Skip to main content

South African Minister of Transport visits South Wales Metro

15 Hyd 2025

Yn ddiweddar, croesawodd Trafnidiaeth Cymru (TrC) Weinidog Trafnidiaeth De Affrica, Barbara Creecy, i ddepo newydd Metro De Cymru yn Ffynnon Taf.

Roedd yr ymweliad yn rhan o ymgysylltiad ehangach y DU ynghylch dysgu o arferion gorau rhyngwladol mewn seilwaith rheilffyrdd a thrafnidiaeth. Rhoddodd TrC fewnwelediad manwl i sut mae gwlad ddatganoledig yn rheoli ac yn cyflawni prosiect trafnidiaeth integredig mawr.

Cafodd y Gweinidog Barbara Creecy ei chroesawu gan Brif Swyddog Seilwaith TrC, Dan Tipper, a'r Cyfarwyddwr Polisi, Sam Hadley, ochr yn ochr â Dirprwy Gyfarwyddwr Cyffredinol Adran Drafnidiaeth De Affrica, Ngwako Makaepea.

Ymunodd aelodau o'r Ganolfan Ragoriaeth Fyd-Eang ar gyfer Rheilffyrdd (GCRE) â'r ymweliad hefyd, gan deithio gyda'r grŵp ar drên Dosbarth 756 newydd sbon i ddepo.

Roedd yr ymweliad yn cynnwys taith o amgylch y cyfleuster depo gwerth £100 miliwn lle cawsant weld trenau tram Dosbarth 398 newydd sbon, a fydd yn dechrau gwasanaethu ar Linellau Craidd y Cymoedd flwyddyn nesaf.

Dywedodd Dan Tipper, Prif Swyddog Seilwaith TrC: “Anrhydedd oedd croesawu Barbara Creecy a’i thîm i ddangos y cynnydd rydym yn ei wneud ar Fetro De Cymru.

“Mae’n wych rhannu’n rhyngwladol sut mae Trafnidiaeth Cymru, fel endid sy’n eiddo cyhoeddus, yn darparu system drafnidiaeth fodern, gynaliadwy a dibynadwy i bobl Cymru.”