23 Ion 2026
Mae gwelliannau yn cael eu gwneud i amserlen gwasanaeth T51 TrawsCymru Trafnidiaeth Cymru er mwyn gwella prydlondeb a dibynadwyedd cyffredinol y gwasanaeth.
O ddydd Sul, 25 Ionawr, bydd gwasanaethau gyda'r nos sy'n cysylltu Rhyl, Dinbych, Rhuthun a Wrecsam yn dychwelyd yn ogystal ag ychwanegu rhagor o wasanaethau yn dilyn adborth gan deithwyr.
Dyma'r gwasanaethau fydd yn dychwelyd:
- 21:50 rhwng Dinbych a Wrecsam
- 23:05 rhwng Wrecsam a Dinbych
Lansiwyd y gwasanaeth hwn fel rhan o raglen Rhwydwaith Gogledd Cymru, ac ers ei lansio, mae wedi trawsnewid teithio drwy ddyblu amlder y gwasanaeth rhwng Rhuthun a Wrecsam i bob awr ac am y tro cyntaf, gynnig gwasanaeth ar y Sul.
Mae gwelliannau pellach ar y gorwel ar gyfer y gwasanaeth T51 ac yn y Gwanwyn, bydd fflyd newydd sbon o gerbydau modern a chysurus gyda chynaliadwyedd wrth eu gwraidd yn cael eu rhoi ar waith.
Dywedodd Huw Morgan, Pennaeth Datblygu Rhwydwaith Trafnidiaeth a Bysiau Integredig Trafnidiaeth Cymru: “Bydd ail-ddechrau'r gwasanaethau gyda'r nos, ynghyd a bysiau newydd yn cael eu rhoi ar waith yn y misoedd nesaf, yn rhoi profiad mwy dibynadwy, cyfforddus a chysylltiedig i deithwyr.
“Mae'r gwelliannau hyn yn dangos ein hymrwymiad i wneud teithio ar fysiau yn haws, yn fwy o werth am arian ac yn fwy cyfleus i'n cymunedau. Golyga ein strwythur prisiau newydd a symlach bod teithio ar wasanaeth bws T51 hyd yn oed yn fwy fforddiadwy. Rydym eisoes yn gweld mwy o bobl yn defnyddio'r gwasanaeth, yn enwedig i gyrraedd Parc Busnes Llanelwy.“
Am fwy o wybodaeth, ewch i Newidiadau i wasanaeth T51 - TrawsCymru