Skip to main content

Check before you travel as the weather warning continues

05 Ion 2026

Cynghorir teithwyr rheilffordd a bysiau ledled Cymru a'r Gororau i wirio cyn teithio gan fod y rhybudd tywydd melyn ar gyfer eira a rhew yn parhau mewn grym tan ddydd Mawrth.

Gall cawodydd eirlaw a rhew gwasgaredig, ynghyd â mannau rhewllyd, achosi rhywfaint o aflonyddwch teithio ddydd Llun a dros nos tan fore Mawrth.

Mae Trafnidiaeth Cymru a Network Rail yn monitro'r amodau ar draws y rhwydwaith.

Dylai cwsmeriaid hefyd gymryd gofal ychwanegol wrth deithio i ac o orsafoedd a chaniatáu amser ychwanegol iddynt eu hunain lle bo modd gan y gallai platfformau a meysydd parcio fod yn llithrig o dan draed.

Oherwydd amodau gwael y ffyrdd, mae gwasanaethau bysiau yn lle trenau a llwybrau TrawsCymru hefyd yn cael eu heffeithio.

Dywedodd Patrick Allinson, Pennaeth Gweithrediadau Rheoli yn Trafnidiaeth Cymru: "Mae rhybudd tywydd melyn am eira a rhew ar waith ledled Cymru. Gall teithiau gael eu tarfu felly gwiriwch ein tudalen Map Byw a'r tudalen ‘Holl Diweddariadau’ am y wybodaeth teithio ddiweddaraf.

"Rydym yn gweithio'n agos gyda Network Rail i gadw gwasanaethau'n rhedeg yn ddiogel ac annog teithwyr i gynllunio ymlaen llaw, gwisgo'n gynnes a chaniatáu amser ychwanegol ar gyfer eu taith."

Ychwanegodd Chris Howchin, Uwch Reolwr Cyflenwi Rhwydwaith, Network Rail Cymru a'r Gororau: “Gall eira a rhew gael effaith sylweddol ar y rheilffordd, yn enwedig ar bwyntiau ac offer trac sy'n dibynnu ar rannau symudol a gall tymheredd isel iawn effeithio arnynt.

“Mae ein timau'n gweithio o gwmpas y cloc i archwilio'r rhwydwaith ac ymateb i faterion sy'n gysylltiedig â'r tywydd, ac yn gweithio'n agos gyda Thrafnidiaeth Cymru a gweithredwyr eraill i gadw trenau'n symud yn ddiogel.

“Cynghorir teithwyr i wirio cyn iddynt deithio a chaniatáu amser ychwanegol ar gyfer eu taith.”

Am ragor o wybodaeth, ewch i https://livemap.tfw.wales/ 
https://traws.cymru/cy/services 

Llwytho i Lawr