24 Mai 2024
Dengys ffigurau y mae Trafnidiaeth Cymru wedi’i rhyddhau bod gwasanaethau trenau wedi gwella ers dechrau'r flwyddyn (2024).
Ers mis Ionawr 2024, mae dros 80% o drenau TrC wedi cyrraedd yn ar amser neu o fewn 3 munud o'r amser cyrraedd yn ôl yr amserlen. Noda’r ystadegau ar gyfer mis Mawrth bod y ffigur hwn bellach wedi cynyddu i 85%.
Mae cyfraddau canslo ar draws y rhwydwaith ar gyfer 2024 hefyd wedi parhau i fod yn is na'r targed cyfartalog blynyddol o 5%.
Mae'r gwelliannau hyn ym mherfformiad y rheilffordd ar draws rhwydwaith Cymru a'r Gororau yn ganlyniad i'r buddsoddiad o £800 miliwn y mae TrC yn ei wneud mewn trenau newydd sbon.
Wrth i fwy o'r trenau newydd hyn gael eu rhoi ar waith, mae perfformiad y rheilffyrdd yn parhau i wella trwy fod yn fwy gydnerth a dibynadwy.
Dywedodd Adam Terry, Pennaeth Perfformiad Rheilffyrdd TrC:
"Mae ein ffigurau perfformiad rheilffyrdd ar gyfer 2024 yn galonogol ac wedi dangos gwelliant ym mherfformiad ein trenau ar ein rhwydwaith ac rydym wedi cyrraedd ein targedau.
"Mae trenau newydd wedi cymryd lle bron i 50 y cant o’n fflyd drenau, fel rhan o’n rhaglen drawsnewid, ac wrth i ni barhau i gyflwyno mwy o drenau newydd sbon i’n rhwydwaith, rydym yn disgwyl gweld gwelliannau parhaus.”
Gallwch ddarllen ystadegau perfformiad TrC yma:
https://trc.cymru/amdanom-ni/tryloywder/perfformiad/rheilffyrdd