Skip to main content

Direct trains between Crosskeys and Newport for the first time in 60 years

12 Rhag 2021

Am y tro cyntaf ers bron i 60 mlynedd, bydd teithwyr yn gallu elwa ar wasanaethau trên uniongyrchol rhwng Crosskeys a Chasnewydd fel rhan o ddiweddariad Rhagfyr 2021 o amserlen Trafnidiaeth Cymru (TrC) a datblygu Metro De Cymru.

Yn flaenorol, roedd teithwyr oedd yn dymuno teithio o Crosskeys i Gasnewydd yn gorfod teithio ar wasanaeth uniongyrchol i Gaerdydd ac yna newid trên er mwyn gallu parhau i Gasnewydd.  Fodd bynnag, o 12fed Rhagfyr eleni, bydd y gwasanaeth newydd bob awr hwn rhwng Crosskeys a Chasnewydd yn rhedeg tan 21:20, o ddydd Llun i ddydd Sadwrn, a bydd y gwasanaeth yn rhedeg bob dwy awr ar ddydd Sul.  Bydd gwasanaethau hefyd yn galw yng ngorsafoedd Risga a Phontymister, Tŷ Du a Pye Corner.

Mae ailgyflwyno'r gwasanaeth, a ddaeth i ben ym mis Ebrill 1962 ar ôl cau Rheilffordd Glyn Ebwy i deithwyr, wedi bod yn bosibl gyda buddsoddiad o £1.2 miliwn i uwchraddio Llinell Glyn Ebwy, a gyflawnwyd diolch i gydweithio rhwng TrC a Network Rail.  

Dywedodd Lee Waters, y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd, sydd â chyfrifoldeb dros drafnidiaeth: “Mae'n wych gweld hyn ar waith o'r diwedd yn dilyn ymgyrch hir gan bobl leol.  Rydym yn awyddus i ymestyn y gwasanaeth i Glyn Ebwy cyn gynted â phosibl fel rhan o uwchraddio'r system drafnidiaeth gyhoeddus ledled y rhanbarth.”

Dywedodd Colin Lea, Cyfarwyddwr Cynllunio a Pherfformiad TrC: “Mae adfer gwasanaethau uniongyrchol rhwng Glyn Ebwy isaf a Chasnewydd wedi bod yn uchelgais bwysig i ni ac rydym yn falch iawn y bydd teithwyr nawr yn elwa o’r gwaith caled a wnaed i wneud i hyn yn bosibl.  Mae hefyd yn gam pwysig yn natblygiad Metro De Cymru, wrth i gynlluniau ddatblygu i wella Llinell Glyn Ebwy ymhellach.”

Ychwanegodd Bill Kelly, cyfarwyddwr llwybr Network Rail Cymru a'r Gororau: “Roedd ailagor llinell Glyn Ebwy yn sylfaenol i sbarduno dadeni’r rheilffordd yng Nghymru felly mae’n wych gallu adeiladu ar y llwyddiant hwnnw gyda’r gwasanaeth uniongyrchol newydd hwn yn ôl ac ymlaen o Gasnewydd.

“Rydyn ni'n gweithio gyda Llywodraeth Cymru, Trafnidiaeth Cymru a phartneriaid eraill i ddarparu gwasanaethau amlach ar reilffordd Glyn Ebwy yn y dyfodol ac mae hon yn garreg filltir hynod bwysig tuag at hynny.

"Bydd gwella gwasanaethau hefyd yn effeithio ar amlder trenau sy'n teithio dros dair croesfan rheilffordd: Croesfannau rheilffordd Rhisga, Tŷ Melin (Tymelin) a Kings Head. Cynghorir defnyddwyr y croesfannau hyn i wirio'r amserlen newydd cyn defnyddio'r croesfannau er eu diogelwch eu hunain."

Nodiadau i olygyddion


  • Mae cynlluniau ychwanegol ar waith i gynnal gwaith uwchraddio pellach i Linell Glyn Ebwy, i gyflawni dyhead Llywodraeth Cymru i ymestyn gwasanaethau Casnewydd i Crosskeys i Dref Glyn Ebwy ac ailagor y llinell gangen i Abertyleri.
  • Bydd gwasanaethau rhwng Glyn Ebwy, Caerdydd a Chasnewydd yn rhan o Metro De Cymru. Bydd y Metro yn gwella cysylltedd ledled De Cymru yn sylweddol ac yn darparu mynediad at swyddi, hamddena a chyfleoedd eraill i bobl Cymru, trwy uno llwybrau rheilffordd, bysiau a theithio llesol.
  • Mae'r gwaith i ailgyflwyno'r llwybr hwn wedi'i ddatblygu ochr yn ochr ag uwchraddiad gwerth tri chwarter biliwn o bunnoedd TrC o Linellau Craidd y Cymoedd ar draws cymoedd De Cymru.