Skip to main content

New earlier services for Cardiff Half Marathon runners

19 Medi 2024

Bydd rhedwyr sy'n cystadlu yn Hanner Marathon Caerdydd ym mis Hydref eleni yn gallu dal y trên i mewn am y tro cyntaf erioed

Mae disgwyl i dros 20,000 gystadlu ar 6 Hydref. 

Yn draddodiadol mae'r ras wedi digwydd bob amser ar fore Sul ac mae'r amser cychwyn cynnar wedi golygu opsiynau trafnidiaeth gyhoeddus cyfyngedig iawn i'r rhai sy'n teithio i mewn.

Ond mae cytundebau newydd gyda chriw trenau ynghylch gweithio ar ddyddiau Sul wedi golygu bod ni bellach yn gallu rhedeg gwasanaethau cynharach o orsafoedd allweddol i gael pobl i mewn ar amser ar gyfer dechrau’r ras. 

Bydd gan bobl sy'n teithio o Abertawe, Henffordd, Maesteg, Caerloyw, Glyn Ebwy, Ynys y Barri, Penarth, Radur a Rhymni wasanaeth i'w cludo i mewn cyn 9yb (bydd gwasanaethau yn galw yn y rhan fwyaf o orsafoedd ar y llwybrau hyn i Gaerdydd ond gwiriwch cyn teithio). 

Mae'r ras yn dechrau wrth ymyl Castell Caerdydd am 10yb, tua 12 munud ar droed o orsaf Caerdydd Canolog. Bydd gwasanaethau cymorth i gwsmeriaid hefyd ar waith. 

Dywedodd Georgina Wills, Rheolwr Cyflenwi Cwsmeriaid a Chynllunio Digwyddiadau: "Rydym yn gwybod pa mor bwysig yw hi i bobl ddod i mewn ar amser ar gyfer y ras felly rydym wrth ein bodd ein bod wedi rhoi'r cynllun hwn ar waith. 

"Fe wnaethon ni weithio'n agos gyda'r trefnwyr a'n partneriaid yn Network Rail a GWR i gynnal cymaint o wasanaethau yn gynnar yn y bore ag y gallwn. 

Mae dal y trên yn golygu eich bod yn cyrraedd canol Caerdydd ac mae'n tynnu’r straen i ffwrdd o geisio dod o hyd i le parcio neu drefnu lifft. 

"Pob lwc i bawb sy'n cymryd rhan ac rydym yn gobeithio gweld cymaint ohonoch â phosib ar y diwrnod!" 

 Dywedodd Matt Newman, Prif Weithredwr Run 4 Wales: "Rydym wrth ein bodd ein bod yn gweithio gyda Trafnidiaeth Cymru i ddarparu trenau ychwanegol ar gyfer Hanner Marathon Caerdydd Principality. 

 "Mae Run 4 Wales yn angerddol dros geisio cydbwyso'r effaith mae cynnal digwyddiadau mawr yn ei gael ar yr amgylchedd.

"Teithio yw'r cyfrannwr mwyaf at effaith amgylcheddol y digwyddiad, felly bydd hyn yn cael effaith sylweddol.  

"Mae cynyddu gwasanaethau trên dydd Sul ar ddiwrnod ein digwyddiad yn rhywbeth yr ydym wedi bod yn ceisio ei ddarparu ar gyfer ein rhedwyr ers sawl blwyddyn, felly rydym wrth ein bodd bod yr opsiwn cyfleus a chynaliadwy hwn yn cael ei gyflwyno ar gyfer 2024. 

"Byddem yn annog cymaint o bobl â phosibl i ddefnyddio'r gwasanaethau ychwanegol hyn a gobeithio ei fod yn rhywbeth y gallwn barhau i’w wneud yn y dyfodol." 

Dylai'r rhai sy'n teithio i mewn sicrhau eu bod yn gwirio manylion eu taith cyn teithio YMA 

Mae gwaith peirianyddol hanfodol yn digwydd rhwng Treherbert, Aberdâr a Merthyr a Radur, ond rydym yn rhedeg bysiau ychwanegol i gysylltu â threnau yn Radur, gan barhau i roi'r opsiwn o drafnidiaeth gyhoeddus i gwsmeriaid. 

Mae gwaith peirianyddol hefyd yn cael ei wneud ar lein Bro Morgannwg a gall cwsmeriaid o Lanilltud Fawr a'r Rhws naill ai gymryd bws yn lle trên i'r Barri neu Ben-y-bont ar Ogwr lle gallant ddal y trên, neu wneud eu ffordd eu hunain i'r gorsafoedd hynny. 

Nodiadau i olygyddion


Hanner Marathon Caerdydd | Trafnidiaeth Cymru (trc.cymru)

Cyrchfan

Amser gadael

Amser cyrraedd

Caerdydd Canolog 

Radur (trwy Caerdydd Heol y Frenhines)

07.55

08.11

Pen-y-bont ar Ogwr

07.45

08.12

Glynebwy (trwy Casnewydd)

07.08

08.17

Rhymni

07.28

08.27

Caerloyw

07.20

08.37

Ynys y Barri

08.09

08.40

Maesteg

07.48

08.41

Abertawe (Gwasanaeth GWR)

07.55

08.48

Henffordd

07.45

08.56

Penarth

08.45

08.58

Radur (drwy Caerdydd Heol y Frenhines)

08.58

09.15

Ynys y Barri       

08.49   

09.21

Caerffili

09.10

09.29

Abertawe           

08.35

09.28

Caerdydd Heol y Frenhines

09.29

09.33

Parcffordd Bryste

08.58

09.42

Abertawe           

08.41

09.37

Casnewydd      

09.29

09.48

Glynebwy

08.52

09.52

Ynys y Barri

09.19

09.50

Radur

09.36

09.55

Rhymni

09.00

10.02

Caerloyw           

08.45

10.03

Penarth              

09.50   

10.03