01 Gor 2019
Bydd Trafnidiaeth Cymru yn cyrraedd carreg filltir allweddol heddiw yn ei gynlluniau i godi depo £100 miliwn a fydd wrth galon gweithrediadau Metro De Cymru.
Wedi’i leoli yn Rhondda Cynon Taf, y depo yn Ffynnon Taf fydd y gwaith mawr cyntaf fel rhan o gynlluniau TrC i drawsnewid rhwydwaith rheilffyrdd y cymoedd i ddarparu Metro De Cymru. Mae’r cynllun hwnnw yn rhan o fuddsoddiad ehangach gwerth £5 biliwn i drawsnewid trafnidiaeth yng Nghymru.
Mae’r gwaith dymchwel ar y safle yn Ffynnon Taf yn dechrau i wneud lle ar gyfer cyfleusterau cynnal a chadw tramiau a threnau a’u storio. Bydd y depo modern yn cynnal a chadw cerbydau Metro newydd sbon a fydd yn dechrau rhedeg o 2022. Bydd y safle hefyd yn cynnwys Canolfan Reoli integredig newydd a fydd yn rheoli gweithrediad gwasanaethau’r Metro.
Rhwydwaith trafnidiaeth gyhoeddus integredig aml-foddol yw Metro De Cymru a fydd yn trawsnewid gwasanaethau rheilffyrdd, gwasanaethau bws lleol a theithio llesol. Bydd hyn yn cynnwys buddsoddiad o £738 miliwn ar reilffyrdd y cymoedd i Dreherbert, Aberdâr, Merthyr Tudful, Rhymni a Coryton. Bydd dros 170km o gledrau yn cael eu trydaneiddio a bydd cledrau, gorsafoedd a signalau i gyd yn cael eu huwchraddio, yn cynnwys adeiladu o leiaf bum gorsaf newydd sbon.
Mae prosiect Metro De Cymru wedi’i ariannu’n rhannol gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop drwy Lywodraeth Cymru.
Bydd Metro De Cymru yn gweddnewid trafnidiaeth i gymunedau lleol ac yn gwella cysylltiadau ar draws y rhanbarth, gan ddarparu pedwar trên yr awr rhwng Caerdydd a Threherbert, Aberdâr a Merthyr Tudful o fis Rhagfyr 2022.
Mae Llywodraeth Cymru yn berchen ar fwy na phum hectar o dir ar Ystâd Ddiwydiannol Garth Works a bydd y gwaith dymchwel yn dechrau ym mis Gorffennaf, a’r gwaith adeiladu yn dilyn.
Bydd Trafnidiaeth Cymru hefyd yn gwella’r cyfleusterau yng ngorsaf Ffynnon Taf, gan gynnwys pont droed hygyrch newydd a chyfleuster parcio a theithio mwy a fydd yn galluogi mwy o bobl i ddefnyddio gwasanaethau’r Metro. Caiff pwyntiau gwefru cerbydau trydan eu cynnwys yn y cyfleuster parcio a theithio a bydd y mesurau teithio llesol yn cael eu gwella.
Dywedodd James Price, Prif Swyddog Gweithredol Trafnidiaeth Cymru:
“Mae’n wych fod gwaith wedi dechrau heddiw ar Ystâd Ddiwydiannol Garth Works. Yn y dyfodol, bydd hwn yn gyfleuster canolog i Drafnidiaeth Cymru ac mae heddiw’n dynodi carreg filltir hanesyddol ar ein siwrnai i wireddu Metro De Cymru.
Mae gan safle Garth Works dreftadaeth ddiwydiannol hir a balch ac mae’n wych y byddwn ni’n cynnal hynny wrth i’r safle gychwyn ar y cyfnod newydd hwn.
