Skip to main content

Hourly rail services between Chester and Liverpool on brand-new trains

09 Chw 2024

Mae Trafnidiaeth Cymru yn ailgyflwyno gwasanaethau trên pob awr rhwng Caer a Lerpwl - gan ddechrau heddiw (dydd Llun 12 Chwefror) drwy Runcorn, Helsby a Frodsham.

Bydd y cynnydd mewn gwasanaethau yn cynyddu o 15 i 30 y dydd (15 i bob cyfeiriad) a bydd yn cael ei ddarparu ar drenau newydd sbon, gan wella profiad y cwsmer a chysylltedd y rhanbarth.

Dywedodd Lee Waters, Y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd gyda chyfrifoldeb dros Drafnidiaeth: “Mae hwn yn newyddion gwych. Bydd y trenau newydd hyn yn darparu profiad llawer gwell i deithwyr gyda gwasanaethau mwy rheolaidd ar drenau cyfforddus modern, gan annog mwy o bobl i adael y car gartref a gadael i'r trên gymryd y straen."

Dywedodd Jan Chaudhry-Van dêr Velde, Prif Swyddog Gweithredol TrC:

“Gan ein bod bellach mewn perchnogaeth ar fwy o'n trenau newydd sbon, rydym mewn sefyllfa i ail-ddechrau'r gwasanaeth pob awr rhwng Caer a Lerpwl trwy Frodsham a Runcorn.  

“Lansiwyd gwasanaethau ar y llwybr hwn gyntaf yn 2019, ac maent yn darparu cysylltedd da â Maes Awyr John Lennon Lerpwl trwy alw yng ngorsaf Lerpwl South Parkway.

“Mae'r buddsoddiad mewn trenau newydd, a adeiladwyd yn ffatri'r gwneuthurwr CAF yng Nghasnewydd yn Ne Cymru, yn adlewyrchu rhan o drawsnewidiad parhaus y rhwydwaith gwerth £800m.