Skip to main content

Wrexham to Bidston Rail Improvements

30 Medi 2024

Mae un o'r llwybrau allweddol rhwng Cymru a Lloegr wedi gweld 60,000 o deithiau ychwanegol i deithwyr yn cael eu cymryd a chynnydd o 27% yn nifer y trenau sy’n cyrraedd yn brydlon dros y blwyddyn diwethaf.

Mae Trafnidiaeth Cymru wedi rhyddhau ffigyrau newydd ar gyfer llinell rheilffordd Wrecsam – Bidston sy’n dangos bod 197,047 o deithiau, rhwng Ionawr a Gorffennaf eleni, wedi cael eu gwneud ar y lein. Y ffigwr oedd 138,743 ar gyfer yr un cyfnod yn 2023.

Ac ym mis Gorffennaf 2023, dim ond 48.4% o drenau a gyrhaeddodd o fewn tair munud i'r amser cyrraedd yn ôl yr amserlen. Ym mis Gorffennaf eleni, y ffigwr hwnnw oedd 87.7%.

Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Drafnidiaeth a Gogledd Cymru, Ken Skates:

“Rwyf wrth fy modd wedi’r holl waith caled bod teithwyr bellach yn dechrau gweld gwelliant sylweddol i’r gwasanaeth pwysig hwn.”

Dywedodd Jeremy Williams, a benodwyd y llynedd fel swyddog llwybrau rheilffyrdd ymroddedig ar y lein er mwyn helpu i fynd i'r afael â'r problemau, bod cwsmeriaid "o’r diwedd, yn derbyn y gwasanaeth roedden nhw'n ei haeddu.”

Dywedodd: "Yn syml, nid oedd pethau'n ddigon da. Felly fe wnaethon ni roi pwyslais gwirioneddol ar y llinell wrth edrych ar ein hamserlen, y trenau roedden ni'n eu defnyddio ar y lein, rhai o'r materion fflyd ac amryw o ffactorau eraill.

"Fe wnaethom weithio'n agos gyda grwpiau defnyddwyr rheilffyrdd i ddeall anghenion cwsmeriaid hefyd.

"Roedd yr amserlen newydd ym mis Rhagfyr 2023 yn golygu ein bod yn rhedeg mwy o drenau ar y lein ond hefyd yn creu mwy o amser i droi'r trenau o gwmpas. Mae hyn wedi gwella perfformiad yn sylweddol ac rwy'n credu bod cwsmeriaid, o’r diwedd, yn derbyn y gwasanaeth y maent yn ei haeddu, gyda'r niferoedd sy’n teithio yn adlewyrchu hynny."

Ym mis Gorffennaf gwelwyd 27,936 o deithiau yn cael eu gwneud ar y lein, y nifer uchaf mewn un mis ers i TrC gymryd yr awenau a rhedeg y gwasanaethau yn 2018.

Mae'r llinell bellach yn cael ei gweithredu gan gymysgedd o drenau Dosbarth 230 a Dosbarth 197.