Skip to main content

Rail services for Wales Euro 2024 play-off fixtures

06 Maw 2024

Mae capasiti ychwanegol a gwasanaethau hwyrach wedi'u hychwanegu ar gyfer gemau rhagbrofol Ewro 2024 Cymru yng Nghaerdydd ym mis Mawrth.

Mae tîm dynion Cymru yn chwarae'r Ffindir yn eu rownd gynderfynol yn Stadiwm Dinas Caerdydd ddydd Iau 21 Mawrth cyn wynebu naill ai Gwlad Pwyl neu Estonia ddydd Mawrth 26 Mawrth, a allai fod yn gêm rownd derfynol ail gyfle neu'n gêm gyfeillgar rhyngwladol yn dibynnu ar ganlyniad gêm y Ffindir.

Mae Trafnidiaeth Cymru (TrC) wedi cryfhau ei wasanaethau allweddol ar ddiwrnod gêm a'r diwrnod canlynol trwy ychwanegu mwy o gerbydau a gwasanaethau diweddarach rhag ofn y bydd amser ychwanegol yn cael ei chwarae a chiciau o'r smotyn.

Cyn y gêm

  • 10:40 Caergybi i Caerdydd Canolog a 12:30 Manceinion Piccadilly – Caerdydd Canolog – bydd o leiaf pedwar trên yn rhedeg.
  • Capasiti ychwanegol wedi'i gynllunio rhwng Caerdydd Canolog a Pharc Ninian.
  • Capasiti ychwanegol wedi'i gynllunio ar gyfer llwybrau allweddol cyn y gêm, gan ganolbwyntio ar Lynebwy, Maesteg, holl wasanaethau'r Cymoedd, y Gororau, Bro Morgannwg, y Barri a gwasanaethau'r Gorllewin.

Ar ôl y gêm

  • Adferiad llawn o wasanaethau Rhymni, Treherbert, Aberdâr a Merthyr am y noson. Ychwanegwyd capasiti ychwanegol lle bo modd.
  • Gwasanaethau ychwanegol i Rymni, Casnewydd a Phenarth.
  • Gwasanaethau ychwanegol o Barc Ninian i Radur.
  • Gwasanaeth diweddarach Caerdydd Canolog – Crewe trwy Wrecsam / Caer yn gadael Caerdydd Canolog am 22:47.
  • Bydd gwasanaeth allweddol Caerdydd Canolog – Caergybi ar ôl y gemau yn gadael Caerdydd Canolog am 11:25 yn rhedeg gydag isafswm o bedwar cerbyd.

Bydd cynlluniau digwyddiadau mawr llawn a bysiau wrth gefn hefyd ar waith ar gyfer y ddwy gêm.

Dywedodd Marie Daly, Prif Swyddog Cwsmeriaid a Diwylliant TrC: “Rydym yn cydnabod pwysigrwydd y gemau hyn ac wedi gwrando ar adborth gan ein cwsmeriaid am ein gwasanaethau ar ddiwrnod gêm.

“Gall gemau canol wythnos fod yn her oherwydd nid oes gennym reolaeth dros ffactorau pwysig fel gwaith peirianneg sydd wedi'i drefnu* a staffio blychau signalau a all gael effaith fawr ar wasanaethau hwyr y nos.  Mae ein tîm wedi gweithio'n galed i ychwanegu gwasanaethau hwyrach ac ychwanegol lle bo hynny'n bosibl.

“Bydd gennym staff mewn gorsafoedd allweddol ledled Cymru ar ddiwrnod y gêm a bydd staff ychwanegol yn teithio o Ogledd Cymru i fod ar gael i helpu ein cwsmeriaid.”