23 Hyd 2026
Anogir cwsmeriaid sy'n teithio yn ardal Caerdydd i gynllunio a gwirio cyn teithio, wrth i Trafnidiaeth Cymru (TrC) gynnal gwaith uwchraddio seilwaith dros saith diwrnod ar lein Bae Caerdydd.
O ddydd Sadwrn 24 Hydref i ddydd Gwener 30 Hydref, ni fydd gwasanaethau rheilffordd yn rhedeg rhwng Caerdydd Heol y Frenhines a Bae Caerdydd.
Bydd cau’r lein dros dro yn galluogi peirianwyr i osod cledrau newydd i gefnogi gwelliannau i amserlenni yn y dyfodol ac i gynyddu amlder gwasanaethau ar lein Bae Caerdydd.
Mae'r buddsoddiad hwn yn rhan o raglen ehangach Metro De Cymru, sydd â'r nod o ddarparu rhwydwaith trafnidiaeth mwy dibynadwy, hygyrch ac integredig ar gyfer cymunedau ledled y rhanbarth.
Dywedodd Dan Tipper, Prif Swyddog Seilwaith yn Trafnidiaeth Cymru: "Trawsnewidiad Lein y Bae fydd yr uwchraddiad mwyaf i drafnidiaeth gyhoeddus yn ardal Trebiwt a Bae Caerdydd ers cenhedlaeth, ac mae'n rhan bwysig o Metro De Cymru."
Mae'r gwaith hwn ar y cledrau, gan gynnwys gosod traciau newydd, yn garreg filltir allweddol yn y trawsnewidiad hwnnw, a bydd yn helpu i baratoi'r ffordd ar gyfer gwelliannau o ran amlder gwasanaethau ar y lein yn y dyfodol.
"Rydym yn gwybod y bydd cau’r lein dros dro yn achosi anghyfleustra i rai cwsmeriaid, ac hoffem ddiolch iddynt am eu hamynedd a’u dealltwriaeth tra bod y gwaith hanfodol hwn yn cael ei wneud i wella dyfodol y llinell."
Mae prosiect trawsnewid Lein y Bae – sy'n rhan o drawsnewid ehangach Llinellau Craidd y Cymoedd ar gyfer y Metro – wedi cael ei ariannu'n rhannol gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop drwy Lywodraeth Cymru.
Nodiadau i olygyddion
Mae trefniadau ar waith i dderbyn tocynnau trên ar wasanaethau Bws Caerdydd drwy gydol y cyfnod gwaith.
Er mwyn ychwanegu at wasanaethau Bws Caerdydd, bydd TrC yn darparu bysiau ychwanegol yn lle gwasanaethau trên yn y boreau a'r nosweithiau rhwng Bae Caerdydd a Chaerdydd Canolog/Caerdydd Heol y Frenhines, er y gall yr amseroedd amrywio. Mae TrC yn argymell gwirio gwefan TrC am ragor o wybodaeth - www.trc.cymru
Bydd gwasanaethau rheilffordd yn ailddechrau fel arfer ddydd Sadwrn 31 Hydref.