29 Tach 2021
Cafodd Storm Arwen effaith fawr ar ein gwasanaethau rheilffordd dros y penwythnos a bydd gwasanaethau yn parhau i gael eu heffeithio'r wythnos hon.
Roedd cyfyngiadau cyflymder ar waith ar draws llawer o'r rhwydwaith dros y penwythnos gyda chyflymder gwynt o hyd at 90mya mewn rhai rhannau o Gymru.
O ganlyniad i'r tywydd garw trwy gydol nos Wener ac yn gynnar fore Sadwrn, difrodwyd offer llinell uwchben, cwympodd llawer o goed a malurion ar y trac gan greu perygl i drenau.
Gweithiodd Network Rail dros y penwythnos i geisio ailagor cymaint â phosibl o'r rhwydwaith erbyn bore Llun. Fodd bynnag, o ran trenau TrC sydd wedi rhedeg dros falurion, mae angen eu dychwelyd i'r depo ar gyfer gwiriadau diogelwch ac i'w trwsio, a bydd hyn yn effeithio ar y gwasanaethau ar y rheilffordd yr wythnos hon.
Mae TrC yn annog pob cwsmer i wirio cyn teithio gan ddefnyddio https://journeycheck.com/tfwrail.
Dywedodd Jan Chaudhry-Van der Velde, Rheolwr Gyfarwyddwr TrC Rheilffordd:
“Cafodd Storm Arwen effaith fawr ar wasanaethau'r rheilffordd dros y penwythnos a llawer o linellau yn cael eu cau oherwydd coed yn cwympo a rhwystrau eraill. O ganlyniad, difrodwyd nifer o'n trenau, ac mae ein peirianwyr fflyd wedi gweithio trwy'r penwythnos i drwsio'r difrod ac atgyweirio cerbydau yn ein depos.
“Bydd yn cymryd peth amser i gwblhau’r holl atgyweiriadau, yn y cyfamser, bydd hyn yn cael effaith ar wasanaethau trên. Rydym yn annog cwsmeriaid i wirio cyn teithio i gael yr wybodaeth ddiweddaraf.
Dywedodd Rachel Heath, Rheolwr Gweithrediadau Network Rail Cymru a'r Gororau:
“Mae ein timau wedi bod yn gweithio ddydd a nos i glirio ar ôl Storm Arwen. O ganlyniad i'w gwaith caled, mewn amodau heriol iawn, llwyddwyd i ailagor y mwyafrif o'r llinellau erbyn bore Llun.
“Unwaith eto, mae hyn yn ein hatgoffa o'r heriau rydyn ni’n eu hwynebu ar y rheilffordd yn ystod cyfnodau o dywydd eithafol.”