Skip to main content

Prestatyn Station volunteer retires after 20-years of service

29 Chw 2024

Mae gwirfoddolwr ‘Friends of Prestatyn Railway Station’, Sherry Edwards, yn ymddeol ar ôl mwy nag 20 mlynedd o waith gwirfoddoli yn yr orsaf.  

Mae grŵp ‘cyfeillion’ i orsaf Brestatyn wedi bodoli ers sawl mlynedd. Mae Sherry’n ymddeol wrth i’r grŵp ddathlu 11 mlynedd ers i’r orsaf gael ei hadnewyddu yn Chwefror 2013, pan wnaethpwyd gwelliannau i fynediad i’r orsaf.   

Mae’r grŵp arobryn, ‘Friends of Prestatyn Railway Station’ wedi trefnu cyfres o brosiectau er lles yr orsaf. Mae’r rhain wedi cynnwys arwyddion a cherflun maint cywir o gerddwr o’r enw ‘Rhodri the Rambler’ a osodwyd ar blatfform nas defnyddir, yn ogystal â gwaith plannu planhigion gaeafol a hafaidd.  

Mae Sherry wedi ymgymryd â sawl prosiect yn ystod ei chyfnod o 20 mlynedd o wirfoddoli, gan gynnwys gwella edrychiad yr orsaf. Pob blwyddyn ers 2017 mae’r grŵp ‘Friends of Prestatyn Railway Station’ wedi llwyddo i gael Lefel 5 Rhagorol yng nghynllun ‘Wales in Bloom’s ‘It’s Your Neighbourhood’’. Dros y blynyddoedd, maent hefyd wedi bod yn ffodus i fod wedi meithrin perthnasau gwych gyda Chyngor Sir Ddinbych, Cyngor Tref Prestatyn, a Prestatyn Business Forum, yn ogystal â staff y swyddfa docynnau.  

Dywedodd Sherry, cyn-ysgrifennydd ‘Friends of Prestatyn Railway Station’, a fydd yn ymddiswyddo’n swyddogol yn y cyfarfod cyffredinol blynyddol sydd i ddod, “Diolch yn fawr i bawb am eu cymorth a’u cefnogaeth dros y blynyddoedd. Rydw i wedi mwynhau fy nghyfnod fel ysgrifenyddes yn fawr ac wedi creu atgofion gwych.  

“Rydym wedi bod yn ffodus i gael grŵp o wirfoddolwyr anhygoel yma ym Mhrestatyn. Yn well byth yw’r holl gefnogaeth ac arweiniad rydym wedi’u derbyn gan Trafnidiaeth Cymru dros y blynyddoedd, yn ogystal â’r gefnogaeth gan y tîm yn y Swyddfa Docynnau.  

“Mae Network Rail hefyd wedi bod yn gefnogol dros ben. Mae hyn, ynghyd â’r cymorth gan Gyngor Tref Prestatyn, Cyngor Sir Ddinbych, Prestatyn Business Forum ac, wrth gwrs, gwerthfawrogiad y bobl leol, wedi’i gwneud hi’n bleser mawr i weithio yn yr orsaf.  

“Yn aml, y peth cyntaf y mae ymwelwyr yn eu gweld wrth deithio i dref, yw’r orsaf drên, ac rydym bob amser wedi ystyried yr orsaf i fod yn ffenestr siop y dref. Diolch am roi’r cyfle inni fod yn rhan o’r cynllun Mabwysiadu Gorsaf – dwi’n sicr y bydd yn mynd o nerth i nerth.”  

Mae’r grŵp yn rhan o’n Cynllun Mabwysiadu Gorsaf a’i fwriad yw gwella’n cysylltiadau â chymunedau a chwsmeriaid lleol sy’n byw’n agos at orsafoedd trên heb staff.” 

Mae ein tîm Rheilffyrdd Cymunedol yn gweithio’n agos â gwirfoddolwyr y cynllun hwn. Dywedodd Melanie Lawton, Rheolwr Rheilffyrdd Cymunedol: “Rydym yn falch o’n cynllun Mabwysiadu Gorsaf ac mae wedi bod yn llwyddiant ers iddo gael ei sefydlu.  

“Rydym am gadw’n gorsafoedd heb staff yn lân a dymunol, a dyluniwyd y cynllun hwn felly i annog adborth rheolaidd ynglŷn â’r cyfleusterau sydd ar gael. Bydd hyn yn helpu inni sicrhau eu bod yn cwrdd â’r safonau a ddisgwylir gan ein cwsmeriaid.  

“Y gwirfoddolwyr sy’n gwneud y gwaith hanfodol hwn ac sy’n ymroi o’u hamser a’u cefnogaeth i’r cynllun mewn ffordd mor anhunanol. Diolch i Sherry am ei rôl mor ymroddgar a gweithgar o fewn y grŵp – mae wedi helpu i greu gorsaf flodeuog, wych er mwyn i breswylwyr ac ymwelwyr ei mwynhau.”