18 Medi 2026
Mae Trafnidiaeth Cymru a Network Rail yn annog teithwyr sy'n teithio o gwmpas de Cymru i gynllunio ymlaen llaw wrth i raglen o welliannau rheilffordd hanfodol ddigwydd dros dri phenwythnos yr hydref hwn.
Bydd y gwaith yn cael ei wneud rhwng dydd Sadwrn 19 a dydd Llun 21 Medi, dydd Sadwrn 26 a dydd Llun 28 Medi, a dydd Sadwrn 17 a dydd Llun 19 Hydref.
Yn ystod pob penwythnos, bydd y rheilffordd rhwng Caerdydd a Phen-y-bont ar Ogwr, trwy Bontyclun, ar gau o 01.20 ddydd Sadwrn tan 04.05 ddydd Llun. Bydd hyn yn rhoi'r amser angenrheidiol i beirianwyr wneud amrywiaeth o welliannau'n ddiogel i helpu i gadw'r rheilffordd yn ddiogel ac yn ddibynadwy ar gyfer gwasanaethau teithwyr a chludo nwyddau.
Bydd gwasanaethau rheilffordd rhwng Caerdydd a Phen-y-bont ar Ogwr yn cael eu newid yn ystod y tri phenwythnos. Bydd rhai gwasanaethau'n cael eu dargyfeirio, tra bydd trafnidiaeth ffordd yn lle trenau yn gweithredu ar gyfer y gorsafoedd yr effeithir arnynt.
Cynghorir teithwyr i adael amser ychwanegol ar gyfer eu teithiau ac i wirio cyn teithio.
Pa waith sy'n cael ei wneud?
- Bydd y rhaglen yn gweld peirianwyr yn gweithio mewn sawl lleoliad ar hyd y llwybr, gan adnewyddu rhannau o'r trac a'r cledrau, gwneud gwaith signalau, rheoli llystyfiant ac archwilio ac atgyweirio strwythurau'r rheilffordd.
- Yn ystod y cyfnodau cau ym mis Medi, bydd peirianwyr yn adnewyddu'r trac rhwng Pontsarn a Llanharan, yn ogystal â chlirio llystyfiant, profi rheiliau, profi signalau ac archwiliadau.
- Bydd gwelliannau pellach yn cael eu gwneud yn ystod y cyfnod cau ym mis Hydref, gan gynnwys gwaith adnewyddu'r trac a gosod cledrau newydd rhwng Cyffordd Gorllewin Caerdydd (Cardiff West Junction) a Sain Ffagan, yn ogystal â rhwng Meisgyn a Phontyclun.
- Bydd timoedd hefyd yn adnewyddu signalau a phwyntiau, yn rheoli llystyfiant, yn gwneud atgyweiriadau strwythurol ger Llanbedr-y-fro, ac yn cynnal archwiliadau a phatrolau hanfodol ar y cledrau.
Dywedodd Colin Lea, Cyfarwyddwr Cynllunio a Pherfformiad Trafnidiaeth Cymru:"Rydym yn gweithio'n agos gyda Network Rail i gefnogi'r gwelliannau hanfodol hyn i'r rheilffordd, sy'n hanfodol ar gyfer cynnal diogelwch a dibynadwyedd hirdymor gwasanaethau ledled de Cymru.
"Er y bydd cau'r llinell rhwng Caerdydd a Phen-y-bont ar Ogwr yn golygu newidiadau i deithio ar benwythnosau, rydym wedi trefnu bysiau yn lle trenau ac wedi trefnu i rai o'n trenau redeg ar hyd llwybrau gwahanol er mwyn cadw teithwyr i symud.
"Rydym yn cynghori'n gryf i bawb sy'n bwriadu teithio dros y penwythnosau hyn wirio cyn teithio a gadael amser ychwanegol ar gyfer eu teithiau."
Dywedodd Martin Taylor, Prif Swyddog Seilwaith Network Rail Cymru a’r Gororau: “Bydd y tri phenwythnos hyn yn rhoi cyfle pwysig i’n timau gyflawni pecyn sylweddol o waith mewn lleoliadau ar hyd y rheilffordd rhwng Caerdydd a Phen-y-bont ar Ogwr.
“Drwy wneud y gwaith hwn tra bod y rheilffordd ar gau, gall ein peirianwyr weithio’n ddiogel ac yn effeithlon i adnewyddu a chynnal y seilwaith y mae miloedd o deithwyr a gwasanaethau cludo nwyddau hanfodol yn dibynnu arno bob dydd.
“Ymddiheurwn am y tarfu y bydd hyn yn ei achosi, a hoffem ddiolch i deithwyr ac i’n cymdogion sy’n byw ger y rheilffordd am eu hamynedd wrth i ni gwblhau’r gwelliannau hanfodol hyn. Gwiriwch fanylion eich taith cyn teithio a gadewch amser ychwanegol.”
Dylai teithwyr wirio manylion eu taith cyn teithio drwy ddefnyddio gwefan neu ap TrC.