19 Ion 2026
Bydd Trafnidiaeth Cymru (TrC) yn treialu gwasanaeth uniongyrchol rhwng Gogledd Cymru a Chaerdydd yn dilyn dwy gêm pêl-droed ail gyfle Cwpan y Byd ym mis Mawrth.
Am y tro cyntaf, bydd gwasanaeth ôl-gêm pwrpasol am 23:00 rhwng Caerdydd a Chaergybi, gwasanaeth y gall cefnogwyr ei ddefnyddio i ddychwelyd adref yr un noson.
Gyda'r disgwyliad y bydd y tocynnau ar gyfer y ddwy gêm yn gwerthu allan, mae TrC wedi gynyddu'r capasiti ar draws y rhwydwaith er mwyn ateb y galw.
Cynhelir y treial hwn ar gyfer y gemau canlynol:
- Dydd Iau 26 Mawrth: Cymru v Bosnia a Herzegovina
- Dydd Mawrth 31 Mawrth: Cymru v Yr Eidal neu Ogledd Iwerddon
Er bod TrC wedi darparu gwasanaethau yn dilyn digwyddiadau yn gyson i Wrecsam a Chaer yn ystod y blynyddoedd diwethaf, gall cynnig gwasanaeth uniongyrchol i Gaergybi yn hwyr yn y nos alluogi cefnogwyr i deithio i gefnogi'r tîm cenedlaethol heb fod angen llety dros nos arnynt.
Gwnaed y gwasanaeth hwn yn bosibl yn dilyn adborth gan gwsmeriaid a chydweithio agos gyda Network Rail gan gytuno ar newid amserlen gwaith arfaethediga, ymestyn oriau agor y blychau signalau a pharatoi adnoddau ychwanegol ar gyfer criw trên a fflyd.
Dywedodd Georgina Wills, Rheolwr Cyflenwi Cwsmeriaid a Chynllunio Digwyddiadau: “Rydyn ni wedi gwrando ar ein cwsmeriaid, ac rydyn ni'n gwybod bod cyrraedd adref i Ogledd Cymru yn dilyn gem pêl -droed hwyr wedi bod yn her yn y gorffennol.
“Trwy weithio gyda'n partneriaid yn Network Rail, rydym yn falch o dreialu'r gwasanaeth uniongyrchol 23:00 hwn i Gaergybi i sicrhau bod cefnogwyr yn cyrraedd adref yn ddiogel.
Er mai treial yw hwn ar hyn o bryd, rydym am iddo lwyddo ac yn annog cefnogwyr i fanteisio ar y gwasanaeth a theithio gyda ni.”
Dywedodd Rachel Heath, Cyfarwyddwr Gweithrediadau Network Rail Cymru a'r Gororau, “Pleser yw gweithio'n agos gyda Thrafnidiaeth Cymru i helpu i wneud y gwasanaeth prawf hwn yn bosibl i gefnogwyr pêl-droed sy'n teithio yn ôl ac ymlaen o Ogledd Cymru.
“Trwy wneud newidiadau i amserlen gwaith peirianneg, ymestyn oriau agor y blychau signalau a sicrhau bod yr adnoddau cywir ar gael, rydym yn cefnogi teithio diogel a dibynadwy yn hwyr y nos yn dilyn digwyddiadau cenedlaethol mawr.
“Mae'r cydweithrediad hwn yn dangos sut y gallwn ymateb i adborth a gwneud i wasanaethau trenau weithio'n well i deithwyr pan fo'r galw ar ei uchaf.”
Ychwanegodd Macsen Jones, Swyddog Gweithredol Ymgysylltu â Chefnogwr Tîm Pêl-droed Cenedlaethol Cymru: “Rydym yn falch bod TrC wedi dewis treialu'r gwasanaeth hwn. Yn ystod ein ymgynghoriadau gyda'r cefnogwyr a’r adborth a gawsom, mae'r posibilrwydd ar gyfer creu’r llwybr hwn wedi codi’n gyson fel un a fyddai'n help mawr i gefnogwyr ddychwelyd adref i Ogledd Cymru ar ôl gemau.
“Rydym yn ddiolchgar i TrC am fynd ati i gydweithio a chreu'r llwybr hwn a'u hymrwymiad i weithio gyda ni i sicrhau bod cefnogwyr yn mwynhau profiad teithio cadarnhaol a di-drafferth wrth deithio i gemau.”
Nodiadau i olygyddion
26 Mawrth 2026: Cymru v Bosnia a Herzegovina yn Stadiwm Dinas Caerdydd
31 Mawrth 2026: Cymru v Yr Eidal / Gogledd Iwerddon yn Stadiwm Dinas Caerdydd