16 Medi 2021
Disgwylir i Drafnidiaeth Cymru gyflwyno gwasanaethau ychwanegol rhwng Wrecsam a Bidston o Wanwyn 2022.
Mae Trafnidiaeth Cymru (TrC) wedi bod yn gweithio'n agos gyda Network Rail i gyflawni'r gwelliannau a'r diweddariadau i'r seilwaith angenrheidiol i linell Wrecsam i Bidston, er mwyn gallu darparu gwasanaeth dau drên yr awr ar hyd y llwybr.
Tra bod y gwaith seilwaith yn digwydd, mae TrC hefyd yn gweithio'n galed i sicrhau bod pob gyrrwr trên a dargludydd wedi'u hyfforddi'n llawn ar y trenau Class 230s fydd yn cael eu defnyddio ar y llwybr.
Oherwydd i COVID-19 achosi oedi yn hyfforddi staff, mae'r dyddiad ar gyfer cyflwyno dau drên yr awr wedi'i symud i Fai 2022 yn hytrach na mis Rhagfyr 2021.
Mae drenau TrC Class 230 wedi'u cynllunio ar gyfer y llinell yn 2022, gan ganiatáu i'r llwybr gael ei wasanaethu gan y trenau wedi'u huwchraddio.
Dywedodd Lee Robinson, Cyfarwyddwr Datblygu Canolbarth, Gogledd a Chymru Gwledig: “Mae’r 17 mis diwethaf wedi bod yn hynod heriol, nid yn unig yn llywio ein ffordd trwy bandemig byd-eang ond hefyd yn parhau i weithio tuag at ein gweledigaeth ar gyfer rhwydwaith trafnidiaeth mwy integredig ar draws Gogledd Cymru a ffiniau Lloegr.
“Rwy'n edrych ymlaen at groesawu'r cerbydau newydd i linell Wrecsam i Bidston a gwella sut rydyn ni'n gweithio gyda'n cymunedau i sicrhau ein bod ni'n gwrando ar yr hyn sydd ei angen ar bobl Gogledd Cymru a'r gororau, tra hefyd yn cyflawni ein hymrwymiadau.”
Bydd y gwaith o osod 11 metr ychwanegol o blatfform yng Ngorsaf Ganolog Wrecsam i baratoi ar gyfer y fflyd newydd o drenau yn dechrau ar 16 Medi gan ddilyn y gwaith o wella platfform 1 Gorsaf Gyffredinol Wrecsam fydd yn dod i ben ar 12 Medi.