Skip to main content

Take the TfW pledge to ‘journey by bicycle’ this summer

14 Meh 2023

Mae’n bleser gan Trafnidiaeth Cymru (TrC) i weithio mewn partneriaeth â Beicio Cymru yn ceisio cael Cymru i fwynhau'r awyr iach a defnyddio'r beic i deithio pob dydd yr haf hwn.

Prif ddiben y bartneriaeth yw lansio ‘Parth Cefnogwyr’ - her teithio llesol newydd– #AddewidTrC – sy'n golygu eich bod yn mynd ar eich beic ac yn rhannu'ch profiad ar gyfryngau cymdeithasol. 

Nod yr her yw eich annog i adael y car gartref a defnyddio'ch beic ar gyfer teithiau pob dydd ar deithiau ‘â phwrpas‘.  Does dim ots os ydych chi'n beicio i'r gwaith, i’r ysgol neu i fynd i siopa, neu i fwynhau taith haf i'r parc gyda'ch teulu – beth bynnag fo'r achlysur, mae Beicio Cymru a TrC eisiau gweld eich lluniau a'ch fideos er mwyn gallu ysbrydoli eraill i wneud yr un peth. 

Mae cymryd rhan yn syml, cliciwch ar y ddolen ac fe gewch yr holl wybodaeth.  Cewch hefyd gyfle i ennill gwobrau gwych gan gynnwys set deuluol o helmedau Limar Beicio Cymru.

Mae TrC wedi ymrwymo i gefnogi gweledigaeth Llywodraeth Cymru mai cerdded a beicio yw'r modd o deithio â ffafrir gan bobl Cymru wrth deithio pellteroedd byr.  Ynghyd â mwy o bobl yn defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus, mae llai o bobl yn defnyddio ceir preifat ac mae'r ffaith fod mwy o bobl yn cerdded neu'n beicio yn newid ymddygiad wrth ymateb i'r argyfwng hinsawdd.

Mae'r corff - a sefydlwyd gan Lywodraeth Cymru i newid y ffordd y mae Cymru yn teithio - yn gweithio gydag awdurdodau lleol a rhanddeiliaid allweddol eraill i helpu i ddarparu rhwydwaith trafnidiaeth integredig ledled Cymru, gan gynnwys darparu cefnogaeth a chyngor i awdurdodau lleol wrth ddatblygu a chyflwyno eu cynlluniau teithio llesol.

Mae hefyd yn cynnal cyfres o ddigwyddiadau beicio trwy gydol yr haf ledled Cymru a'r siroedd ar hyd y ffin.  Bydd yn dechrau ar 15 Mehefin yng Ngorsaf Caerdydd Canolog â'i nod fydd dangos i bobl y cyfleoedd sydd ar gael i feicio fel rhan o deithiau pob dydd.

Dywedodd Matthew Gilbert, Arweinydd Teithio Llesol a Chreu Lleoedd TrC: “Mae'r bartneriaeth hon yn gyfle cyffrous i ddathlu beicio. Rydym am i'n rhwydwaith trafnidiaeth yn y dyfodol annog dewisiadau teithio mwy cynaliadwy a chyfrannu at ostyngiad mewn allyriadau cerbydau; mae beicio a cherdded wrth wraidd hyn.

Yn ogystal ag ymrwymo i #AddewidTrC, rydym yn gobeithio'n fawr hefyd y byddwch yn dod draw i’n digwyddiadau beicio dros yr haf a gynhelir ar draws rhwydwaith Cymru a'r Gororau.  Byddwn yn dangos i chi rhai o’r cyfleusterau beicio lleol, fel pario, ledled y rhwydwaith ac fe hoffem glywed gennych am sut y gallwn ni – ar y cyd â'n partneriaid – wneud teithio llesol hyd yn oed yn fwy posibl yn eich cymunedau a’i wneud y dewis gorau ar gyfer teithiau byr.”

Dywedodd Caroline Spanton, Prif Swyddog Gweithredol Beicio Cymru: “Pleser yw gallu gweithio mewn partneriaeth â TrC ar yr her syml hon.  Mae hon yn bartneriaeth wych; rydym ill dau yn rhannu'r un weledigaeth sef helpu ac ysbrydoli pobl i fwynhau'r awyr agored a darganfod manteision ehangach defnyddio'r beic i deithio pob dydd.  Mae'n hwyl, mae’n eich cadw'n ffit, yn lleihau tagfeydd ac yn well i'r amgylchedd; trwy wneud dewisiadau teithio doethach rydych chi'n helpu i wneud eich rhan.'

I gael gwybod mwy am ddigwyddiadau Beicio TrC 2023 ewch i: haveyoursay.tfw.wales/bike-events-2023 ac i gael rhagor o wybodaeth am sut y gallwch gynllunio taith ar drafnidiaeth gyhoeddus ac ar feic ewch i:  Teithio ar feic | TrC  a   Teithio gyda beic ar y trên | TrC  

Nodiadau i olygyddion


At ddibenion yr her hon, mae ‘teithio llesol’ yn cyfeirio at gerdded a beicio ar gyfer teithiau pob dydd - fel mynd i'r gwaith, i ddysgu neu er mwyn defnyddio gwasanaethau.

Yn ogystal â rhoi cyngor a chefnogaeth i Lywodraeth Cymru, gan gynnwys helpu i adolygu canllawiau sy'n gysylltiedig â Deddf Teithio Llesol (Cymru) 2013, ym mis Rhagfyr 2020, rhoddwyd y cyfrifoldeb o weinyddu rhaglen y Gronfa Teithio Llesol ar ran Llywodraeth Cymru i Trafnidiaeth Cymru, gan ei galluogi i chwarae rôl llawer mwy wrth gefnogi teithio iach a chynaliadwy ledled Cymru.

Gall awdurdodau lleol wneud cais am gyllid drwy'r Gronfa Teithio Llesol (ATF), drwy gyfuniad o gyllid craidd a phroses ymgeisio gystadleuol, i gefnogi'r gwaith o roi cynlluniau teithio llesol ar waith ledled Cymru.  Mae rhagor o wybodaeth am y rhaglen ATF ar gael yma.

Llwytho i Lawr