Skip to main content

Improved on-board menus following investment in catering equipment

07 Chw 2025

Bydd cyfres o fwydlenni newydd cyffrous yn cael eu gweini ar fflyd pellter hir Trafnidiaeth Cymru diolch i gegin baratoi newydd a phrif gogydd newydd.

Ym mis Ionawr, cwblhawyd y gwaith o osod cegin baratoi newydd sbon yng Ngorsaf Casnewydd lle bydd tîm o gogyddion yn brysur yn paratoi amrywiaeth o brydau ar gyfer cwsmeriaid sy'n teithio rhwng Caergybi, Manceinion a Chaerdydd.

Dywedodd Mark Roberts, y prif gogydd, a ymunodd o Wagamama ddiwedd y llynedd, ei fod yn edrych ymlaen yn fawr at rannu gyda’n cwsmeriaid cymysgedd o goginio cartref ffres ond gan ychwanegu blas dwyreiniol nawr ac yn y man hefyd.

“Rwyf wrth fy modd yn paratoi prydau cartref clasurol gan ddefnyddio cynnyrch lleol - pa well ffordd o hyrwyddo'r cynnyrch rhagorol a gynhyrchir yma yng Nghymru,” meddai Mark, a fu'n gweithio ym mwyty poblogaidd Wagamama am wyth mlynedd.

“Ond bydda i hefyd yn rhannu fy mhrofiadau yn Wagamama ac yn paratoi prydau wedi'u hysbrydoli gan goginio Asiaidd - cacennau pysgod Thai er enghraifft.

“Gyda’r cyfleuster newydd gwych hwn, bydd y dewisiadau y gallwn eu cynnig i’n cwsmeriaid yn llawer mwy.

“Rwy'n bwriadu paratoi o leiaf dwy fwydlen ymlaen llaw - rwy'n edrych ymlaen yn fawr at rannu gyda’n cwsmeriaid rhai syniadau sydd gennyf ar gyfer bwydlenni’r gwanwyn, yr Eisteddfod a'r Nadolig.”

Er y bydd llawer o'r gwaith paratoi yn cael ei wneud yng Nghasnewydd a'i lwytho ar ein trenau sydd â cherbydau Dosbarth Uwch ar y daith i'r gogledd, bydd y cogyddion ar fwrdd y trên yn dal i allu paratoi prydau ffres yn y gegin wrth i'r trên deithio hyd at 90mya ar hyd llwybr Gororau Cymru.

Mae hynny'n cynnwys bwyd ar gyfer y teithwyr hynny fydd yn teithio i gyfeiriad y de a Chaerdydd, bwyd a gaiff ei storio mewn oergelloedd ar fwrdd y trên cyn cael ei ddadlwytho mewn lleoliadau penodol ar hyd y ffordd, yn barod ar gyfer y gwasanaethau dychwelyd ac amser brecwast y diwrnod canlynol.

Mae'r cynnig arlwyo ar y gwasanaeth hwn yn boblogaidd iawn gyda'n teithwyr ers amser maith ac mae adolygwyr wedi rhoi canmoliaeth uchel iddo dros y blynyddoedd, gan gynnwys y fwydlen a baratowyd ar gyfer Eisteddfod y llynedd.

Rydym hefyd yn cynllunio bwydlen gyffrous fel rhan o ddathliadau Rheilffordd 200 yn 2025. a byddwn yn rhannu mwy o fanylion am hyn yn fuan.

Dywedodd Paul Otterburn, Rheolwr Arlwyo, y bydd y buddsoddiad hwn yn ein galluogi i gynnig opsiynau arlwyo cyffrous i’n cwsmeriaid yn y dyfodol, bwydlenni sydd eisoes yn boblogaidd iawn.

Dywedodd: “Gyda'r cyfleuster newydd rhagorol hwn, gallwn gynyddu’n fawr yr ystod o fwydydd y gallwn eu coginio ein hunain.

“Nawr, bydd ein cogyddion yn gallu defnyddio'r safle hwn i baratoi bwyd ymlaen llaw ar gyfer ein prif wasanaeth gan ychwanegu at y dewis arlwyo rhagorol sydd eisoes ar gael ar ein trenau. Mae dyfodol gwasanaeth arlwyo trenau TrC yn ddisglair iawn.”

Nodiadau i olygyddion


Bellach mae gan TrC saith trên sy'n darparu gwasanaeth arlwyo mewn pum cerbyd gydag un yn gerbyd Dosbarth Cyntaf.

Dyma amseroedd y gwasanaethau rhwng dydd Llun a dydd Sadwrn (gall yr amseroedd hyn newid):

05:27 Caergybi i Gaerdydd Canolog

17:14 Caerdydd Canolog i Gaergybi

 

04:33 Caerdydd Canolog i Fanceinion Piccadilly

05:43 Abertawe i Fanceinion Piccadilly

08:53 Caerdydd Canolog i Fanceinion Piccadilly

10:53 Caerdydd Canolog i Fanceinion Piccadilly

12:53 Caerdydd Canolog i Fanceinion Piccadilly

14:50 Caerdydd Canolog i Fanceinion Piccadilly

16:53 Caerdydd Canolog i Fanceinion Piccadilly

18:53 Caerdydd Canolog i Fanceinion Piccadilly

 

05:13 Crewe i Gaerdydd Canolog

06:27 Manceinion Piccadilly i Gaerdydd Canolog

08:30 Manceinion Piccadilly i Gaerdydd Canolog

10:30 Manceinion Piccadilly i Gaerdydd Canolog

12:30 Manceinion Piccadilly i Gaerdydd Canolog

14:30 Manceinion Piccadilly i Gaerdydd Canolog

16:30 Manceinion Piccadilly i Gaerdydd Canolog

18:30 Manceinion Piccadilly i Gaerdydd Canolog

22:32 Manceinion Piccadilly i Crewe