Skip to main content

First UK operator to launch virtual reality training

29 Awst 2025

Trafnidiaeth Cymru (TrC) yw'r gweithredwr trenau cyntaf yn y DU i gyflwyno technoleg hyfforddi realiti rhithwir (VR) newydd, arloesol ar gyfer staff rheng flaen.

Mae'r feddalwedd realiti rhithwir arloesol hon yn caniatáu i hyfforddeion brofi senarios allweddol, go iawn o gysur ystafell ddosbarth cyn symud ymlaen i hyfforddiant ymarferol.

Mae'r hyfforddiant VR yn cynnwys efelychiad cyfrifiadurol o drên Dosbarth 197 newydd sbon, sydd bellach yn gweithredu ar y rhan fwyaf o lwybrau prif linell ledled Cymru a'r Gororau.

Wedi'i ddatblygu gan Denova, cwmni yn yr Alban, mae'r amgylchedd hyfforddi yn rhoi rheolaeth lawn i hyfforddeion, gan ganiatáu iddynt newid rhwng allweddi, gwirio diagramau llwybr a hyd yn oed defnyddio chwiban i rybuddio cwsmeriaid rhithwir.

Dywedodd Hyfforddwr Gweithrediadau Masnachol Trafnidiaeth Cymru, David Lewis. “Rydym yn edrych ymlaen at lansio’r feddalwedd hon. Mae’n fuddsoddiad gwych gan TrC mewn hyfforddiant a bydd yn gwneud gwahaniaeth enfawr wrth edrych tua’r dyfodol.

“Mae’r math hwn o hyfforddiant yn cael ei ddefnyddio gan y fyddin, y GIG, y gwasanaethau brys a sefydliadau addysgol eraill ond ni yw’r gweithredwr trên cyntaf yn y DU i’w gyflwyno i’n swyddogaeth rheolwr trên.

“Mae’n bwysig deall nad yw’n cymryd lle hyfforddiant bywyd go iawn ond bydd yn pontio’r bwlch rhwng damcaniaethau yn yr ystafell ddosbarth a phrofiadau ymarferol.”

Dywedodd Lee Alexander, Hyfforddwr Goruchwylwyr Trên sydd wedi gweithio ar y rheilffordd ers 18 mlynedd, fod “gweld y dechnoleg ar waith wedi gwneud argraff fawr arnaf a hoffwn pe bai hyn wedi digwydd pan oeddwn i’n gwneud fy hyfforddiant”.

Dywedodd: “Gallwch chi brofi sefyllfaoedd na fyddech chi fel arfer yn eu profi yn y byd go iawn wrth fynd â hyfforddeion allan.

“Rhaid fy mod i wedi hyfforddi cannoedd o Oruchwylwyr Trên dros y blynyddoedd a byddai hyn wedi bod yn wych iddyn nhw.

“Roedd y dechnoleg wedi gwneud argraff fawr arna i ac rwy’n hoffi ein bod ni’n gallu awgrymu syniadau ar gyfer gwahanol sefyllfaoedd.”

Dywedodd Brendan Morris, Prif Swyddog Gweithredol Denova: “Roedden ni wrth ein bodd o gael bod yn bartner technoleg ar gyfer yr Efelychydd Cyfarwyddo Trenau; mae wedi bod yn brosiect gwych a'r prosiect cyntaf o'i fath yn y diwydiant.

"Mae'n caniatáu i'r rheini dan hyfforddiant ymarfer sefyllfaoedd is-safonol neu sefyllfaoedd brys na fyddent yn dod ar eu traws yn aml ond y mae'n rhaid iddynt fod yn gymwys ar eu cyfer. Fel efelychwyr cerbydau gyrru, mae'r efelychydd cyfarwyddo trenau yn helpu i feithrin hyder a chymhwysedd mewn gweithdrefnau hanfodol o ran diogelwch.

"Mae Trafnidiaeth Cymru wedi arwain y ffordd gyda'r arloesedd hwn ac rydym eisoes yn gweld diddordeb gan weithredwyr eraill yn y DU.”

Nodiadau i olygyddion


Gall sefyllfaoedd gynnwys gweithdrefnau cyfarwyddo trenau ar amrywiaeth o fathau o blatfformau, dod â'r trên i stop mewn argyfwng, cyfarwyddo trenau pan fydd methiant signalau, nodi eitemau amheus a hyd yn oed delio â thân ar y trên, ynghyd â llawer mwy o sefyllfaoedd.

Gall y defnyddiwr hyd yn oed ryngweithio â'r ffôn rhithwir ar y trên i siarad â'r gyrrwr neu'r signalwr – a chwaraeir gan yr hyfforddwr yn yr ystafell ddosbarth.

Llwytho i Lawr