30 Awst 2023
Fel rhan o gynllun mabwysiadu gorsafoedd Trafnidiaeth Cymru, mae gwirfoddolwyr o Soroptimyddion y Barri a’r Cylch wedi bod yn brysur yn helpu i wella’r amgylchedd yng ngorsafoedd rheilffordd Tref y Barri ac Ynys y Barri.
Mae Soroptimist International yn fudiad gwirfoddol ledled y byd sydd â’r nod o ysbrydoli pobl i weithredu a gweddnewid bywydau menywod a merched. Mae eu rhwydwaith o tua 72,000 o aelodau o glybiau mewn 121 o wledydd yn gweithio ar lefel leol, genedlaethol a rhyngwladol i addysgu, grymuso a galluogi cyfleoedd i fenywod a merched.
Yn ddiweddar, gyda chymorth TrC, mae’r gwirfoddolwyr wedi trawsnewid potiau plannu yn y ddwy orsaf gyda phlanhigion cynaliadwy sy’n gyfeillgar i bryfed peillio. Mae'r gwirfoddolwyr wedi bod yn tynnu pennau'r blodau sydd wedi gwywo ac yn dyfrio’n rheolaidd i ymestyn y tymor blodeuo, a dim ond un o'r tasgau maen nhw wedi'u cyflawni yw hon.
Mae cyfnewidfa llyfrau am ddim wedi cael ei gosod y tu allan i ardal y swyddfa docynnau, a fydd yn rhoi cyfle i gwsmeriaid fynd â llyfr i’w ddarllen ar eu taith a’i ddychwelyd neu ei newid rywbryd eto.
Mae Canolfan Llesiant yn cael ei chreu yn nhoiledau’r menywod, ac mae cynnyrch mislif ar gael yn rhad ac am ddim fel rhan o'r cynllun Urddas Mislif. Mae’r rhain wedi cael eu rhoi’n garedig gan Gyngor Sir Bro Morgannwg i gefnogi’r prosiect.
Wrth siarad ar ran y Soroptimyddion, dywedodd Pat Hollis; “Rydyn ni'n gobeithio, drwy wella cyfleusterau ac ymddangosiad y ddwy orsaf, y bydd yn brofiad teithio mwy deniadol i aelodau’r cyhoedd sy’n defnyddio Trafnidiaeth Cymru yn y Barri. Mae manylion ein holl weithgareddau a'n cynlluniau ar gyfer y dyfodol ar gael ar ein hysbysfwrdd yng ngorsaf Tref y Barri.”
Dywedodd Rheolwr Rheilffyrdd Cymunedol Trafnidiaeth Cymru, Geraint Morgan; “Mae gorsafoedd yn aml yn borth pwysig i ddinasoedd, trefi a phentrefi ar draws y rhwydwaith ac mae argraffiadau cyntaf yn cyfrif. Mae cymorth y gwirfoddolwyr i gyflawni’r cynlluniau cychwynnol hyn yn cael ei werthfawrogi'n fawr ac rydyn ni'n edrych ymlaen at barhau â’r bartneriaeth gadarnhaol hon gyda rhagor o welliannau.”
Nodiadau i olygyddion
I gael gwybod mwy am gangen Soroptimist International y Barri a'r Cylch, ewch i www.sigbi.org/barry-and-district neu i'n tudalen Facebook @1sibarry