Skip to main content

New fflecsi bus services reaching across Newport

26 Gor 2021

Mae Trafnidiaeth Cymru, ar y cyd â Chyngor Dinas Casnewydd a Bws Casnewydd yn cynyddu ardal y mae’r Gwasanaeth fflecsi yn ei wasanaethu yn sylweddol, sy'n golygu y bydd fflyd o 9 bws bach newydd sbon nawr yn gwasanaethu Casnewydd gyfan.

Yn dilyn llwyddiant y peilot fflecsi cyntaf yng Nghymru a lansiwyd mewn dwy ardal yng Nghasnewydd y llynedd (Tŷ Du a St Julian's), bydd y gwasanaeth newydd hwn yn ategu at ac yn gwella'r gwasanaethau bysiau a drefnwyd eisoes a bydd yn lansio'r haf hwn. 

Bydd y bysiau fflecsi yn rhoi mynediad i lawer mwy o bobl ledled Casnewydd i drafnidiaeth gyhoeddus, gan weithredu rhwng 6.00am a 11.00pm (dydd Llun - dydd Sadwrn) gan alluogi preswylwyr i ddefnyddio'r gwasanaeth llawer ehangach hwn i deithio yn gynnar yn y bore tan yn hwyr y nos.  Bydd gwasanaeth dydd Sul hefyd ar gael rhwng 9.00am a 7.00pm. Nod y cynllun yw ei gwneud hi'n haws i breswylwyr gyrraedd y gwaith, yr ysgol neu apwyntiadau, ar gyfer siopa, cwrdd â ffrindiau neu gysylltu â bysiau a threnau eraill.

Rydych chi'n talu ar y bws fel unrhyw wasanaeth arall a bydd y prisiau yr un fath ag ar wasanaethau Bws Casnewydd a bydd tocynnau rhatach a Thocyn MyTravel hefyd yn ddilys.  Y gwahaniaeth mwyaf yw bod yn rhaid i chi archebu'r tocyn bws ar yr ap neu dros y ffôn.  Bydd yr ap neu'r ganolfan alwadau yn cynnig y dewis teithio gorau i chi, p'un ai yw hynny ar Fws Casnewydd lleol neu trwy'r gwasanaeth fflecsi.

Dywedodd James Price, Prif Swyddog Gweithredol Trafnidiaeth Cymru:  “Mae'r gwasanaeth arloesol hwn yn rhan bwysig o weledigaeth Trafnidiaeth Cymru a Llywodraeth Cymru i leihau defnyddio ceir a hyrwyddo mathau mwy gwyrdd o deithio, tra hefyd yn cefnogi'r economi leol a sicrhau mynediad at drafnidiaeth gyhoeddus.  Rydym yn hapus iawn gyda llwyddiant y peilot fflecsi yng Nghasnewydd ac rydym yn falch iawn o allu ehangu'r gwasanaeth gyda naw bws newydd sbon."

Dywedodd y Dirprwy Weinidog dros Newid Hinsawdd, Lee Waters: “Rwy’n  hapus iawn y bydd y gwasanaeth bws fflecsi nawr yn cael ei gyflwyno ledled Casnewydd yn dilyn llwyddiant y gwasanaeth yn Tŷ  Du a St Julian's.  Mae  fflecsi yn gynllun newydd cyffrous sy'n edrych ar y ffordd wahanol rydyn ni'n gweithredu ein system drafnidiaeth yng Nghymru. Mae'n rhoi mwy o reolaeth  i deithwyr o ran sut maen nhw'n symud o gwmpas trwy roi mynediad iddyn nhw i deithio dibynadwy a hyblyg, a helpu i greu Cymru mwy gwyrdd. ”

Dywedodd Scott Pearson, Rheolwr Gyfarwyddwr Trafnidiaeth Casnewydd: “Mae Trafnidiaeth Casnewydd unwaith eto ar flaen y gad o ran mentrau trafnidiaeth gyhoeddus yn y DU fel gweithredwr rhwydwaith ledled y ddinas o wasanaethau bysiau trefol ar alw.  Bydd y gwasanaeth estynedig fflecsi yn gyflenwad defnyddiol i'n rhwydwaith bysiau wedi'u trefnu.  Fel y prif weithredwr bysiau yng Nghasnewydd, rydym yn hyderus y bydd y rhyngweithio rhwng fflecsi a'r gwasanaethau bysiau arferol sydd ar gael yn darparu gwybodaeth werthfawr sy'n galluogi ein Tîm Gweithrediadau i adolygu'r gwasanaethau bysiau a drefnwyd ar gyfer y bobl sy'n byw, gweithio, astudio, siopa a chymdeithasu yng Nghasnewydd, er mwyn sicrhau ein bod yn darparu rhwydwaith cynhwysfawr sy'n seiliedig ar alw gan gwsmeriaid ar gyfer y dyfodol”.

Dywedodd y Cynghorydd Roger Jeavons, dirprwy arweinydd Cyngor Dinas Casnewydd ac aelod cabinet dros wasanaethau dinas: “Rydym yn credu fod hwn yn gyfle gwych i wella’r rhwydwaith trafnidiaeth gyhoeddus yn y ddinas a chynnig gwasanaethau bysiau gwell i’n preswylwyr gan roi mwy o ddewis a mwy o hyblygrwydd iddyn nhw gyda'u teithiau.

“Un o agweddau cadarnhaol niferus fflecsi yw y bydd yn ategu at y gwasanaethau a drefnwyd gan Bws Casnewydd, nid eu disodli.  Rwy'n siŵr y bydd yn boblogaidd gyda theithwyr ac y bydd yn bodoli y tu hwnt i'r peilot.  Mae Casnewydd yn arwain y ffordd o ran darparu gwasanaethau trafnidiaeth gyhoeddus sy'n addas ar gyfer heddiw a'r dyfodol.”

I wybod mwy, gan gynnwys manylion y gwasanaethau, map o'r parth fflecsi a sut i archebu, ewch i www.fflecsi.cymru/.