“Mae Metro De Cymru yn brosiect cyffrous iawn a fydd yn chwyldroi teithio ar draws De Cymru yn llwyr, gan ddod â manteision cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol mawr - a llawer gwell profiad i’n cwsmeriaid. Er mwyn cyflawni Metro De Cymru yn llwyddiannus, rhaid wrth gydweithio proffesiynol a hoffwn achub ar y cyfle hwn i ddiolch i’n holl bartneriaid sy’n rhan o’r siwrnai i drawsnewid trafnidiaeth ledled Cymru.”
Dywedodd Ken Skates, Gweinidog yr Economi a Thrafnidiaeth:
“Mae’r prosiect hwn yn bortread gweledol trawiadol o’r ymrwymiadau yr ydym wedi’u gwneud i wella gwasanaethau trên yng Nghymru. Bydd Metro De Cymru yn un o’r systemau mwyaf modern yn y DU a bydd yn creu cysylltiadau trafnidiaeth hanfodol i’n cymunedau ar draws trefi a’r ddinas. Bydd y gwasanaethau aml y bydd yn eu darparu yn gwella’r profiad i bobl Cymru ac yn annog mwy o bobl i adael eu ceir gartref a defnyddio’r trên i deithio’n ôl a blaen i’r gwaith ac ar gyfer gweithgareddau hamdden.
“Bydd y depo £100 miliwn yn Ffynnon Taf yn chwarae rhan bwysig yn stori Trafnidiaeth Cymru ac rwy’n falch fod y gwaith wedi cychwyn bellach.”
Ychwanegodd y Cynghorydd Andrew Morgan, Arweinydd Cyngor Rhondda Cynon Taf:
“Yn sgil y gwaith dymchwel hwn bydd modd adeiladu’r depo £100m yn Ffynnon Taf, a dyma’r gweithgaredd mawr cyntaf ar-safle fel rhan o wireddu Metro De Cymru.
“Gall pawb ohonom gytuno mai’r Metro yw’r hyn y mae ar gymunedau ar draws De Cymru ei angen, a'r hyn y maent yn ei haeddu - mae’n dod ag addewid o well trenau, gwasanaethau mwy effeithlon a mwy o siwrneiau.
“Roeddwn yn falch iawn fod Rhondda Cynon Taf wedi’i ddewis y llynedd fel lleoliad y depo trenau - canolbwynt gweithrediadau'r Metro. Bydd Ffynnon Taf yn dod yn ganolfan i rai cannoedd o griw trenau, ynghyd â staff cynnal a chadw a staff y ganolfan reoli. Mae’n hwb sylweddol i’r ardal leol.
“Mae’n dilyn y cyhoeddiad y bydd Trafnidiaeth Cymru wedi’i leoli yn natblygiad y Cyngor yn Llys Cadwyn ym Mhontypridd, sy’n dal i fynd rhagddo’n dda iawn gyda’r nod o’i gwblhau yn 2020.”
Dywedodd Cyfarwyddwr Seilwaith Gwasanaethau Rheilffyrdd Trafnidiaeth Cymru, Simon Rhoden:
“ Mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru a TrC, rydym yn gweithio’n galed i greu rhwydwaith trafnidiaeth a fydd yn dod â budd gwirioneddol i bobl Cymru. Mae dechrau’r gwaith dymchwel ar safle Ffynnon Taf yn dynodi dechrau ein siwrnai drawsnewid.”
Ychwanegodd Shaun Thompson, Cyfarwyddwr Rheilffyrdd, Griffiths (Peirianneg Sifil ac Adeiladu):
“Rydym wrth ein bodd o fod yn rhan o’r prosiect mawr hwn, a fydd yn help i greu trafnidiaeth gynaliadwy yn ein rhanbarth, sy’n hanfodol er mwyn ffyniant ac i reoli allyriadau CO2 er lles ein plant a chenedlaethau’r dyfodol. Nid yn unig y bydd ymwneud Griffiths â Metro De Cymru yn help i ddiogelu a chreu swyddi, mae’n ein galluogi i gynyddu’n buddsoddiad yn y gwaith o ddatblygu peirianwyr y dyfodol, a fydd yn dyngedfennol er mwyn datrys sialensiau economaidd a sialensiau hinsawdd heddiw.”