03 Medi 2024
Mae Trafnidiaeth Cymru wedi cwblhau buddsoddiad o filiwn o bunnoedd i orsafoedd rheilffordd y Fflint a Dwyrain Runcorn.
Mae gwelliannau yn y ddwy orsaf yn cynnwys teledu cylch cyfyng, pwyntiau cymorth, llochesau aros i gwsmeriaid, llochesau beiciau, seddi, goleuadau, cyfleusterau gwastraff ac arwyddion.
Roedd gwaith gorsaf y Fflint hefyd yn cynnwys gwelliannau i'r swyddfa docynnau, ystafelloedd aros, unedau ail-lenwi dŵr, gwaith adnewyddu’r toiledau, sgriniau gwybodaeth cwsmeriaid newydd a chynlluniau tirlunio, a chafodd gefnogaeth ariannol o £90,000 gan Ymddiriedolaeth Treftadaeth y Rheilffyrdd (Railway Heritage Trust).
Yn ogystal â hyn, fel rhan o Gynllun Datblygu Cymdeithasol a Masnachol ehangach TrC, mae adeilad segur yn y Fflint wedi cael ei drawsnewid yn ddwy ystafell gymunedol newydd ac ystafell staff.
Yn ddiweddar, gwahoddwyd cynghorwyr lleol i gael rhagolwg ar y mannau cymunedol newydd wrth i TrC ddechrau chwilio am denant newydd i symud i mewn yn ddiweddarach eleni.
Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Ogledd Cymru a Thrafnidiaeth, Ken Skates:
"Bydd yr adnewyddiadau mawr eu hangen hyn yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i ddefnyddwyr yr orsaf.
"Trwy ddarparu lle i grwpiau cymunedol, mentrau cymdeithasol a busnesau lleol - bydd y gorsafoedd hyn yn dod yn ganolfannau pwysig o fewn y cymunedau maen nhw'n eu gwasanaethu."
Dywedodd Kim Hawkins, Pennaeth Gweithrediadau Cwsmeriaid (Gogledd):
"Mae'r gwelliannau i'r gorsafoedd hyn yn cynnig manteision gwirioneddol i'n teithwyr yng ngorsafoedd Y Fflint a Dwyrain Runcorn. Bydd y buddsoddiad hwn yn sicrhau bod y gorsafoedd yn lleoedd mwy croesawgar i deithwyr ac ymwelwyr."
Ychwanegodd Melanie Lawton, Arweinydd Strategaeth Rheilffyrdd Cymunedol:
"Mae hwn yn drawsnewidiad mawr ac yn gyfle i'r Fflint. Mae'r lle yn edrych yn wych ac rydym yn edrych ymlaen at ymgysylltu ymhellach â'r gymuned a gweithio gyda thenant a fydd yn rhoi rhywbeth yn ôl fel y maent eisoes yn ei wneud yng nghaffi cymunedol Cyffordd Llandudno, yn yr oergell gymunedol yn Nhywyn, gyda’r gwasanaeth cynghori ariannol yn Abergele, y cynllun benthyg beiciau ym Mangor a llawer mwy."
Mae'r gwelliannau yn y Fflint yn cael eu hategu gan gynllun 'Mynediad i Bawb' Network Rail, sy’n mynd rhagddo yn yr orsaf ar hyn o bryd. Bydd hyn yn golygu y bydd gan bob teithiwr, gan gynnwys y rhai sydd â symudedd cyfyngedig a'r rhai sy'n cludo bagiau trwm neu gadeiriau gwthio, lwybr hygyrch heb risiau i blatfformau a rhyngddynt.