Skip to main content

Business Wales TfW Workshops

19 Rhag 2018

Mae Trafnidiaeth Cymru yn cynnig cyfleoedd rhagorol i BBaChau yng Nghymru dendro am fusnes yn y sector trafnidiaeth yng Nghymru.

Rydym yn datblygu fframwaith o gyflenwyr i weithio gyda ni er mwyn gwella cysylltedd trafnidiaeth a sicrhau manteision ehangach i gymunedau Cymru.
Mae ein dull gweithredu cynaliadwy a moesegol yn rhoi pobl yn gyntaf ac yn cyfrannu at gynaliadwyedd hirdymor. Yn unol ag amcanion Llywodraeth Cymru a amlinellir yn Neddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru), mae gan Trafnidiaeth Cymru ofynion cadwyn gyflenwi amrywiol.
Yn 2019, bydd Busnes Cymru yn darparu gweithdai di-dâl yn canolbwyntio ar AD a chynaliadwyedd, gan ystyried y gofynion hyn yn fanylach er mwyn helpu BBaChau yng Nghymru i wella cyfleoedd i ennill y tendrau hyn. Cynhelir y gweithdai mewn lleoliadau ledled Cymru.

 

Gweithdy Hanfodion AD
Mae gofynion cadwyn gyflenwi allweddol Trafnidiaeth Cymru yn mynd i’r afael â materion fel AD, caethwasiaeth fodern, amrywiaeth, cyfle cyfartal, contractau dim oriau a defnyddio ffynonellau moesegol.
Bydd Busnes Cymru yn darparu gwybodaeth gefndir am Ddeddf Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) er mwyn sicrhau bod darpar gyflenwyr yn gallu ymateb i Gwestiynau Cyn-gymhwyso ar y Cod Ymarfer ar Gyflogaeth Foesegol mewn Cadwyni Cyflenwi. Dilynir hyn gan gynlluniau gweithredu ac ymarferion ymarferol i’ch helpu i wella’ch Arferion Cyflogaeth, gan drafod pynciau fel y Cyflog Byw,  Gwrth-lwgrwobrwyo a Chaethwasiaeth Fodern.

 

Gweithdy Hanfodion Cynaliadwyedd
Mae gofynion cadwyn gyflenwi allweddol Trafnidiaeth Cymru yn mynd i’r afael â materion fel cynaliadwyedd, lleihau gwastraff, stiwardiaeth coedwigoedd a datgarboneiddio.
Bydd Busnes Cymru yn darparu gwybodaeth gefndir am Ddeddf Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) er mwyn sicrhau bod darpar gyflenwyr yn gallu ymateb i Gwestiynau Cyn-gymhwyso ar gynaliadwyedd. Dilynir hyn gan gynlluniau gweithredu ac ymarferion ymarferol i’ch helpu i wella perfformiad eich cwmni o safbwynt cynaliadwyedd a hyrwyddo’ch cyfrifoldeb corfforaethol a chymdeithasol.

 

Cofrestrwch nawr i dderbyn y newyddion diweddaraf ar Trafnidiaeth