Skip to main content

TfW services impacted by industrial action

08 Meh 2022

Mae Undeb Cenedlaethol y Gweithwyr Rheilffyrdd, Morwrol a Thrafnidiaeth (RMT) wedi cyhoeddi y bydd streic yn digwydd ddydd Mawrth 21 Mehefin, dydd Iau 23 Mehefin a dydd Sadwrn 25 Mehefin, a fydd yn amharu’n sylweddol ar y rhwydwaith rheilffyrdd ledled y DU gyfan.

Nid oes anghydfod rhwng Trafnidiaeth Cymru a’r RMT.  Fodd bynnag, mae’r gweithredu diwydiannol sy’n deillio o’r anghydfod rhwng RMT a Network Rail yn golygu na fyddwn yn gallu gweithredu ein gwasanaethau rheilffordd ar seilwaith Network Rail.

Ein gwasanaethau

Bydd mwyafrif y gwasanaethau rheilffordd ar draws rhwydwaith Cymru a’r Gororau yn cael eu hatal, ac eithrio gwasanaethau ar Linellau Craidd y Cymoedd (CVL) i’r gogledd o Radur yn Ne Cymru.

Bydd gwasanaethau i/o:

  • Radur i Dreherbert, Aberdâr a Merthyr Tudful (wedi'i leihau i wasanaeth bob awr i bob cyfeiriad), gyda chysylltiad gwasanaeth bws i Orsaf Ganolog Caerdydd. Disgwyliwn i'r gwasanaethau hyn fod yn brysur iawn.

Ni fydd unrhyw wasanaethau ar y llwybrau CVL i Rymni, Coryton, Bae Caerdydd a Llinell y Ddinas gan mai Network Rail sy'n gweithredu'r signalau hynny.

Mae disgwyl hefyd y bydd tarfu ar y dyddiau cyn ac ar ôl y gweithredu diwydiannol.  Byddwn yn rhyddhau rhagor o wybodaeth cyn gynted â phosibl.

Tocynnau cyfredol

Gall cwsmeriaid sydd â thocynnau presennol nad ydynt yn rhai tymor sy’n ddilys ar gyfer teithio o ddydd Mawrth 21 Mehefin i ddydd Sadwrn 25 Mehefin ddefnyddio’r tocynnau hyn unrhyw bryd rhwng dydd Llun 20 Mehefin a dydd Llun 27 Mehefin.  Fel arall, gall cwsmeriaid hawlio ad-daliad llawn, heb unrhyw ffi weinyddol.  Gall deiliaid tocyn tymor wneud cais am iawndal drwy Ad-daliad am Oedi (Delay Repay). 

Yn y cyfamser, ni fyddwn yn gwerthu tocynnau Ymlaen Llaw (Advance) ar gyfer y tri dyddiad streic cyntaf er mwyn lleihau nifer y bobl yr amharir arnynt.  Rydym yn cynghori cwsmeriaid i barhau i wirio gwefannau TrC neu Traveline, a gwefannau gweithredwyr eraill, am ddiweddariadau. 

Llwytho i Lawr