Skip to main content

Gwlad! Gwlad! in the Centre of Cardiff

13 Chw 2026

Mae murlun newydd wedi'i baentio â llaw wedi'i ddadorchuddio yng nghanol dinas Caerdydd i ddathlu'r siwrneiau bob dydd sy'n cysylltu pobl ledled Cymru a'r Gororau.

Wedi'i leoli ar Stryd y Cei, yn union gyferbyn â Stadiwm y Principality, i’w weld yn y gwaith celf mae'r geiriau “Gwlad! Gwlad!” o anthem genedlaethol Cymru.  Cwblhawyd y murlun mewn pryd ar gyfer gêm gartref Cymru yn Rygbi'r Chwe Gwlad yn erbyn Ffrainc, yn barod i groesawu miloedd o gefnogwyr i'r brifddinas.

Mae TrC yn chwarae rhan allweddol pan fydd digwyddiadau mawr ymlaen gan weithredu fel yr edau sy'n hebrwng miloedd o gefnogwyr yn ôl ac ymlaen i'r ddinas.  Yn 2025 yn unig, cynhaliodd Stadiwm Principality 17 o ddigwyddiadau mawr, ac fe aeth TrC ati i hebrwng bron i filiwn o deithwyr i mewn ac allan o Gaerdydd yn ddiogel.

Mae'r murlun yn ganolbwynt ffisegol i'r ymgyrch, ‘Yr Edau Sy'n Clymu Cymru'.  Mae'r ymgyrch yn canolbwyntio ar yr eiliadau bach, cyfarwydd sy'n digwydd ar drafnidiaeth gyhoeddus bob dydd - teithio adref ar ôl noson allan, mynd i'r gwaith, neu deithio i weld pobl a lleoedd sy'n bwysig.

Dywedodd Kim Townsend, Cyfarwyddwr Marchnata a Gwerthiant Trafnidiaeth Cymru: “Mae'r ‘edau sy'n clymu Cymru’ yn nodi newid sylweddol yn y ffordd yr ydym yn cyfleu Trafnidiaeth Cymru fel brand.  Mae'n adlewyrchu'r rôl wirioneddol yr ydym yn ei chwarae ym mywydau pobl - cysylltu cymunedau a chefnogi eiliadau bob dydd - wrth adeiladu cysylltiadau emosiynol cryfach gyda'n cwsmeriaid.

“Mae'r platfform brand hirdymor hwn yn cefnogi ein huchelgais i gynyddu'r defnydd o drafnidiaeth gyhoeddus a dewis brand ledled Cymru a'n Gororau, gan roi sylfaen ystyrlon i ni ar gyfer y dyfodol.”