29 Awst 2025
Mae gwasanaeth bws TrawsCymru T4 ar fin cael ei uwchraddio, gyda Thrafnidiaeth Cymru (TrC) yn cyhoeddi amserlen newydd i ddarparu gwell amlder a dibynadwyedd.
Bydd y gwasanaeth yma, a weithredir gan Celtic Travel o ganolbarth Cymru, yn lansio ddydd Llun, 1 Medi 2025, gan barhau i gysylltu cymunedau rhwng y Drenewydd a Merthyr Tudful.
Mae llwybr y T4 wedi bod yn gyswllt hanfodol i gymudwyr, myfyrwyr, trigolion ac ymwelwyr ers dros 14 mlynedd, gan wasanaethu cyrchfannau gan gynnwys Bannau Brycheiniog, Sioe Frenhinol Cymru, a llawer o drefi a phentrefi hardd ar hyd y ffordd.
Beth sy'n newydd o 1 Medi?
- Yn gweithredu bob 2 awr rhwng y Drenewydd ac Aberhonddu, o ddydd Llun i ddydd Sadwrn
- Gwasanaeth bob awr rhwng Aberhonddu a Merthyr, o ddydd Llun i ddydd Sadwrn
- Gwasanaeth bob 2 awr ar ddydd Sul, gyda gwelliannau bob awr yn ystod oriau brig yr haf rhwng Aberhonddu a Merthyr
- Strwythur prisiau cost-effeithiol newydd, wedi'i alinio â rhwydwaith ehangach TrawsCymru
- Cerbydau newydd yn cyrraedd ym mis Mawrth 2026, gan gynnig cysur a pherfformiad amgylcheddol gwell
Bydd y gwasanaeth yn cael ei ddarparu mewn partneriaeth â Williams Coaches o Aberhonddu, gan sicrhau arbenigedd lleol a gweithrediadau dibynadwy.
Dywedodd Lee Robinson, Cyfarwyddwr Gweithredol Trafnidiaeth Ranbarthol ac Integreiddio yn Trafnidiaeth Cymru:
“Rydym yn edrych mlaen i lansio'r gwasanaeth T4 gwell gyda Celtic Travel. Bydd y gwelliannau hyn yn cynnig mwy o hyblygrwydd a gwerth i deithwyr, ac mae'r model partneriaeth yn dangos sut y gall gweithredwyr rhanbarthol gydweithio'n llwyddiannus i ddarparu trafnidiaeth gyhoeddus o ansawdd uchel.”
Ychwanegodd Phyl Davies, Rheolwr Gyfarwyddwr Celtic Travel:
“Rydym yn falch o fod yn ymgymryd â gwasanaeth T4 ac yn edrych ymlaen at gydweithio’n agos â Trafnidiaeth Cymru i ddarparu gwasanaeth dibynadwy o ansawdd uchel. Bydd yr amserlen a’r strwythur prisiau newydd yn cynnig mwy o hyblygrwydd a gwerth i deithwyr, ac rydym yn gyffrous am ddyfodiad cerbydau newydd y flwyddyn nesaf i wella’r profiad teithio ymhellach.”
Newidiadau Caerdydd - Merthyr
O fis Medi ymlaen, bydd Stagecoach yn lansio gwasanaeth X4 newydd rhwng Merthyr a Chaerdydd, yn rhedeg bob 60 munud, o ddydd Llun i ddydd Sadwrn, ac yn gwasanaethu Ystad Ddiwydiannol Trefforest i wella mynediad at gyflogaeth, addysg a hamdden.
Mae dewisiadau amgen i reilffyrdd yn parhau i fod ar gael, ac mae Trafnidiaeth Cymru yn archwilio opsiynau tocynnau integredig i gefnogi teithio di-dor.