20 Maw 2023
Mae Trafnidiaeth Cymru (TrC) yn cynghori ei gwsmeriaid i wirio'r wybodaeth ddiweddaraf cyn teithio wrth i wasanaethau barhau i gael eu heffeithio gan brinder trenau a gwaith peirianyddol.
Y diweddaraf am drenau Dosbarth 175
Fel y cyhoeddwyd yn gynharach y mis hwn, mae Trafnidiaeth Cymru wedi tynnu nifer o’i drenau Dosbarth 175 o wasanaeth dros dro er mwyn caniatáu i wiriadau cynnal a chadw ychwanegol gael eu cynnal yn dilyn rhai problemau mecanyddol diweddar.
Mae'r gwiriadau cynnal a chadw hyn wedi canfod bod angen mynd ati i wneud gwaith atgyweirio pellach i injans rhai o'r trenau cyn y byddant yn barod i wasanaethu teithwyr. O ganlyniad, mae’n debygol y bydd y tarfu ar wasanaethau teithwyr yn parhau tan ddechrau mis Ebrill.
Mae tarfu yn debygol ar draws rhwydwaith Cymru a’r Gororau, nid yn unig ar y llwybrau hynny a wasanaethir gan y trenau Dosbarth 175, wrth i drenau gael eu symud er mwyn darparu mwy o le ar y gwasanaethau lle mae’r galw mwyaf. Gofynnir i gwsmeriaid wirio cyn teithio. Mae hyn yn cynnwys trenau cyntaf ac olaf ac unrhyw gysylltiadau fferi er mwyn sicrhau bod digon o amser wrth gefn.
Dyma'r llwybrau y mae’r newidiadau yn effeithio arnynt:
- Casnewydd - Crosskeys – gwasanaeth wedi'i ganslo (dim bws yn lle trên).
- Caer-Lerpwl – gwasanaeth wedi ei ganslo (derbynnir tocyn Merseyrail).
- Lein Dyffryn Conwy – gwasanaeth wedi’i ganslo (bws yn lle trên).
- Lein Wrecsam-Bidston – gwasanaeth wedi’i ganslo gyda bws yn lle trên.
- Arfordir y Cambrian – gwasanaeth ben bore Y Bermo wedi’i ganslo, bydd bws yn lle trên yn weithredol.
- Llinellau Craidd y Cymoedd – llai o wasanaethau'n rhedeg ar rai llwybrau. Dim gwasanaethau rhwng Abercynon a Merthyr Tudful tan ddydd Llun 3 Ebrill oherwydd y gwaith trawsnewid Metro De Cymru.
- Llinellau Gorllewin Cymru – mae gwasanaethau rheilffordd wedi ailddechrau.
- Holl wasanaethau Aberdaugleddau ac Abergwaun wedi’u canslo i’r gorllewin o Gaerfyrddin – gwasanaethau bws yn lle trên wedi ailddechrau.
Dywedodd Jan Chaudhry-Van der Velde, Prif Swyddog Gweithrediadau TrC: “Diogelwch ein cwsmeriaid a’n cydweithwyr yw ein prif flaenoriaeth o hyd.
“Ni fydd ein trenau Dosbarth 175 yn cael mynediad i wasanaethau teithwyr eto nes bod peiriannau pob trên wedi’u gwirio a’u hatgyweirio, a’u bod wedi pasio’r archwiliadau diogelwch perthnasol.
“Mae’r rhaglen waith yma yn digwydd wrth i ni siarad yn ein depo yng Nghaer, lle mae’r trenau hyn yn cael eu cynnal ar ein rhan gan CAF Rail UK. Mae cyflenwad cychwynnol o ddeunyddiau ar gael ar gyfer y rhaglen atgyweirio, ac mae rhannau pellach yn cael eu cyrchu o dramor i gyflymu'r broses.
“Bydd y sefyllfa’n gwella bob wythnos, a disgwylir i’r rhaglen atgyweirio gael ei chwblhau ym mis Ebrill. “Tra bod hyn yn ein gadael gyda phrinder dros dro o gerbydau, mae fflydoedd eraill yn cael eu gwasgaru ar draws rhwydwaith Cymru a’r Gororau, ac mae amserlenni wedi’u haddasu i geisio effeithio ar y nifer lleiaf o deithwyr.
“Mae’n ddrwg iawn gennym am y tarfu hwn i deithiau ein cwsmeriaid wrth i ni wneud y gwaith hanfodol hwn.”