30 Maw 2026
Mae Trafnidiaeth Cymru (TrC) wedi cadarnhau gwasanaethau rheilffordd ychwanegol i gefnogi cefnogwyr sy'n teithio o ogledd Cymru i Rownd Derfynol Cwpan Cymru JD rhwng Tref Caernarfon a Thref y Fflint Unedig.
Mae rownd derfynol Cwpan Cymru, a gynhelir yn Rodney Parade, Casnewydd ddydd Sul, 12 Ebrill, yn un o'r dyddiadau mwyaf adnabyddus yng nghalendr y gemau pêl-droed cartref. Gyda'r ddau dîm yn y rownd derfynol o ogledd Cymru, disgwylir i filoedd o gefnogwyr deithio i Gasnewydd.
Er mwyn bodloni'r galw, mae TrC wedi cyflwyno gwasanaethau rheilffordd pwrpasol i sicrhau y gall cefnogwyr deithio i'r gêm ac yn ôl:
- 08:20 Caergybi – Casnewydd
- 18:09 Caerdydd – Caergybi
Dywedodd Georgina Porter, Rheolwr Cyflenwi Cwsmeriaid a Chynllunio Digwyddiadau Trafnidiaeth Cymru: “Mae ein partneriaeth agos â Chymdeithas Bêl-droed Cymru yn parhau i lwyddo er lles cefnogwyr. Drwy ddarparu'r gwasanaethau ychwanegol hyn, rydym yn ei gwneud hi'n haws i gefnogwyr gefnogi eu tîm a theithio i'r rownd derfynol mewn ffordd gynaliadwy.
“Rydym eisiau i bawb gael profiad cofiadwy ar ddiwrnod gêm ac yn gofyn i bob teithiwr deithio’n gyfrifol a thrin ein staff â pharch.”
Dywedodd Macsen Jones, Swyddog Gweithredol Ymgysylltu â Chefnogwyr CBDC: “Hoffem ddiolch i Trafnidiaeth Cymru am eu cefnogaeth i Rownd Derfynol Cwpan Cymru JD ac am ddarparu gwasanaethau rheilffordd ychwanegol ar gyfer y gêm eleni.
“Bydd y gwasanaethau hyn yn helpu i sicrhau y gall cefnogwyr Tref Caernarfon a Thref y Fflint deithio i Gasnewydd a dychwelyd i ogledd Cymru mewn modd diogel a chyfleus ar ddiwrnod y gêm.
“Mae cydweithio cryf rhwng digwyddiadau mawr a phartneriaid trafnidiaeth yn hanfodol wrth gefnogi cefnogwyr pêl-droed ledled Cymru.”
"Mae Trafnidiaeth Cymru yn gweithio mewn cydweithrediad agos â Heddlu Trafnidiaeth Prydeinig i fonitro niferoedd y teithwyr a ddisgwylir. Bydd adnoddau diogelwch ychwanegol yn bresennol mewn gorsafoedd allweddol ac ar y gwasanaethau trên.
Atgoffir teithwyr na chaiff ymddygiad gwrthgymdeithasol na cham-drin geiriol tuag at staff eu goddef.
Anogir cefnogwyr i archebu eu tocynnau trên ymlaen llaw drwy ap neu wefan TrC – www.trc.cymru