhau ein bod yn gweithredu mewn modd sy’n gyson yn strategol â’r diwydiant.”

Ychwanegodd Chris Gibb, Cynghorydd Strategol Trafnidiaeth Cymru:

“Roedd yn anrhydedd derbyn y wobr hon ac rwy’n hynod ddiolchgar am gydnabyddiaeth o’r fath.  Mae’r diwydiant rheilffyrdd wedi rhoi gyrfa amrywiol a chyffrous i mi ers imi ymuno â British Rail fel clerc iau yn 17 oed, ac mae wedi roi’r cyfle i mi i weithio ym mhob rhan o’r DU.

“Treuliais gryn lawer o amser yn byw a gweithio yng Nghymru dros hanner gyntaf fy ngyrfa ac mae’n wych bod yn ôl yn gweithio’n rhan-amser fel Cynghorydd Strategol i Trafnidiaeth Cymru ac yn eu helpu i wireddu’u cynlluniau uchelgeisiol.”