Skip to main content

TrawsCymru T1 and T1X: New evening buses and improved Sunday connection

10 Gor 2025

Mae gwelliannau yn mynd i gael eu gwneud i wasanaethau bws T1 a T1X TrawsCymru, lle bydd Trafnidiaeth Cymru (TrC) yn cyhoeddi gwasanaethau gyda'r hwyr newydd a gwell cysylltiadau a'r trên ar y Sul yng Nghaerfyrddin.

Mae'r newidiadau hyn yn rhan o'n hymrwymiad parhaus i ddarparu gwasanaethau trafnidiaeth gyhoeddus mwy hyblyg, dibynadwy ac integredig ledled Cymru.

Dyma fanylion y teithiau newydd gyda'r hwyr:

Gwasanaeth T1
  • O Gaerfyrddin: Gwasanaeth newydd am 18:00 a 20:00
  • O Aberystwyth: Gwasanaethau newydd am 19:35 a 22:35
Gwasanaeth T1X
  • O Aberystwyth: Un gwasanaeth newydd ar y Sul yn gadael am 20:35

Bellach, mae amserlen T1 wedi'i diweddaru gan gyd-fynd yn well â gwasanaethau trenau ar y Sul yng Nghaerfyrddin. Bydd hyn yn ei gwneud hi'n haws i deithwyr gysylltu rhwng gwasanaethau bws a thrên ar gyfer teithio pellter hirach.

Mae'r gwelliannau hyn wedi'u cynllunio i gefnogi ystod eang o anghenion teithio o gymudo ac addysg i hamdden a thwristiaeth, wrth hyrwyddo opsiynau trafnidiaeth gynaliadwy ledled y rhanbarth.

Bydd y gwasanaethau T1 gwell yn dechrau ar 20 Gorffennaf gan ategu'r newidiadau a gyhoeddwyd yn ddiweddar i wasanaeth T5. O 31 Awst ymlaen, byddwn yn lansio Tocyn Dydd newydd rhwng Aberystwyth - Aberaeron, gan ganiatáu teithio diderfyn ar y gwasanaethau T1 a T5.

Dywedodd Lee Robinson, Cyfarwyddwr Gweithredol Trafnidiaeth Ranbarthol ac Integreiddio TrC: Ar ôl ymgysylltu â'r gymuned sy'n defnyddio'r gwasanaeth hwn a gwrando ar eu hadborth, rydym yn falch o allu cyflwyno'r gwelliannau hyn. Mare hyn yn adlewyrchu ein hymrwymiad i wneud trafnidiaeth gyhoeddus yn fwy hygyrch a chysylltiedig. P'un a ydych chi'n teithio ar gyfer gwaith, addysg neu hamdden, mae'r newidiadau hyn yn ei gwneud hi'n haws i chi gyrraedd lle mae angen i chi fynd - yn enwedig gyda'r nos ac ar benwythnosau.

Mae modd gweld manylion yr amserlenni diweddar, prynu tocynnau a chynllunio taith ar ein gwefan: https://traws.cymru/cy 

Neu lawrlwytho ap TrawsCymru. Arno, gallwch brynu tocynnau, dilyn llwybr eich bws a hyd yn oed gweld faint o garbon rydych chi wedi'i arbed!

Nodiadau i olygyddion


Ar hyn o bryd gallwch neidio ar y bws gyda 50% i ffwrdd cost rhai tocynnau ar yr ap

Am archwilio Cymru mewn ffordd fwy fforddiadwy a chynaliadwy? Gyda TrawsCymru, mae hi'n hawsach nag erioed gyda gostyngiad o 50%* oddi ar bris rhai tocynnau ar gyfer y rheini sy'n defnyddio'r ap am y tro cyntaf. P'un a ydych chi'n cymudo, yn mwynhau golygfeydd, neu'n mwynhau'r daith yn unig, rhowch gynnig ar wasanaethau bysiau TrawsCymru, gwasanaeth cyfleus a chyffyrddus. Yn syml, lawrlwythwch yr ap, dewiswch eich llwybr a'ch tocyn, a theithio am bris is.

Am fwy o wybodaeth a thelerau ac amodau ewch i https://traws.cymru/en/50oddiarap 

Llwytho i Lawr